Ewch i’r prif gynnwys

Ein gweledigaeth

Rydym yn cysylltu pobl, lleoedd a phartneriaethau.

Mae'r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, wedi datblygu gweledigaeth ar gyfer twf a arweinir gan arloesedd yng Nghymru. Mae System Arloesedd Caerdydd yn gweithio gyda rhanddeiliaid o'r holl sectorau er mwyn galluogi'r Brifysgol i ysgogi twf, gan hybu Cymru fel canolfan ar gyfer creu swyddi, ffynhonnell graddedigion medrus iawn a chanolfan ffyniannus ar gyfer arloesedd.

Meddylwyr creadigol

Rydym wedi ymrwymo i hybu twf economaidd a chynnydd cymdeithasol yng Nghymru, gan atgyfnerthu ein cyfrifoldeb sifig. Rydym yn arbenigo mewn troi ein gwaith ymchwil blaenllaw yn llwyddiant masnachol, ac rydym yn cynhyrchu 96.8% o'r holl elw eiddo deallusol a gynhyrchir mewn prifysgolion yng Nghymru.

Rydym ymhlith y 10 sefydliad addysg uwch gorau yn y DU am nifer y rhaglenni trosglwyddo gwybodaeth. Mae ein harloesedd a'n harbenigedd wedi helpu’r sectorau gweithgynhyrchu a busnesau, y sectorau meddygol a gofal iechyd a'r diwydiannau diwylliannol i wella eu perfformiad, eu prosesau a'u cynaliadwyedd. Rydym yn dal y trydydd safle am yr ail flwyddyn yn olynol yn ôl Octopus Ventures Spinning out Success: Entrepreneurial Impact Ranking 2020, sy'n mesur busnesau cynaliadwy yn seiliedig ar incwm ymchwil a gwerth ymadael cwmnïau deillio.

Mae ein myfyrwyr yn cael eu hannog i greu swyddi, nid dim ond chwilio am swyddi. Trwy ennill profiad yn y gwaith, rhaglenni gradd sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, ac addysg rheoli a gweithredu, byddwn yn cyflwyno llif cyson o raddedigion medrus ar gyfer busnesau yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein graddedigion dawnus a brwdfrydig wedi sefydlu dros 135 o gwmnïau newydd yn y pedair blynedd diwethaf.

Lleoedd ar gyfer rhannu syniadau

Mae ein Campws Arloesedd yn trawsnewid ein diwylliant gweithio, gan greu canolbwynt ar gyfer gweithgarwch ymchwil a datblygu yng Nghymru. Mae ein pwyslais ar werth cymdeithasol arloesedd yn amlwg wrth i ni greu parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd.

Partneriaethau rhyngwladol

Byddwn yn parhau i gysylltu diwydiant â'n hacademyddion, gan fynd i'r afael ag anghenion busnesau a chyflymu'r broses o droi arloesedd yn dechnolegau a chynnyrch newydd, yn ogystal â gwasanaethau, deilliannau a busnesau newydd yng Nghymru a ledled y byd.

Cysylltwch â ni

Tîm Ymgysylltu Busnes a Phartneriaethau