Arloesedd a'n staff
Mae ein llwyddiant o ganlyniad i gyflawniadau ein staff yn unigol a gyda'i gilydd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle gall pob aelod o staff gyrraedd eu potensial llawn.
Mae ein staff academaidd yn gweithio gyda phartneriaid o bob sector i gadw ni ar flaen y gad o ran arloesedd. Mae ein staff proffesiynol yn darparu cefnogaeth effeithlon ac effeithiol ac yn helpu arloesedd i ffynnu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu rheolwyr medrus ac arweinwyr mewn ymchwil, dysgu a gweinyddu, i feithrin arloesedd ar draws y Brifysgol.
Mae'r fideo isod ar gael yn y Saesneg yn unig.
Ebostiwch ni gyda'ch cwestiynau am ein hymchwil arloesol.