Gweithgynhyrchu uwch
Rydyn ni’n cynnal ymchwil arloesol ar raddfeydd micro a nano i ddeunyddiau, systemau a thechnolegau trawsffurfiol.
Rydyn ni’n datblygu technolegau arloesol ac amgylcheddol i drawsffurfio cyflawniad peirianneg a’r economi yn niwydiannau cludiant, cynhyrchu ynni a gweithgynhyrchu.
Mae ein hymchwil yn y maes hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu deunyddiau a strwythurau craff a phrosesau gweithgynhyrchu cynaliadwy a fydd yn ein helpu i greu economi gynaliadwy a glanach. Rydyn ni’n datblygu modelau cyfrifiadurol, systemau seibr-ffisegol uwch, deallusrwydd artiffisial dynol ei ganolbwynt, systemau annibynnol a roboteg i helpu i hwyluso trawsffurfio digidol cynhwysol ac adeiladu ffatrïoedd craff sy’n ymatebol, cynhyrchiol a gwydn at y dyfodol.
Ein nod yw hybu arloesedd a chynaliadwyedd, helpu i ddatblygu’r gymdeithas a’r economi a chyfrannu at welliannau ynghylch iechyd ac ansawdd bywyd.
Ymhlith ein partneriaid diwydiannol mae rhai o gwmnïau peirianneg enwoca’r byd megis Airbus, BAE Systems, Mazak, Mercedes AMG Formula One, Renishaw, Rolls Royce ac SKF. Rydyn ni’n cyfrannu at anghenion rhanbarthau lleol hefyd, trwy gydweithio â chwmnïau bach yng Nghaerdydd a’r Deyrnas Unedig.
Arbenigedd
Mae arbenigedd gan ein hymchwilwyr yn y meysydd canlynol:
- cynhyrchu haenau ychwanegol, deunyddiau laser a nano
- cynhyrchu awyrennau a cherbydau
- systemau annibynnol a roboteg
- deunyddiau cyfansawdd a nano-gyfansawdd
- systemau seiber-ffisegol
- gweithgynhyrchu digidol a dadansoddeg gweithgynhyrchu
- deallusrwydd artiffisial dynol ei ganolbwynt a systemau dynol-peiriannol uwch
- deunyddiau a chymwysiadau magnetig
- mecaneg deunyddiau solet a’u strwythurau
- triboleg a chyflawniad mecanyddol a strwythurol
- modelu ac optimeiddio aml ei raddfeydd
- deunyddiau a systemau clyfar
- gweithgynhyrchu cynaliadwy a’r economi gylchol
Uchafbwyntiau a buddsoddiadau diweddar
Mae’n (IROHMS) yn brosiect £4.6 miliwn gyda’r nod o hybu deallusrwydd artiffisial sy’n debyg i feddwl dynol a chydweithio rhwng pobl a robotiaid. Mae’r ganolfan ryngddisgyblaethol yn adeiladu ar arbenigedd ymchwil rhyngwladol eu bri Ysgolion Peirianneg, Cyfrifiadureg a Gwybodeg a Seicoleg Prifysgol Caerdydd.
Ymhlith ein llwyddiannau eraill mae gwaith ar ASTUTE 2020 (Advanced Sustainable Manufacturing Technologies, gwerth £10.7miliwn i Brifysgol Caerdydd), sef partneriaeth rhwng sawl brifysgol ac wedi’i chefnogi gan yr UE i gryfhau arloesi masnachol mewn cwmnïau gweithgynhyrchu ledled Cymru ar y cyd ag Ysgol Busnes ac Ysgol Meddygaeth Caerdydd.
Mae £1.8 miliwn wedi’u buddsoddi yn ddiweddar yn , a i’w galluogi i gynnal rhagor o ymchwil i ddulliau uwch triboleg ar gyfer llongau, hofrenyddion ac awyrennau.
Rydyn ni wedi ennill dyfarniadau er mwyn symud a chyfnewid staff hefyd, megis Cymrodoriaeth Ddiwydiannol Academi Frenhinol Peirianneg gyda chwmni Airbus, cymrodoriaethau wedi’u hariannu gan Sêr Cymru ac MSCA a Chymrodoriaeth Ymwelydd o Fri Academi Frenhinol Peirianneg.
Arweinwyr yr ymchwil
Dr Nicolas Abadia Calvo
Uwch Ddarlithydd
Grŵp Mater Cyddwysedig a Ffotoneg
Dr Alastair Clarke
Uwch Ddarlithydd - Triboleg a Mecaneg Gymhwysol
Yr Athro Rossi Setchi
Athro mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ar gyfer AI, Roboteg a Systemau Peiriant Dynol (IROHMS)