Ewch i’r prif gynnwys

Creu adeiladau ac isadeiledd cynaladwy

Mae’n technoleg newydd ar gyfer rheoli ynni ac adnoddau’n ddeallus wedi’i defnyddio ledled y byd gan gwmnïau megis Schneider Electric, Dŵr Cymru, Costain a Highways England.

Mae llawer o adeiladau newydd yn defnyddio dwywaith gymaint o ynni ac wedi dyblu'r allyriadau carbon sydd wedi’u darogan. I gwtogi ar garbon yn yr amgylchedd adeiledig ac annog pawb i drin a thrafod ynni’n fwy effeithlon o achos y goblygiadau amgylcheddol ac ariannol difrifol, mae angen deall a modelu set gymhleth o ffactorau ym mhob achos.

Mae Ysgol Peirianneg wedi dyfeisio ffyrdd o gau bwlch y cyflawniad gan arwain at newid arferion, defnyddio ynni’n fwy effeithlon a chynyddu elw. Mae’n dulliau arloesol wedi’u defnyddio ledled yr amgylchedd adeiledig a’u mabwysiadu gan ein partneriaid diwydiannol megis Schneider Electric, Dŵr Cymru, Costain a Highways England.

Mae’n hymchwil wedi effeithio ar bolisïau ac arferion hefyd, trwy helpu pawb ym maes adeiladu i fabwysiadu modelu yn ôl gwybodaeth am adeiladau ymhell cyn y gofyn statudol i wneud hynny.

Cau bwlch y cyflawniad ynghylch ynni

Yn rhan o brosiect SPORTE2, dyfeisiodd y Ganolfan dros Beirianneg Gynaladwy, o dan adain yr Athro Yacine Rezgui ac o dan nawdd Sefydliad yr Ymchwil i Adeiladu, ffordd o fodelu yn ôl gwybodaeth am adeiladau gan alluogi pawb i ddod o hyd i atebion dibynadwy, hyblyg a chyflym i broblemau cymhleth ynni effeithlon.

Arweiniodd dull Caerdydd at wastraffu llawer llai o ynni gan ddangos y byddai angen cydweithio ar draws meysydd a pharatoi setiau data dibynadwy a chyfoes wrth ddefnyddio’r ffordd honno o ddefnyddio ynni yn effeithlon mewn unrhyw adeilad.

At hynny, lluniodd y tîm broses fapio i bennu’r ffyrdd pwysicaf o gau bwlch ynni unrhyw adeilad yn glou. Heb amharu ar gyfforddusrwydd trigolion, bu modd arbed chwarter yr ynni roedden nhw wedi bod yn ei ddefnyddio ar gyfartaledd trwy’r dull newydd sydd wedi’i seilio ar fodelu yn ôl gwybodaeth am adeiladau.

Modern office buildings

Gwneud y gorau o ynni trwy gwmwl Schneider Electric

Defnyddiodd cwmni Schneider Electric ein hymchwil wrth gyfuno offer â meddalwedd i lunio Ecostruxture. Mae Ecostruxure wedi’i ddefnyddio ledled y byd ers ei gyflwyno’n fasnachol gan arbed arian a rhoi hwb economaidd i amryw glientiaid trwy wastraffu llai o ynni.

Ymhlith y clientiaid sydd wedi elwa ar ein hymchwil yn Ecostruxure mae Hilton Hotels (byd-eang), Maes Criced Melbourne, Ysbyty Huashan, Marriot Hotels, Shanghai Metro a Shedd Aquarium.

Llunio strategaeth mesuryddion dŵr craff ar y cyd â Dŵr Cymru

Ehangwyd ein hymchwil i ystyried modelu yn ôl gwybodaeth am adeiladau ym maes cyflenwi dŵr. Cydweithion ni â Dŵr Cymru ym mhrosiect WISDOM i lunio platfform gwybodaeth a chyfathrebu fyddai’n galluogi cwmnïau dŵr i reoli data am eu rhwydweithiau yn well.

Dangosodd yr ymchwil y byddai modd lleihau costau defnyddio’r rhwydwaith yn fawr trwy fodelu yn ôl gwybodaeth am adeiladau. Mae wedi helpu Dŵr Cymru i lunio strategaethau mabwysiadu technoleg graff ar gyfer mesuryddion cartrefi, hefyd.

Hybu modelu yn ôl gwybodaeth am adeiladau ar y cyd â Costain

Roedd cwmni Costain yn bartner diwydiannol inni yn ystod prosiect cydweithredol Clouds-for-Coordination, o dan adain Prifysgol Caerdydd, a luniodd ffordd o alluogi partneriaid prosiect adeiladu i rannu canlyniadau’r modelu yn ôl gwybodaeth am adeiladu. Mae’r ymchwil honno wedi galluogi Costain i ddatblygu’r to nesaf o fodelu lle bydd rhagor o gydweithio ym mhob prosiect a bydd dulliau digidol yn rhan annatod o gylch oes adeilad.

Mae’r arbenigedd a ddeilliodd o’n hymchwil wedi arwain at dipyn o gyfuno â phartneriaid diwydiannol a gwladol gan effeithio ar feysydd ehangach polisïau’r deyrnas. Gan gynnwys gwaith Prifysgol Caerdydd ar gyfer rhwydwaith D-COM sydd wedi helpu i ddigideiddio safonau technegol ymhellach ym maes adeiladu.

Mae’r to nesaf o fodelu (Lefel 3) ar weill Costain bellach a’r gobaith yw y bydd rhagor o onestrwydd a chydweithio ym mhob prosiect ac y bydd digideiddio’n rhan annatod o gylch oes adeilad.

Dyma’r tîm

Cyhoeddiadau