Ewch i’r prif gynnwys

Rhyngweithio effeithiol ar-lein

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Gan harneisio technolegau sy'n dod i'r amlwg yn y dyniaethau digidol i ddadansoddi disgwrs ar-lein mewn gwahanol gyd-destunau gweithle ac ymdrin ag anghydraddoldeb mynediad, cyllidir prosiect Amrywiaeth Rhyngweithiol Ar-lein ar y cyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a Chyngor Ymchwil Iwerddon.

Newid cyd-destun y gweithle ar-lein: y colyn digidol a symbylwyd gan COVID-19

Rydym yn fwy cysylltiedig nag erioed o'r blaen ond a ydym ni’n cyfathrebu'n effeithiol?

Yng nghanol y 'colyn digidol' fel y'i gelwir, a sbardunwyd gan COVID-19, mae rhith-gyfathrebu ar-lein wedi dod yn ganolog i’n bywydau beunyddiol, yn broffesiynol ac yn breifat. Er bod ein profiad o'r newid digidol hwn wedi dangos y gallwn weithredu’n broffesiynol ar-lein, mae'r prosiect hwn yn trafod yr angen am well dealltwriaeth o’n ffordd newydd o gyfathrebu yn y gweithle.

Yn sicr gweithredodd y pandemig a ddaeth i'r amlwg yn 2020 fel catalydd ar gyfer newid gan effeithio ar ymddygiad cynhyrchwyr a defnyddwyr cynnwys rhyngweithiol digidol.   Mae busnesau wedi newid eu ffordd o ryngweithio â chwsmeriaid. Mae sefydliadau diwylliannol wedi cofleidio gwahanol ffyrdd o gyflwyno cynnwys yn ddigidol, ac yn aml yn cyd-gynhyrchu gyda'u cynulleidfaoedd. Mae addysg wedi gweld dulliau rhyngweithiol ar-lein yn cael eu mabwysiadu ar raddfa fawr. Mae'r prosiect yn pwyso a mesur: A yw cyfathrebu rhithwir yn deg? A yw'r paradeimau presennol ar gyfer dadansoddi disgwrs yn addas i'r diben?

Mae ymchwilwyr blaenllaw yn y DU ac Iwerddon yn cydweithio i gynnig y genhedlaeth nesaf o fframweithiau dadansoddol ar gyfer dadansoddi'r math newydd hwn o ddisgwrs. Bydd eu fframweithiau newydd yn cefnogi ymchwil yn y celfyddydau a'r dyniaethau a chymunedau defnyddwyr, gan arwain at newid sylweddol yn ein gallu i ddatblygu mynediad cyfartal wrth gyfathrebu ar-lein.

Beth mae 'ailgodi'n gryfach' yn ei olygu i gyfathrebu ar-lein

Mae'r prosiect amserol hwn yn archwilio cyfathrebu rhithwir yn y gweithle i sicrhau dealltwriaeth ddofn o’r rhwystrau posibl i gyfathrebu effeithiol. Rydym yn archwilio nid yn unig yr hyn sy'n peri i ddisgwrs rhithwir yn y gweithle lwyddo neu fethu, ond hefyd beth sy’n caniatáu ar gyfer nodi'r newidynnau penodol sy'n gysylltiedig â'r canlyniadau hynny. Mae ein hastudiaeth yn aml-foddol, gan ganolbwyntio ar yr hyn a ddywedir a hefyd ar sut y’i dywedir ac ystyried traw, goslef, mynegiant wyneb, ystum a syllu.

Bydd y canfyddiadau'n arwain at greu protocolau technegol priodol ar gyfer dal a dadansoddi rhyngweithio yn aml-foddol mewn cyd-destunau niferus (sut i drawsgrifio ystum a'i alinio ag ymadrodd er enghraifft), ased ar ffurf archif ar-lein a deunyddiau hyfforddi i godi ymwybyddiaeth a gyd-gynlluniwyd ar gyfer anghenion ein partneriaid yn y prosiect.

Ein nod yw esblygu ffyrdd safonol o fynd i'r afael â chwestiynau am ddefnyddio iaith sy'n hygyrch ac yn rhai y gellir eu cynhyrchu/hatgynhyrchu i ymchwilwyr yn y Dyniaethau yn ogystal ag arbenigwyr annhechnegol.

Hyd y prosiect

Awst 2021 – Chwefror 2024.

Cyllid

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a Chyngor Ymchwil Iwerddon (Galwad Grantiau Ymchwil Cydweithrediad rhwng y DU ac Iwerddon yn y Dyniaethau Digidol rhifau grant AH / W001608 / 1 ac IRC / W001608 / 1).

Cysylltiadau staff

Dr Dawn Knight

Dr Dawn Knight

Senior Lecturer

Email
knightd5@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6325