Ewch i’r prif gynnwys

Diolch

Gwyliwch ein fideo am effaith eich cefnogaeth

Rydym yn ddiolchgar i gynfyfyrwyr, staff, ffrindiau, ymddiriedolaethau a sefydliadau, a chwmnïau Caerdydd sy’n helpu i greu a rhannu gwybodaeth, ac addysgu er budd pawb.

Mae pob rhodd yn cael effaith hirdymor ar ein haddysgu, dysgu ac ymchwil o safon fyd-eang. Diolch am wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Chwiliwch am straeon sy’n dangos pa effaith a gafodd eich rhodd:

Stori ymchwil canser Magda

Mae Magda Meissner yn ymchwilydd a chlinigwraig, ond mae ei stori hi am ganser, fel i gynifer o bobl, yn llawer mwy personol.

Hanes ymchwil Frances ar iselder

“Mae iselder yn beth llechwraidd, mae’n tueddu i gau popeth allan a gwneud y byd yn llai.”

O’ch achos chi, gallwn achub, newid a chyfoethogi bywydau. Rydych chi’n gwneud ymchwil arloesol yn bosibl ac yn rhoi’r sylfaen i fyfyrwyr dawnus lwyddo.