Ewch i’r prif gynnwys

Pennu safonau allyriadau newydd er awyr lanach

Mae ymchwil yn yr Ysgol Peirianneg wedi helpu i osod safon y diwydiant awyrennau heddiw tuag at wella ansawdd aer lleol a llai o effeithiau llygredd aer ar iechyd.

Rydyn ni’n dibynnu ar deithio gyda’r awyren bellach ar gyfer busnes a hamdden fel ei gilydd. Ond mae awyrennau’r to presennol yn creu llygredd sy’n niweidio’r amgylchedd yn ogystal ag iechyd pobl, ac mae deunydd gronynnol ymhlith y llygryddion mwyaf.

Mae tyrbinau nwy awyrennau’n gollwng darnau mân (15-80 nanomedr mewn diamedr) o nwy sy’n llai nag allyriadau peiriannau diesel cerbydau, fel arfer. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cydnabod bod gronynnau hynod o fân yn achosi ac yn gwaethygu problemau anadlu, gan gynnwys canser yr ysgyfaint. Mae amcangyfrif bod 14,000 o bobl yn marw cyn eu hadeg o achos deunydd gronynnol peiriannau awyrennau. Gan fod y darnau mor fân, mae’n anodd iawn eu mesur a’u rheoli ac mae offer mesur màs a gwelededd heb fod yn ddigon manwl i’w nodi’n gywir.

Mae ymchwil Ysgol Peirianneg wedi arwain at safonau newydd ar gyfer allyriadau o’r fath gan gynnwys safon gyntaf y byd ynghylch mesur ehangder a nifer y darnau mân a’r safon gyntaf erioed a fydd yn ofynnol i’r rhai sy’n cynhyrchu ac yn cynnal peiriannau awyrennau o hyn ymlaen. Mae’r gwaith wedi bod o les i’r diwydiant yn syth hefyd, am fod cwmni Rolls Royce wedi arbed miliynau o bunnoedd ynghylch costau datblygu ac ardystio o ganlyniad i ddulliau samplu a mesur haws o lawer.

Diffinio terfynau rheoleiddio a’r arferion gorau

Ynghyd â Rolls-Royce a Chanolfan Awyrofod yr Almaen, dan nawdd Asiantaeth Diogelwch Hedfan Undeb Ewrop (EASA), cynhaliodd Ysgol Peirianneg brosiect ar gyfer dyfeisio ffordd hawdd ei holrhain o fesur nifer y darnau mân a pha mor drwm a mawr ydyn nhw.

Yn rhan o brosiectau cyffelyb canlynol, arweiniodd ymchwil Canolfan Ymchwil Caerdydd i Dyrbinau Nwy at lunio sustem gyntaf y byd ar gyfer samplu a mesur darnau gronynnol o’r fath yn y fan a’r lle. Mabwysiadodd pwyllgor technegol E31 Cymdeithas y Peirianwyr Modurol y dull hwnnw wedyn ac mae’n rhan o arferion gorau a safonau rheoleiddio’r byd bellach.

Gofynnodd EASA i dîm Caerdydd ddyfeisio, datblygu a defnyddio’r European nvPM reference system fel y byddai modd mesur allyriadau peiriannau awyrennau yn fanwl gywir dro ar ôl tro. Trwy gyfrwng rhagor o brosiectau perthnasol, dangosodd ymchwilwyr Ysgol Peirianneg fod y sustem arfaethedig yn un ymarferol.

Gan ddefnyddio’r sustem gyfeirio sydd wedi’i llunio yng Nghaerdydd, arweiniodd tîm yr ymchwil broses mesur data am allyriadau yn unol â safonau ardystio. Gyda hyn, byddai modd sefydlu cronfa ddata Sefydliad Rhyngwladol Hedfan Sifil a’i defnyddio wedyn i bennu safonau rheoleiddio i’w mabwysiadu ledled y byd.

Cyhoeddiadau