Ewch i’r prif gynnwys

Neges gan yr Is-Ganghellor

Rydych chi’n gwneud ymchwil arloesol yn bosibl ac yn rhoi’r sylfaen i fyfyrwyr dawnus lwyddo.

Pu’n a ydych wedi:

  • gwneud rhodd hael i gefnogi myfyrwyr, ymchwil feddygol neu unrhyw brosiect arall gan Brifysgol Caerdydd
  • ymuno â Chylch Caerdydd
  • wedi penderfynu gadael rhodd hael i Brifysgol Caerdydd yn eich ewyllys
  • ymuno â #TeamCardiff i godi arian
  • cefnogi myfyrwyr yn eu gyrfaoedd
  • rhoi o’ch amser i wirfoddoli fel Llysgennad Cynfyfyrwyr

... rydych chi wedi helpu i ysgrifennu’r straeon yr ydych ar fin eu darllen, a llawer mwy.

Diolch am wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Yr Athro Anita Thapar (MBBCH 1985, PhD 1995)

Anita yw arweinydd yr Adran Seiciatreg Plant a’r Glasoed yn Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol.

Ym 1999 penodwyd Anita yn Athro cyntaf Cymru mewn Seiciatreg Plant a’r Glasoed. Ers hynny mae wedi ceisio gwella’r ddealltwriaeth o’r eneteg sy’n sail i anhwylderau seiciatryddol cyffredin.

"Rwyf wastad wedi bod yn frwdfrydig ynghylch seiciatreg plant a’r glasoed gan mai dyna pryd mae’r rhan fwyaf o broblemau iechyd meddwl yn dechrau, a dyna pryd y gallwn wneud gwahaniaeth.

"Mae ein hymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd dros yr 20 mlynedd ddiwethaf wedi canolbwyntio ar yr hyn sydd wedi achosi problemau iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc.

"Credaf ei fod yn hanfodol bwysig cynhyrchu tystiolaeth wyddonol o safon uchel i lywio ymarfer, triniaethau newydd a chwalu stigma yn y maes."

Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ac iselder ymhlith pobl ifanc. Mae ADHD yn anhwylder ar yr ymennydd sydd â symptomau megis methu talu sylw, gorfywiogrwydd, a byrbwylltra. Amcangyfrifir bod rhwng 1.4% a 3% o’r boblogaeth yn cael eu heffeithio. Ynghyd â thrafferthion niwroddatblygiadol yn ystod plentyndod, mae ADHD yn gallu parhau mewn oedolion gan achosi mwy o drafferthion iechyd meddwl a chymdeithasol.

Gwyliwch gyfweliad gydag Anita yn cynnwys cwestiynau rhieni am ADHD

"Yn y gorffennol, roedd ymddygiad rhieni yn cael y bai am lawer o broblemau iechyd meddwl plant, gan gynnwys awtistiaeth. Fodd bynnag, rydym ni ac eraill wedi darganfod bod ADHD yn rhedeg mewn teuluoedd; mae astudiaethau efeilliaid wedi dangos cyfraddau uchel o etifeddu yn gyson.

"Fe edrychon ni wedyn ar ymchwiliadau geneteg foleciwlaidd. Fe wnaethom ni ddarganfod baich cynyddol o ddileadau a dyblygiadau cromosomaidd prin mewn ADHD a dangos bod gorgyffwrdd pwysig gyda phroblemau niwroddatblygiadol eraill, yn enwedig anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth a sgitsoffrenia.

"Mae ein hymchwil wedi helpu i gychwyn sgwrs ynghylch ADHD ac wedi symud y bai oddi wrth y rhieni, gan ganolbwyntio fwy ar gyfraniad ffactorau genetig.

"Mae angen gwneud rhagor o ymchwil, ond mae’n galonogol gweld bod gennym genhedlaeth mor dalentog o ymchwilwyr, clinigwyr a myfyrwyr yng Nghaerdydd sydd am wthio’r maes ymlaen."

Mae’r gwaith mae ymchwilwyr yn ei wneud yng Nghaerdydd yn gallu cynnig gobaith i bobl sy’n dioddef gyda’r sbectrwm o anhwylderau iechyd meddwl a niwrolegol, ynghyd ag opsiynau diriaethol ar gyfer diagnosau cynt a thriniaethau gwell, mwy personol. Mae eich cefnogaeth yn helpu i wireddu hynny.

