Ewch i’r prif gynnwys

Diogelu rhwydweithiau trydan rhag methu

Mae ein ffyrdd arloesol o fonitro a mesur gor-foltedd dros dro a sustemau i'w atal wedi’u cynnwys mewn safonau trydan rhyngwladol a chanllawiau technegol am yr arferion gorau.

Image credit: Electrical Engineering Portal.

Gall amryw bethau megis mellt, newid sustemau a namau gynyddu foltedd rhwydweithiau trydanol yn sydyn. Heb ei leddfu, gall cynnydd sydyn o’r fath chwalu’r rhwydwaith gan beryglu gweithleoedd, niweidio isadeiledd yn fawr a thorri cyflenwad y trydan, hyd yn oed. Mae cost diffyg trydan yn fawr a gall arwain at golledion economaidd gwerth miliynau o bunnoedd, effeithiau pellgyrhaeddol a pheryg i fywydau gweithwyr a’r cyhoedd, hyd yn oed.

Mae ymchwil Ysgol Peirianneg wedi helpu i ddatrys y broblem trwy ddyfeisio ffyrdd newydd o fonitro a mesur gor-foltedd sydyn ledled rhwydwaith ein trydan gan ddiffinio arferion gorau rhyngwladol o ran diogelu.

Mae sawl cwmni a sefydliad megis Tata Steel a’r Grid Cenedlaethol wedi mabwysiadu ein dulliau gan arwain at bolisïau gweithio mwy diogel, camau diogelu mwy effeithiol a rhwydweithiau mwy dibynadwy yn ogystal ag arbed arian.

Diogelu isadeiledd hanfodol

O ganlyniad i’w bartneriaeth hir ag Ysgol Peirianneg, mae’r Grid Cenedlaethol wedi newid amryw bolisïau ac arferion sy’n effeithio ar rwydweithiau trydanol ledled y deyrnas.

Mae’n gwaith wedi arwain at lunio polisïau gweithio mwy diogel a diogelu isadeiledd hanfodol yn fwy effeithiol ac, o ganlyniad, mae £220,000 wedi’u harbed ac mae’r effeithlonrwydd yn well.

Mae’n hymchwilwyr wedi helpu cwmni Tata Steel i ddod o hyd i achos pwtgylchedu trwy’r awyr rhwng dargludyddion agored yng ngweithfa ddur fwya’r deyrnas. Defnyddiodd y cwmni ein dull i osgoi pwtgylchedu o’r fath yng ngweithfa ddur Port Talbot gan arbed £9.6 miliwn.

Gwell diogelu rhag gor-foltedd

Mae Canolfan Prifysgol Caerdydd dros Ymchwil Beirianneg Uwch i Foltedd Uchel (AHIVES), o dan adain yr Athro Abderrahmane Haddad, wedi bod yn hollbwysig ynghylch deall rhwydweithiau trydanol, datblygu inswleiddio dibynadwy a diogelu offer i’r eithaf rhag gor-foltedd.

Mae disgwyl y bydd diogelu o’r fath yn newid mewn sawl gwlad yn sgîl gwaith y ganolfan. Fis Mai 2013, cyhoeddodd Comisiwn Rhyngwladol Technoleg Trydan adroddiad pwysig i ddiweddaru’r safon ryngwladol ar gyfer dewis a defnyddio offer osgoi gor-foltedd sydyn gan gynnwys dulliau roedd yr Athro Haddad wedi’u llunio i fonitro offer o’r fath wrth ddiogelu cyfarpar is-orsafoedd foltedd uchel.

Diweddarodd y safon eto fis Ionawr 2018 mewn adroddiad a argymhellodd ddulliau’r Athro Haddad, a mabwysiadodd aelodau’r comisiwn y dulliau hynny ar ffurf safonau rhyngwladol fis Mawrth 2018.

Yn ogystal â chyhoeddi arferion gorau’r byd, cyhoeddodd y comisiwn ei safon ryngwladol newydd ac mae’i aelodau wedi’i mabwysiadu yn eu gwledydd nhw bellach.

Lliniaru niwed nwyon inswleiddio

Mae sylffwr hecsafflworid yn nwy effeithiol iawn ar gyfer inswleiddio is-orsafoedd trydan. Mae'n niweidiol iawn i'r amgylchedd, fodd bynnag, ac yn waeth o lawer na CO2 o ran achosi cynhesu byd-eang.

Helpodd rhai o ymchwilwyr Ysgol Peirianneg y Grid Cenedlaethol i nodi amnewidiadau ymarferol SF6. Mabwysiadodd y Grid Cenedlaethol ein hymchwil, gan bennu’r ffordd o gael gwared ar y nwyon tŷ gwydr hynny yn y pen draw.

Meet the team

Cyhoeddiadau