Ewch i’r prif gynnwys

Newid Agweddau mewn Trafodaethau Cyhoeddus

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae Newid Agweddau mewn Trafodaethau Cyhoeddus wedi datblygu ymyriadau ymarferol i wella trafodaethau cyhoeddus: lleihau haerllugrwydd, cynyddu meddwl agored a meithrin gostyngeiddrwydd.

Mae barn wleidyddol mewn sawl democratiaeth Orllewinol yn dangos arwyddion o bolareiddio cynyddol. Mae hyn yn cyd-daro â newid naws mewn dadleuon. Yn ôl pob golwg, mae ymddygiadau haerllug fel gweiddi, gwawdio, diystyru neu dorri ar draws pobl eraill yn anghwrtais yn ystod trafodaethau yn digwydd yn fwy aml ac yn eang.

Lleihau ymarweddiad amddiffynnol, annog gostyngeiddrwydd mewn trafodaeth

Mae'r prosiect amlddisgyblaethol hwn wedi llwyddo i ddatblygu a phrofi ymyriadau ymarferol i fynd i'r afael ag ymddygiadau haerllug. Mae ein ffocws ar dechnegau hunan gadarnhad yn helpu pobl i roi hwb i'w hunan-fri drwy feddwl am y gwerthoedd sy'n bwysig iddynt.

Elfen greiddiol o'r prosiect yw cynnal profion i bennu a yw'r technegau hyn yn helpu i leihau ymarweddiad amddiffynnol, a thrwy hynny leihau haerllugrwydd deallusol a chodi gostyngeiddrwydd mewn trafodaethau.

Drwy fabwysiadu ymyriadau profedig o’r fath, gall ein hysgolion a'n busnesau, llywodraethau ac elusennau, a sefydliadau dylanwadol fel y cyfryngau wella naws a chynnwys trafodaethau cyhoeddus yn y gymdeithas yn ehangach.

Mae ein blog Open for Debate yn edrych ar natur newidiol trafodaeth gyhoeddus, gan gynnig lle i academyddion, newyddiadurwyr, llunwyr polisïau a'r cyhoedd ystyried sut mae naws y ddadl yn newid, a beth y gallwn ni ei wneud i fynd i'r afael ag ymddygiadau haerllug neu ymosodol.

Caiff Newid Agweddau mewn Trafodaethau Cyhoeddus ei redeg ar y cyd gan yr Athro Alessandra Tanesini (Prifysgol Caerdydd) a'r Athro Gregory Maio (Prifysgol Caerfaddon), ac fe'i cyllidir gan Humility and Discourse in Public Life.

Partneriaid y Prosiect: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerfaddon, Prifysgol Nottingham

Hyd y prosiect: 2017-2019

Cyllid: Humility and Discourse in Public Life mewn cytundeb is-ddyfarniad gan Brifysgol Connecticut a gyllidir gan Sefydliad John Templeton (Grant 58942).