Athroniaeth
Philosophy at Cardiff University
Sut dylem fyw ein bywydau? Beth ddylem ni ei gredu? Sut dylem fynd ati i geisio ateb y cwestiynau hyn? Sut gallwn ni hyd yn oed feddwl amdanynt?
Mae Athroniaeth yn ymchwilio i'r materion dwys hyn. Dyma'r ddisgyblaeth academaidd hynaf ac mae wedi datblygu ystod drawiadol o gysyniadau a thechnegau ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau anodd. Yn ystod tair blynedd o astudio, byddwch yn datblygu ac yn mireinio eich sgiliau meddwl trwy ystyried posau athronyddol manwl.
Rydym yn cynnig cwrs annibynnol mewn athroniaeth, yn ogystal â'r dewis i astudio athroniaeth gyda chydanrhydedd.
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Astudiaethau Crefyddol ac Athroniaeth (BA) | VV65 |
Athroniaeth (BA) | V500 |
Athroniaeth ac Ieithyddiaeth (BA) | QV36 |
Cymraeg ac Athroniaeth (BA) | QV55 |
Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth (BA) | LV25 |
Iaith Saesneg ac Athroniaeth (BA) | QV35 |
Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth (BA) | VQ53 |
Eich dyfodol mewn golwg
Mae astudio athroniaeth gyda ni yn baratoad ardderchog ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd i raddedigion ar draws pob sector o'r economi. Mae sgiliau a chysyniadau allweddol y ddisgyblaeth yn ddefnyddiol wrth ddatrys pob math o broblemau.
Mae graddedigion athroniaeth yn aml yn cael gyrfaoedd llwyddiannus iawn yn y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, mewn elusennau a sefydliadau dielw eraill, ac mewn swyddi rheoli mewn busnesau mawr
More information on our undergraduate courses, plus where they might take you, is available on our course finder.