Professor Anita Thapar (MBBCH1985, PhD 1995)
Professor Anita Thapar (MBBCH1985, PhD 1995)

Peter Gillibrand (Broadcast Journalism 2018-)

Mae Peter yn astudio ar gyfer MA mewn Newyddiaduraeth Darlledu. Mae hefyd yn gyflwynydd newyddion i Global Radio, ym Mae Caerdydd. Cafodd Peter Ysgoloriaeth Dr James Thomas yn 2019 i’w helpu i gwblhau ei radd meistr.

"Roedd yn anodd credu fy mod yn cael yr ysgoloriaeth, ac roedd yn anrhydedd cael fy ngwaith wedi’i gydnabod gan fy nhiwtoriaid."

Gwyliwch gyfweliad gyda Peter lle mae'n sôn am dderbyn gwobr

Ar ôl cychwyn gyda Global Radio fel gweithiwr llawrydd, erbyn hyn mae’n aelod parhaol o’r staff. Yn ei bum mis cyntaf mae wedi ymdrin ag amrywiaeth eang o storïau, gan gynnwys darparu gohebiaeth ar gemau Cymru ym mhencampwriaeth rygbi’r Chwe Gwlad. Cyflawniad arbennig oedd cael stori ar radio cenedlaethol pan gafodd gyfweliad gyda darlithydd Prifysgol Caerdydd oedd yn sownd yn Tsieina ar gychwyn pandemig y Coronafeirws.

"Gyda chymorth yr ysgoloriaeth roeddwn yn gallu cael fy swydd ddelfrydol ym maes darlledu radio. Ni allaf ddisgrifio’r teimlad y caf pan af ar yr awyr i adrodd straeon newyddion ar draws Cymru - i fy ngwlad! Ni allwn fod wedi llwyddo i wneud hynny heb y dyfarniad.

"Roedd bron yn rhaid i mi orfod tynnu allan o ganlyniad i galedi ariannol ac roedd hynny yn effeithio ar fy iechyd meddwl. Roedd yn cyrraedd y pwynt lle na allai fy rhieni fy helpu, felly roedd arian yn broblem. Roedd yr ysgoloriaeth o gymorth mawr gyda straen ariannol rent a chostau byw.

"Mae’r math yma o wobr wir yn helpu myfyrwyr dan anfantais. Mae’n rhoi cyfle i chwalu rhwystrau a datblygu talent. Mae’n helpu’r myfyrwyr hynny i gael addysg dda, a sgiliau diriaethol."

Ein myfyrwyr yw arweinwyr byd-eang y dyfodol. Mae eich cefnogaeth yn sicrhau eu bod yn cael y cyfle i gael addysg o’r radd flaenaf beth bynnag fo’u cefndir neu’u sefyllfa ariannol.

Peter Gillibrand presents the news in a radio studio
Peter Gillibrand (Broadcast Journalism 2018-)

Hannah Thomas (BSc 2019, Medicine 2020-)

Mae Hannah yn gwneud ymchwil ar gyfer ei PhD, a gafodd ei ariannu’n llawn o ganlyniad i rodd a adawyd mewn ewyllys.

"Datblygais ddiddordeb yn y system imiwnedd yn ystod fy ngradd a oedd yn cynnwys blwyddyn o hyfforddiant proffesiynol yn Adran Heintiau ac Imiwnedd Prifysgol Caerdydd.

"Mae fy ymchwil yn edrych ar Gelloedd-T, math o gell wen y gwaed sy’n brwydro yn erbyn heintiau. Rwy’n edrych ar Gelloedd-T sy’n targedu’r bacteria sy’n achosi Twbercwlosis (TB) yn benodol, afiechyd sy’n heintio miliynau bob blwyddyn ac sy’n parhau i fod yn fygythiad byd-eang.

"Wrth i’r bacteria ddatblygu ymwrthedd i wrthfiotigau, gall y dull newydd hwn, o ddefnyddio system imiwnedd y corff i dargedu’r afiechyd, gynnig yr ateb. Os gallwn ddod o hyd i Gell-T gyffredinol, gallai fod yn iachâd effeithiol a fforddiadwy ar draws y byd.

"Ond mae’r potensial i’r gwaith ymchwil hwn yn llawer o fwy. Os gallwn brofi bod hyn yn gweithio ar gyfer TB, gallwn ei ddefnyddio ar gyfer afiechydon eraill megis canser, diabetes a MS, gan roi gobaith i lawer o amgylch y byd."

Mae pontio o fod yn fyfyriwr i fod yn ymchwilydd yn rhan o lwybr proffesiynol i Hannah, ond mae nod pwysig ar ddiwedd y llwybr hwn.

