Ewch i’r prif gynnwys

Saesneg Iaith

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

English Language at Cardiff University

Cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o sut y mae iaith yn gweithio fel system, sut mae’n ffurfio’r byd o'n cwmpas, a sut mae’n croestorri â diwylliant, cymdeithas a gwleidyddiaeth.

Cynrychioli a llunio'r byd

Rydym wedi ein hamgylchynu gan iaith. Dyma sut rydym ni'n cynrychioli a'n llunio'r byd o'n cwmpas, Mae astudio Saesneg Iaith ar lefel gradd yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o sut mae iaith yn gweithio fel system, sut caiff ei ddefnyddio er mwyn mynegi hunaniaeth a sut caiff ei ddefnyddio er mwyn adlewyrchu a llywio agweddau.

Byddwch yn cael eich addysgu gan staff academaidd sy'n gweithio ar flaen y gad mewn gwaith ymchwil yn eu meysydd. Byddant yn rhoi cipolwg unigryw i chi ar y gwaith ymchwil iaith Saesneg mwyaf arloesol a chyfredol.

Eich dyfodol mewn golwg

Mae graddau mewn Saesneg Iaith yn cyfuno'r sgiliau dyniaethau gorau (cyfathrebu gwych, synthesis a dadansoddi) a sgiliau'r gwyddorau cymdeithasol (dadansoddi technegol cadarn a'r dull systematig). Mae cyrchnodau cyffredin ar gyfer ein graddedigion yn cynnwys therapi iaith a lleferydd, addysgu cynradd ac uwchradd, TEFL, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, gwerthiant a hysbysebu, y gwasanaeth sifil a gweinyddiaeth gyhoeddus.

Rhaglenni gradd anrhydedd sengl

Amser llawn

Rhan-amser

Gallwch hefyd astudio Saesneg Iaith ochr yn ochr a'r pynciau canlynol: