Mae ymchwil y Ganolfan ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriant-Dynol (IROHMS) yn adeiladu ar gryfder academyddion profiadol byd-eang ym maes gweithgynhyrchu digidol a roboteg, ffactorau dynol a seicoleg wybyddol, cyfrifiadura symudol a chymdeithasol a deallusrwydd artifisial.
Rydym ni’n ganolfan ymchwil o safon fyd-eang sy’n hwyluso ymchwil arloesol sy’n elwa’r gymdeithas a’r economi.
Mae IROHMS yn amgylchedd ymchwil o safon fyd-eang sy’n hwyluso ymchwil arloesol gan dîm rhyngddisgyblaethol o academyddion.
Rydym ni’n cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd ymgysylltu i randdeiliaid allanol sy’n ymddiddori ym meysydd rhyngddisgyblaethol deallusrwydd artiffisial, roboteg a systemau peiriant-dynol.