Ôl-raddedig a addysgir
Mae ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir, sydd wedi’u cynllunio'n ofalus, yn cynnwys agweddau ymarferol ac academaidd parhaus.
Rydym yn falch o gael cynnig cyrsiau integredig sy'n cyfuno theori a dysgu ymarferol i'n myfyrwyr mewn modd lle mae'r ddau ddull yn asio'n dda. Ein nod yw meithrin hyder ein corff myfyrwyr a'u darparu â gwybodaeth am gyfryngau'r byd go iawn ac arferion newyddiadurol sydd wedi'u seilio ar sylfaen academaidd gref. Caiff ein cyrsiau eu cynnal gan arbenigwyr y diwydiant sydd â blynyddoedd o brofiad ac sy'n angerddol dros rannu eu gwybodaeth.
Nid ydym yn credu mewn rhagoriaeth er ei les ei hunain: mae ein haddysgu ac ymchwil yn seiliedig ar ymrwymiad i foeseg, cyfrifoldeb cymdeithasol a phwysigrwydd newyddiaduraeth, y cyfryngau a chyfathrebu i broses ddemocrataidd iach. Fel myfyrwyr yn yr Ysgol, byddwch yn gallu cyfrannu i drafodaethau am faterion perthnasol wrth ddysgu arferion gorau'r diwydiant.
Ysgoloriaethau
Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Gradd Meistr a Addysgir Prifysgol Caerdydd gwerth o leiaf £3,000 yr un.
Cyrsiau a addysgir
Course | Qualification | Mode |
---|---|---|
Cyfathrebu Gwleidyddol | MA | Amser llawn |
Cyfryngau Digidol a Chymdeithas | MA | Amser llawn |
Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Rheoli Cyfathrebu Byd-eang | MA | Amser llawn |
Diwydiannau Diwylliannol a Chreadigol | MA | Amser llawn |
Dogfennau Digidol | MA | Amser llawn |
Gweinyddu Busnes gyda'r Cyfrynga | MBA | Amser llawn |
Newyddiaduraeth Cylchgronau | MA | Amser llawn |
Newyddiaduraeth Darlledu | MA | Amser llawn |
Newyddiaduraeth Gyfrifiadurol a Data | MSc | Amser llawn |
Newyddiaduraeth Newyddion | MA | Amser llawn |
Newyddiaduraeth Ryngwladol | MA | Amser llawn |
Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu | MA | Amser llawn |

"Agwedd fwyaf buddiol y cwrs yw'r profiad ymarferol o weithio â phobl sy'n dod o wledydd ledled y byd. Wrth fod mewn grwpiau gwahanol ar gyfer ystod o asesiadau ymarferol a damcaniaethol, rydych chi'n dysgu'n ddigon cyflym nad yw pawb yn anadlu, meddwl neu'n ymddwyn yn yr un modd."
Cysylltu
Postgraduate enquiries
Mae Newyddiaduraeth Newyddion wedi ennill gwobr NCTJ ar gyfer cwrs ôl-raddedig addysg uwch.