Ewch i’r prif gynnwys

Ffyrdd eraill i'w rhoi

Ymchwiliwch i’r gwahanol ffyrdd o g gefnogi Prifysgol Caerdydd.

Female student sitting on a wall reading a book

Rhoi yn eich ewyllys

Gall rhodd wneud gwahaniaeth parhaol i genedlaethau’r dyfodol, gan ysbrydoli ein myfyrwyr i holi, bod yn arloesol a gwneud newid gwirioneddol i’r byd yr ydym yn byw ynddo.

Gyfrannu drwy'r post

Os byddai'n well gennych gyfrannu drwy'r post, anfonwch eich siec o’r DU yn daladwy i "Prifysgol Caerdydd" at:

Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr
Prifysgol Caerdydd
5ed Llawr, Tŷ McKenzie
30-36 Heol Casnewydd
CF24 0DE.

Anfonwch ebost hefyd at donate@caerdydd.ac.uk i roi gwybod i ni fod eich siec ar ei ffordd, er mwyn i ni allu gofyn i chi am Gymorth Rhodd a manylion perthnasol eraill.

Rhoi cyfranddaliadau

Gall rhoi eich cyfranddaliadau i Brifysgol Caerdydd fod yn ddull o roi sy’n effeithiol o ran treth, oherwydd gallwch wneud cais am ostyngiad llawn ar y dreth ar werth marchnad eich cyfranddaliadau.

Er mwyn gwneud hynny, bydd angen trosglwyddo'ch cyfranddaliadau'n uniongyrchol i'r Brifysgol. Peidiwch â'u gwerthu eich hunan.

Mae'n bosibl y bydd eich brocer neu gofrestrydd eich cwmni'n codi tâl arnoch am drosglwyddiadau a wnewch i'r Brifysgol – ond gall unrhyw daliadau a godir gael eu hychwanegu at werth tybiannol y cyfranddaliadau a werthir.

Rhyddhad treth incwm

Drwy wneud rhodd o gyfranddaliadau, byddwch yn cael rhyddhad treth incwm ar eich cyfradd ymylol uchaf, fel a ganlyn:

Talwr treth cyfradd sylfaenol: 20%
Gwerth cyfranddaliadau a roddir: £1,000
Rhyddhad treth incwm y gallwch ei hawlio: £200
Y gost i chi: £800
Y gwerth i Brifysgol Caerdydd: £1,000

Talwr treth cyfradd sylfaenol: 40%
Gwerth cyfranddaliadau a roddir: £1,000
Rhyddhad treth incwm y gallwch ei hawlio: £400
Y gost i chi: £600
Y gwerth i Brifysgol Caerdydd: £1,000

Talwr treth cyfradd ychwanegol: 50%
Gwerth cyfranddaliadau a roddir: £1,000
Rhyddhad treth incwm y gallwch ei hawlio: £500
Y gost i chi: £500
Y gwerth i Brifysgol Caerdydd: £1,000

Rhyddhad Enillion Cyfalaf

Mae'r holl roddion o gyfranddaliadau'n gwbl rydd o Dreth Enillion Cyfalaf (TEC).

Os nad ydych wedi talu digon o dreth incwm i elwa o'r holl ryddhad ar eich rhodd – ond bod gennych rwymedigaeth TEC – yna bydd eich rhodd yn gostwng eich rhwymedigaeth TEC.

Rhyddhad Treth Gorfforaeth

Gall cwmnïau sy'n gwneud rhoddion hawlio rhyddhad treth gorfforaeth hyd at werth y cyfranddaliadau.

Rhoi o dramor

Os ydych yn drethdalwr yr Unol Daleithiau, gallwch wneud rhoddion ar-lein y gellir codi treth arnynt, neu drwy'r post.

UDA

Os ydych yn drethdalwr yn yr Unol Daleithiau a hoffech wneud rhodd y gellir codi treth arno, gallwch wneud hynny drwy Sefydliad Ysgolion a Phrifysgolion Prydain. (BSUF) – sefydliad nid-er-elw a ystyrir gan Adran Trysorlys yr Unol Daleithiau fel bod yn sefydliad elusennol wedi'i eithrio o dan Adran 503(c)(3).

Os byddwch yn dewis rhoi $1,500 neu fwy dros gwrs blwyddyn academaidd (1 Awst – 31 Gorffennaf), byddwch yn dod yn aelod o Gylch Caerdydd yn awtomatig.

Ffyrdd o roi

Cyflwyno rhodd ar-lein

Gallwch roi ar-lein drwy BSUF gan ddefnyddio PayPal neu eich cerdyn debyd neu gredyd.

Gwnewch rodd drwy'r post

Os byddai'n well gennych roi drwy'r post, lawrlwythwch y ffurflen rhoddi BSUF a'i hanfon, ynghyd â siec, i:

British Schools & Universities Foundation
575 Madison Avenue, Suite 1006
New York, NY 10022-2511

Mae'r BSUF hefyd yn derbyn rhoddion o warantau, cronfeydd ac IRAs marchnadol ar ran Prifysgol Caerdydd, I gael gwybod mwy, gweler eu tudalennau gwe gwybodaeth rhoddwr.

Byw yn rhywle arall ac eisiau gwneud rhodd?

Gallwch roi ar-lein gan ddefnyddio eich cerdyn credyd neu ddebyd. Gallwch hefyd wneud rhodd drwy ffonio'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr.