Ewch i’r prif gynnwys

Lleihau effeithiau llifogydd a halogiad dŵr llifogydd

Datblygodd ein hymchwilwyr feddalwedd modelu llifogydd, a fabwysiadwyd gan ddiwydiant a'r llywodraeth i gynorthwyo gyda chynllunio a lleihau peryglon i iechyd ac eiddo.

Yn sgil digwyddiadau diweddar rydym ni i gyd yn ymwybodol o effeithiau dinistriol llifogydd ar draws y byd. Gall llifogydd beri risg mawr i eiddo, iechyd y cyhoedd, ac mewn digwyddiadau eithafol, arwain at golli bywyd.

Mae ymchwil yn yr Ysgol Peirianneg wedi gwella modelu llifogydd a risgiau iechyd, sydd wedi helpu rhanddeiliaid y llywodraeth a diwydiant i gynllunio gwydnwch rhag llifogydd yn fwy effeithiol a lleihau risgiau i iechyd sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â llifogydd.

Weithiau caiff dŵr llifogydd ei halogi â charthion, gwastraff anifeiliaid a halogyddion eraill. Os ydynt yn bresennol, mae'r halogyddion hyn yn cynnwys bacteria niweidiol sy'n peri risg i iechyd. Mae ein hymchwilwyr hefyd wedi helpu i wella ansawdd dŵr mewn basnau afonydd ac arfordirol gan ddefnyddio modelu arloesol ar gyfer cludo'r halogiad ysgarthol a achosir gan lifogydd. Mae ein fframwaith newydd gwell wedi cynorthwyo awdurdodau lleol ledled y DU ac wedi newid prosesau'r awdurdodau rheoleiddio yn Asiantaeth yr Amgylchedd.

Rheoli peryglon llifogydd

Er mwyn galluogi llywodraethau a gwasanaethau brys i gynllunio ac ymateb yn effeithiol mewn achos o lifogydd eithafol, fel fflachlifoedd a llifau torri argaeau sy'n gysylltiedig â stormydd darfudol, mae'n hanfodol fod rhagfynegiadau o lifogydd yn rhoi darlun cywir o lifogydd real a chludiant bacteriol cysylltiedig.

Roedd ymchwil gan y Ganolfan Ymchwil Hydro-Amgylcheddol yn cynnwys modelu dŵr y llifogydd yn gywir i leihau llifogydd a'r risgiau iechyd cysylltiedig. Mae'r ymchwil yn rhan allweddol o feddalwedd sy'n arwain y diwydiant, Flood Modeller, a ddatblygwyd ar y cyd â Jacobs Engineering, ac a ddefnyddir gan sefydliadau preifat a chyhoeddus ledled y byd i ragweld a gwrthsefyll llifogydd.

Mae’r feddalwedd wedi dod yn un o’r setiau modelu llifogydd a ddefnyddir gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban, a ddefnyddiwyd mewn dros 500 o astudiaethau modelu gweithredol, gan gynnwys cynllunio amddiffynfeydd rhag llifogydd a chynlluniau lliniaru ar draws y DU.

Mae Flood Modeller wedi cofrestru dros 25,000 o ddefnyddwyr yn fyd-eang ers 2013.

Datblygu Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol y Diwydiant Dŵr

Defnyddiwyd ymchwil o'r Ysgol Peirianneg gan Asiantaeth yr Amgylchedd i helpu i ddatblygu Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol y Diwydiant Dŵr.  Mae'n nodi’r gwelliannau a’r ymchwiliadau y mae’n rhaid i gwmnïau dŵr eu cyflawni erbyn 2025 ac yn ei gwneud yn ofynnol i gyflawni newidiadau i ddiogelu a gwella dros 6000km o ddyfrffyrdd, 24 o safleoedd ymdrochi, a deg safle pysgod cregyn yn y DU.

Dirty water

Gwella halogiad dŵr

Mireiniodd ein hymchwilwyr eu hoffer modelu llifogydd ymhellach drwy ddatblygu dulliau arloesol a modelau dalgylch, afonol, ac arfordirol integredig i wella rhagfynegiadau o ansawdd dŵr ymdrochi. Drwy greu darlun gwell o brosesau cludo a dadfeiliad bacteria ysgarthol mewn basnau dŵr croyw a dŵr hallt, roedd modd dod o hyd i strategaethau i ostwng lefelau halogyddion mewn dyfroedd ymdrochi afonydd ac arfordirol.

Gwerthusodd ein hymchwilwyr rôl bacteria ysgarthol, megis E coli, gan ddefnyddio modelau proses newydd yn seiliedig ar ddata maes helaeth. Credir mai dyma'r tro cyntaf i astudiaeth fodelu mor gynhwysfawr gael ei chynnal o ddalgylchoedd i'r arfordir yn y DU. Galluogodd y gwaith ein hymchwilwyr i ganfod strategaethau i leihau halogiad dŵr, a chyfeiriodd hyn brosiectau seilwaith gwerth miliynau o bunnoedd a diffinio strategaethau cenedlaethol ar gyfer gwella ansawdd dŵr.