Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg er iechyd

Rydyn ni’n rhoi ymchwil ddiweddaraf ym maes peirianneg feddygol ar waith i wthio’r ffiniau mewn meysydd lle mae peirianneg arloesol yn gallu trawsffurfio’r gofal a roddir i gleifion.

Rydyn ni’n dyfeisio ffyrdd newydd o ddadansoddi delweddau meddygol i daflu rhagor o oleuni ar gyflwr y claf yn ogystal â gwella radiotherapi a mathau eraill o driniaethau. Trwy ddeall natur meinweoedd meddal yn well, rydyn ni’n llunio ffyrdd newydd o roi cyffuriau ac yn gwella cyfarpar diogelu i leihau’r risg o anafu a heintio.

Rydyn ni’n defnyddio dulliau dadansoddi uwch i gadw golwg ar gleifion cyn llawdriniaethau orthopedig ac wedyn, i asesu effaith llid y cymalau ac i wella ansawdd bywydau yn y pen draw. Rydyn ni’n cael effaith ar brosesau llawdriniaethol trwy lunio adnoddau ar gyfer hyfforddi, efelychu a llywio a thrwy gynhyrchu offer llawdriniaethol newydd sy’n cyflymu’r iacháu ac yn mireinio’r gwella.

Ein nod yw cyfuno arbenigedd ym meysydd biofecaneg, ffiseg feddygol, electroneg feddygol a pheirianneg cyfathrebu amledd uchel i wella prosesau atal, adnabod a thrin clefydau; o ddiagnosteg electronig uwch ac ymchwilio i ffyrdd o drin llid cymalau’r esgyrn i ddatblygu synwyryddion i’w defnyddio mewn offer meddygol, nodwyddau rhoi cyffuriau, deunyddiau rhag microbau a chyfarpar diogelu personol.

Rydyn ni’n cydweithio’n agos â phartneriaid yn y byd diwydiant a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Academi Delweddu Cymru, Ymddiriedolaeth Prifysgol Felindre’r GIG a Chanolfan Delweddu PET Cymru er Ymchwil a Diagnosteg. Mae’n cyfleuster Ymchwil ar y Sgerbwd a’r Cyhyrau yn rhoi gwasanaeth sy’n dadansoddi ffyrdd o sefyll a cherdded, yn glinigol felly.

At hynny, rydyn ni’n cydweithio â grwpiau ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd megis Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd, grwpiau ymchwil ym meysydd Y Gwyddorau Bywyd, y Gwyddorau Gofal Iechyd, Meddygaeth a Ffarmacoleg, Cyfrifiadura Ymchwil Uwch, Canolfan Treialon yr Ymchwil ar Ganser a Grŵp y Cyfrifiadura Gweledol.

Arbenigedd

Mae arbenigedd gan ein hymchwilwyr yn y meysydd canlynol:

  • dadansoddi’r modd mae pobl yn symud a biofecaneg orthopedig
  • natur meinweoedd meddal
  • biofecaneg trawma
  • technegau delweddu diagnostig newydd a thriniaethau sy’n benodol ar gyfer pob person
  • dulliau uwch ar gyfer prosesu lluniau a signalau meddygol
  • gwybodeg feddygol
  • monitro iechyd a chwaraeon
  • ffyrdd newydd o synhwyro ac adnabod trwy gyfrwng microdonnau

Uchafbwyntiau a buddsoddiadau diweddar

Mae’n Cyfleuster Ymchwil ar Fiofecaneg y Sgerbwd a’r Cyhyrau, newydd, yn cynnig mynediad i gleifion a meddygon at yr ymchwil ddiweddaraf, a bydd yn ehangu ein hymchwil ar lid cymalau’r esgyrn a biofecaneg y sgerbwd a’r cyhyrau.

Mae Canolfan Ymchwil Biofecaneg a Bio-beirianneg yn erbyn Llid y Cymalau yn brosiect unigryw gan yr Ysgol Peirianneg, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, yr Ysgol Meddygaeth, Ysgol y Gwyddorau Bywyd, yr Ysgol Ffarmacoleg a’r Ysgol Deintyddiaeth; ei nod yw deall hynt y clefyd a datblygu triniaethau newydd ar gyfer ei drin.

Mae ein Grŵp Ymchwil ar Beirianneg Feddygol wedi sicrhau cyllid gwerth £1.2M gan Rwydwaith+ Technolegau Osteoarthritis (OATECH+), Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, y nod yw ysgogi cydweithrediadau amlddisgyblaethol yn y maes ymchwil ar osteoarthritis yn y DU i wella diagnosis a thriniaethau ar gyfer osteoarthritis yn y pen draw.

Mae Sefydliad Cenedlaethol yr Ymchwil ar Iechyd wedi rhoi arian i Grŵp yr Ymchwil ar Fagneteg a Deunyddiau i’w helpu i lunio dyfeisiau llawtherapi er lles cleifion sydd wedi etifeddu clefyd a fydd yn amharu ar eu ffordd o fyw.

Trwy Ganolfan CEDAR dros Ymchwil ar Dechnoleg Gofal Iechyd, canolfan werthuso academaidd mae’r GIG yn ei chynnal o dan adain Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac o dan nawdd ein hysgol, mae’n hymchwilwyr yn gallu gwerthuso offer meddygol electroneg a diagnosteg.

Mae staff Grŵp Ymchwil y Y Ganolfan Peirianneg Amledd Uchel yn astudio technolegau trawsffurfiol i ddatblygu celloedd artiffisial a fydd yn eu helpu i ddeall y modd mae proteinau’n gweithio yn ogystal â synwyryddion glwcos y gwaed sy’n gweithredu y tu allan i’r corff trwy gyfrwng microdonnau.

Arweinwyr yr ymchwil

David Barrow

David Barrow

Professor

Email
barrow@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5921
Yr Athro Sam Evans

Yr Athro Sam Evans

Pennaeth Ysgol

Email
evanssl6@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6876
Yr Athro Cathy Holt

Yr Athro Cathy Holt

Professor

Email
holt@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4533
Yr Athro Adrian Porch

Yr Athro Adrian Porch

Professor

Email
porcha@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5954
Yr Athro Emiliano Spezi

Yr Athro Emiliano Spezi

Senior Lecturer - Teaching and Research

Email
espezi@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6521