Ewch i’r prif gynnwys

Arloesedd a'n myfyrywyr

Mae myfyrwyr entrepreneuraidd wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer y System Arloesedd.

Bydd ein rhaglen 'Arloesedd i Bawb' yn helpu ac yn annog myfyrwyr i ymuno â gweithgareddau arloesedd.

Gan adeiladu ar weithgarwch presennol ac i gefnogi ein strategaeth addysg, byddwn yn meithrin diwylliant o allu arloesol a datrys problemau drwy gyfleoedd dysgu yn y cyfleusterau ymchwil newydd, lleoliadau gwaith, addysg fenter a graddau gydag elfen ddiwydiannol. Drwy wella cyflogadwyedd, ein nod yw darparu llif cyson o raddedigion medrus ar gyfer busnesau yng Nghymru a thu hwnt. Bydd ein myfyrwyr yn cael eu hannog i greu swyddi, nid dim ond chwilio am swyddi.