Ewch i’r prif gynnwys

Ffoaduriaid Cymru - Bywyd wedi Trais

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Archwilio naratifau ffoaduriaid diweddar ac yn y gorffennol y mae Ffoaduriaid Cymru - Bywyd wedi Trais, gyda ffocws sensitif ar berthyn, trawma a chof, ac fe'i cyllidir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

Sut mae bod yn ffoadur yn newid ymdeimlad pobl o bwy ydych chi ac i ble'r ydych chi'n perthyn? Sut ydych chi'n ymdopi ag addasu i wlad newydd a chartref newydd?

Nod Ffoaduriaid Cymru yw rhoi llais a lle i ffoaduriaid fynegi eu profiad newidiol o ryfel, ffoi a chymathu i gymdeithas newydd, gan gofnodi profiad dau grŵp o ffoaduriaid sy'n byw yng Nghymru heddiw: Tamiliaid o Sri Lanka sydd wedi byw a gweithio yma ers tair cenhedlaeth a ffoaduriaid o ryfel Syria sydd bellach yn ymgartrefu yng Nghymru.

Mae'r prosiect yn portreadu trawma ac yn ail-gydbwyso astudiaethau o'r cof gyda ffocws newydd ar bynciau a esgeuluswyd, heb fod yn rhai Gorllewinol. Bydd y canfyddiadau'n cyfrannu at well dealltwriaeth gan y cyhoedd, gyda ffocws hanfodol ar lywio polisïau ac ymarfer sy'n effeithio ar brofiad ffoaduriaid yng Nghymru a'r DU gyfan.

Mae Ffoaduriaid Cymru'n edrych ar y broses o berthyn drwy gasglu naratifau hanes llafar o gyrraedd fel ffoadur i ddod yn ddinesydd ac yn olaf yn Brydeinig dros genedlaethau. Caiff pob naratif ffoadur ei guradu'n ofalus, a bydd yn parhau o fewn Stori Cymru, archifau sain Amgueddfa Cymru, gan helpu i gofnodi bywyd yng Nghymru yn ei holl amrywiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Bydd ei archif data hefyd yn adnodd cyfoethog o brofiad goddrychol ffoaduriaid yng Nghymru'r 21ain ganrif i lunwyr polisi, gweithwyr trydydd sector, athrawon ac ymchwilwyr. Caiff canfyddiadau allweddol eu hamlygu mewn cyfres o erthyglau mewn cyfnodolion a'u manylu mewn llyfrau gyda chyhoeddwyr mawr.

Dull ymchwil

Gan ddefnyddio cyfweliadau manwl am hanes eu bywyd, gweithdai cyfranogol a dadansoddiad testunol, mae Ffoaduriaid Cymru'n archwilio atgofion am ryfel, ffoi, ceisio lloches a setlo yng Nghymru, ac yn edrych ar sut mae cofio'r profiadau hyn yn effeithio ar integreiddio. Bydd yn casglu, yn cymharu ac yn cyferbynnu lleisiau o gymuned Tamil Sri Lanka sydd eisoes yng Nghymru a'r gymuned Syriaidd newydd i olrhain y daith o ffoadur i ddinesydd.

Effaith gymdeithasol a diwylliannol bellgyrhaeddol

Mae'r prosiect pellgyrhaeddol hwn yn archwilio sut y gallai hanes llafar groestorri â dulliau trawma a chof i alluogi'r cyfweleion sydd wedi dioddef trawma i ddatblygu ymdeimlad o rym.

Caiff y ffoaduriaid eu grymuso i adrodd eu straeon eu hunain, a bydd ysgolion, asiantaethau'r llywodraeth a sefydliadau'r trydydd sector yn elwa o gael cipolwg ar y profiad byw diolch i amrywiol brosiectau creadigol gwreiddiol a hwylusir gan ein diwydiannau creadigol deinamig.

Gyda’i wreiddiau yng Nghymru, uchelgais Ffoaduriaid Cymru yw cyrraedd ymhell y tu hwnt i'r Genedl Noddfa hon. Bydd yn ceisio sicrhau effaith ddiwylliannol a chymdeithasol barhaol, gan ddarparu model ymchwil newydd gyda chyd-gyfranogiad gweithredol cymunedau ffoaduriaid, a bydd tb mynd i'r afael yn benodol â chynwysoldeb ac amrywiaeth o ran rhaglennu a chasgliadau amgueddfeydd cyhoeddus.

Partneriaid y Prosiect

Amgueddfa Cymru ac Oasis, Caerdydd

Hyd y prosiect

2019-2023

Cyllid

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Cysylltiadau staff perthnasol

Yr Athro Radhika Mohanram

Yr Athro Radhika Mohanram

Professor, English and Critical and Cultural Theory

Email
mohanramr1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6151