"Mae PhDs yn gam tuag at adeiladu eich gyrfa broffesiynol o fod yn fyfyriwr i ddod yn ymchwilydd. Mae gennych ddigon o gefnogaeth o’ch cwmpas, ond rydych yn hollol annibynnol yn dewis eich arbrofion a chyfeiriad eich ymchwil. Mae’n gyffrous cael y cyfle er bod angen bod yn wydn pan nad yw pethau’n mynd o’ch plaid, ond pan mae’ch ymchwil yn llwyddiannus mae teimlad eich bod wir wedi cyflawni rhywbeth.

"Roedd cael PhD wedi’i ariannu’n llawn yn bwysau mawr oddi ar fy ysgwyddau. Doedd ariannu fy hun ddim yn opsiwn i mi. Roeddwn mor ddiolchgar i’r sawl wnaeth fy nghefnogi. Diolch yn fawr iawn am y rhodd - mae’n mynd i achos mor dda; ymchwil ymarferol yn y labordy gyda’r nod terfynol o ddarganfod iachâd ar gyfer TB o’r diwedd. Mae wir yn gwneud gwahaniaeth."

Gallai ein systemau imiwnedd fod yn allweddol i ddarganfod triniaethau mwy effeithiol, gyda llai o sgîl-effeithiau, ar gyfer pobl sy’n dioddef o lawer o glefydau difrifol. Drwy eich cefnogaeth chi, mae ymchwilwyr ar draws Caerdydd yn agosach nag erioed.

Hannah Thomas pictured in her office
Hannah Thomas (BSc 2019, Medicine 2020-)

Dr Harriet Quinn-Scoggins (PhD 2019)

Mae Harriet yn gydymaith ymchwil yn yr Isadran Meddygaeth Boblogaeth. Cafodd ei chefnogi gan roddion i ymgymryd â rhaglen Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol (FLiCR).

"Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ymgysylltu â’r cyhoedd gyda sgrinio canser a deall ymddygiad sy’n effeithio ar amser tan ddiagnosis, yn enwedig mewn grwpiau difreintiedig risg uchel.

"Mae fy nhreialon presennol yn cynnig sgrinio i bobl sydd â risg uchel o ganser yr ysgyfaint. Os gallwn roi diagnosis cynharach i bobl, mae’n rhoi hwb sylweddol i gyfraddau goroesi, ond y prif nod yw lleihau’r risg o gael yr afiechyd yn y lle cyntaf."

Gwyliwch: Harriet yn siarad am anthropoleg mewn ymchwil canser

Mae rhaglen Arweinwyr Ymchwil y Dyfodol yn rhoi sgiliau i ymchwilwyr addawol, fel ysgrifennu grantiau, rheolaeth ariannol, a thechnegau cyflwyno.

Mae cyfranogwyr yn cael eu hybu i adeiladu rhwydweithiau proffesiynol a datblygu eu gyrfa ymchwiliol. Yn y pen draw, mae hyn yn eu galluogi i gael cyllid, prosiectau a threialon fydd yn caniatáu iddynt archwilio eu syniadau a datblygu ymchwil canser ymhellach.

"Gyda chymorth rhaglen Arweinwyr y Dyfodol Prifysgol Caerdydd, a ariennir gennych chi, rwyf wedi cael hyfforddiant wedi’i deilwra, ac wedi cael cyfle i gydweithio â gwyddonwyr a meddygon eraill. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn ddeall a gwella profiadau’r cleifion. Rydym am godi ymwybyddiaeth o symptomau canser, a thynnu’r rhwystrau sy’n achosi pobl i beidio mynd at y meddyg ynghynt.

"Bydd hyn yn arwain at ddiagnosis a thriniaeth cynt, a grymuso pobl i wneud dewisiadau i leihau eu risg."

Bydd canser yn effeithio ar un o bob dau ohonom yn ystod ein bywydau. Gall eich cefnogaeth helpu ein hymchwilwyr canser i ddatblygu technegau diagnosis cynt, darganfod triniaethau mwy effeithiol, ac efallai ryw ddydd, darganfod iachâd.

Harriet Quinn-Scoggins conducting a telephone interview for her research
Dr Harriet Quinn-Scoggins (PhD 2019)

Mohammad Zubair Arshad (Mechanical Engineering 2016-)

Mae Mohammad yn astudio Peirianneg Fecanyddol ar hyn o bryd. Fe gafodd leoliad dros yr haf gyda Pheirianwyr Ymgynghorol KGAL, a gynigwyd gan gynfyfyriwr Prifysgol Caerdydd.

