Ewch i’r prif gynnwys

Tystysgrif Tyst Arbenigol

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Rydym yn gyfrifol dros asesu, sicrhau ansawdd ac ardystio rhaglen hyfforddi tystion arbenigol ffurfiol mewn partneriaeth â Bond Solon, darparwr hyfforddiant tystion arbenigol mwyaf blaenllaw’r DU.

Mae Bond Solon, prif ddarparwr hyfforddiant tyst arbenigol y DU, yn cynnig tair tystysgrif tyst arbenigol:

  • Tystysgrif Arbenigwr Sifil
  • Tystysgrif Arbenigwr Troseddol
  • Tystysgrif Arbenigwr Teulu

Mae Tystysgrif Tyst Arbenigol yn uchel ei pharch ymhlith cwmnïau'r gyfraith a phartïon cyfarwyddol eraill. Hyd yma, mae dros 1500 o arbenigwyr o amrywiaeth eang o broffesiynau wedi cwblhau neu wrthi'n cwblhau un neu fwy o'r tair tystysgrif.

Asesir y Dystysgrif Tyst Arbenigol* gan staff o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd ac os bydd yn llwyddiannus, rhoddir tystysgrif cymhwysedd i ymgeiswyr. Mae'r dystysgrif cymhwysedd yn dangos i'r partïon cyfarwyddo bod ymgeiswyr yn gymwys i gyflawni rôl y tyst arbenigol.

Mae Bond Solon yn darparu mynediad at wybodaeth bellach am feini prawf derbyn, cynnwys cwrs ac asesiad.

Sylwch nid yw'r Dystysgrif Tyst Arbenigol yn Wobr Prifysgol Caerdydd sy'n dwyn credyd. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig gwasanaethau asesu yn unig i Bond Solon ac mae holl reolau a rheoliadau Bond Solon yn bodoli ar gyfer ymgeiswyr sy'n ymgymryd â'r Dystysgrif Tyst Arbenigol