Gwyliwch: Mohammad yn siarad am gyn-fyfyrwyr yn darparu interniaethau

"Yn ystod fy interniaeth bues i’n helpu i ddylunio a modelu giât amddiffyn rhag llifogydd fel rhan o Lowestoft Flood Risk Management Project. Roeddwn yn gwybod am waith arloesol KGAL ym maes rheoli dŵr a’u henw da o ran ymdrechu am y dyluniadau gorau gan ddefnyddio dulliau cynaliadwy, ac roeddwn yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r tîm."

Nid yn unig mae interniaethau a chyfleoedd lleoliad gwaith yn rhoi sgiliau a phrofiadau i fyfyrwyr, mae’r rheiny sy’n cael eu cynnig gan gynfyfyriwr yn gallu bod yn fwy gwerthfawr. Yn achos Mohammad roedd y cynfyfyriwr a gynigiodd yr interniaeth yn hynod gefnogol a threfnodd leoliadau ychwanegol i roi profiad hyd yn oed mwy eang iddo.

"Fe wnaeth yr interniaeth fy helpu i ddatblygu llawer o sgiliau, gan gynnwys fy sgiliau modelu cyfrifiadurol. Roedd gen i rywfaint o wybodaeth am fodelu CAD ymlaen llaw, ond dysgodd yr interniaeth i mi yr arferion cywir a ddefnyddir yn y diwydiant. Hefyd rhoddodd gyfle i mi ddatblygu fy sgiliau adeiladu tîm a rhyngbersonol, ynghyd â phrofiad o weithio gyda'n gilydd tuag at nod cyffredin.

"O ganlyniad i gyfleoedd fel hyn, sy’n cael eu cynnig gan gynfyfyrwyr, rwyf wedi gallu rhoi hwb i’m gyrfa, a chael dysgu gan rai o’r peirianwyr gorau yn y diwydiant."

Mae’r cyfle i ennill profiad arbenigol ac uniongyrchol yn darparu sylfaen werthfawr i’n myfyrwyr, a gall fod yn fan cychwyn ar gyfer eu gyrfa. Mae’r rhan rydych chi wedi ei chwarae yn cefnogi eu datblygiad a’u dysgu’n hanfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Mohammad Zubair Arshad stands in an engineering lab wearing a white lab coat
Mohammad Zubair Arshad (Mechanical Engineering 2016-)

Ellie Parsons (Law and Criminology 2016-)

Mae Ellie yn astudio’r Gyfraith a Throseddeg. Mae wedi elwa’n uniongyrchol o gynfyfyrwyr yn rhoi eu hamser i arwain ac ysbrydoli myfyrwyr presennol.

"Nid oes gennyf unrhyw ffrindiau neu deulu sy’n gweithio yn y gyfraith, felly roedd cael cynfyfyrwyr yn rhoi darlithoedd gyrfaol ac yn cynnig eu cyngor a’u profiad o fudd mawr.

"Nid oeddwn wedi sylweddoli bod llwybrau gyrfaol gwahanol ar gael, a beth fyddai’n gweddu i’m cryfderau. Rhoddodd y darlithoedd gyrfaol ffocws i mi, a gwneud i mi sylweddoli perthnasedd gweithgareddau allgyrsiol, ac i wneud y mwyaf o gefnogaeth y brifysgol."

Gall rhoi o’ch amser, boed yn rhannu eich straeon am Gaerdydd, siarad â darpar fyfyrwyr, neu roi darlith am yrfaoedd, gael effaith hirdymor.

"Rwy’n ddigon lwcus i fod wedi ennill contract hyfforddi ac roedd y cynfyfyrwyr a wnes i gyfarfod yn ddylanwad mawr ar ble y cyflwynais gais iddo, a sut i lunio’r cais cryfaf.

"Mae’r cysylltiad hwnnw gyda Chaerdydd mor bwysig. Mae’r cynfyfyrwyr wedi bod yn eich sefyllfa chi, ac ar yr un pwynt yn union lle rydych nawr, ar gychwyn eich gyrfa. Maent yn deall ac yn gallu helpu!"

O ganlyniad i’ch profiad a’ch cysylltiadau i Gaerdydd, rydych wedi helpu cenedlaethau o fyfyrwyr fel Ellie i astudio, llwyddo a chamu mewn i fyd gwaith fel cynfyfyriwr balch o Brifysgol Caerdydd.

Ellie Parsons is interviewed in the Law Building overlooking Park Place
Ellie Parsons (Law and Criminology 2016-)