Ewch i’r prif gynnwys

“Peth llechwraidd yw iselder, mae’n tueddu i gyfyngu ar eich bywyd o dipyn i beth a gwneud y byd yn llai.” Unigolyn a gymerodd ran yn yr ymchwil

Nid yw profiad y person hwn a gymerodd ran yn yr ymchwil yn anghyffredin. Anhwylder pruddglwyfus difrifol (MDD), yr hyn sy’n cael ei alw’n iselder clinigol yn aml, yw’r salwch meddwl mwyaf cyffredin a hwn yw’r prif achos dros orfod byw gydag anabledd. Dyma brif achos anabledd ymhlith pobl yn eu harddegau ac oedolion ifanc ledled y byd.

Ond mae’r unigolyn hwn, a channoedd o bobl eraill, yn cymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil sy’n ceisio newid y duedd hon. a Dr Frances Rice (PhD 2003) sy'n ei chyd-arwain.

Ymchwilydd yw’r Athro Frances Rice ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi bod yn astudio iselder ers cwblhau ei PhD.

“Mae diddordeb gen i mewn gwyddoniaeth sy’n gallu gwella bywydau pobl ac sy’n ceisio mynd i’r afael ag anawsterau sy’n wynebu’r gymdeithas; rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth pwysig iawn. Dyma rywbeth sy’n anhygoel o gyffredin.

“Mae cynifer o bobl yn perthyn neu’n adnabod rhywun sy’n agos atyn nhw y mae iselder wedi effeithio arno. Yn benodol, rydyn ni’n canolbwyntio ar y cyfnod pontio rhwng glaslencyndod a bod yn oedolyn ifanc gan mai dyna pryd y bydd y rhan fwyaf o achosion newydd o iselder yn dechrau.”

Mae Fran yn ymchwilio i’r hyn sy’n achosi iselder drwy olrhain iechyd meddwl, iechyd corfforol, amgylchiadau cymdeithasol a geneteg dros amser.

“Rwy’n rhan o astudiaeth fawr a ddechreuodd yn 2007 ac sy’n cynnwys tua 350 o deuluoedd ar draws de Cymru. Rydyn ni’n cwrdd â phobl yn eu harddegau y mae eu rhieni yn dioddef o anhwylderau pruddglwyfus sy’n digwydd drosodd a thro, yn ogystal â’r rhieni eu hunain hefyd. Roedd y bobl ifanc hyn mewn cryn berygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl yn y teulu ond bydd rhai’n parhau’n iach tra y bydd pobl eraill yn mynd yn wael. Rydyn ni eisiau cael gwybod pam. Ni fydd pawb â rhiant sy’n dioddef o iselder yn datblygu iselder, felly mae angen ffordd o ragweld pwy sydd â’r perygl mwyaf fel bod y rheini sydd â’r risg fwyaf yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw’n gyflym.”

''Roedd y cwestiynau...wedi peri imi ystyried fy mywyd a'r ffordd roeddwn i'n teimlo. Rwy’n falch fy mod i wedi gallu helpu oherwydd fy mod i’n gweithio drwy’r cwestiynau hynny yn fy mhen o hyd.” – person ifanc yn ei arddegau a gymerodd ran

Mae Frances yn gweithio gydag ymchwilwyr sy’n arbenigo ym maes seicoleg, seiciatreg, niwrowyddoniaeth, ac mae rhai ohonynt hyd yn oed yn arbenigo mewn imiwnoleg.

“Mae Caerdydd yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer ymchwil iechyd meddwl. Rydyn ni’n cydlynu’n dda yn y ffordd rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd tuag at nod cyffredin - tîm amlddisgyblaethol o ymchwilwyr ydyn ni sy’n ceisio cyrraedd mannau tebyg yn y pen draw, sef deall rhagor am yr achosion sylfaenol sy’n gyfrifol am ystod o gyflyrau iechyd meddwl.”

“Mae amrywiaeth yn cryfhau’r ymchwil ac mae angen hyn gan fod y rhain yn gyflyrau dyrys dros ben ac mae cyfuniad cymhleth o ffactorau yn eu hachosi. Drwy anwybyddu’r ffactorau biolegol neu gymdeithasol, neu ganolbwyntio ar un maes yn unig, fyddwch chi byth yn gallu gweld y darlun cyfan.”

“Mae problemau cymhleth megis iselder yn gofyn am sawl safbwynt gwahanol a nifer o feddyliau sy’n gweithio o gyfeiriadau gwahanol. Dydyn ni ddim yn ceisio gwahanu ffactorau. Yn hytrach, rydyn ni’n ystyried y cyfan ar yr un pryd i weld sut maen nhw’n rhyngweithio â’i gilydd.

“Rydyn ni’n gweithio gyda grwpiau ledled y byd sy’n gwneud astudiaethau tebyg, gan sefydlu prosiectau ar y cyd ag ymchwilwyr rhyngwladol sy’n gwneud astudiaethau tebyg a cheisio cronni ein holl adnoddau a gweithio ar rai o’r un cwestiynau gyda’n gilydd.”

Mae tîm yr Athro Rice yn ymchwilio mewn ffordd gyfannol.

''Doeddwn i ddim yn teimlo cywilydd yn sgîl byw gyda hwyliau isel cronig ar ôl cymryd rhan yn yr arolwg hwn.'' – Rhiant a gymerodd ran

Bydd adnabod yr achosion yn helpu i ddatblygu atebion ymarferol.

“Drwy ddeall rhai o’r achosion, y syniad yw y byddwch chi wedyn yn gallu ceisio penderfynu sut i drin cyfnod o iselder yn well pan fydd yn codi a’i atal rhag mynd yn rhywbeth llawer mwy difrifol.

“Rydyn ni’n ceisio adnabod y ffactorau sy’n gwneud rhywun yn fwy tebygol o ddatblygu salwch pruddglwyfus yn llawer hwyrach fel y gallwn ni ddefnyddio’r wybodaeth honno mewn ymarfer clinigol i ddatblygu ffyrdd o fonitro’n well a nodi pwy y bydd angen cymorth arno a phwy y bydd angen ei dargedu at ddibenion ymyrraeth.”

“Rydyn ni’n gobeithio datblygu teclyn y bydd meddygon teulu a chlinigwyr yn gallu ei ddefnyddio i ragweld y risg o ddatblygu iselder a sicrhau y bydd yr unigolion hynny y mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw fwyaf yn cael y cymorth a’r gofal sydd eu hangen arnyn nhw. Mae teclynnau o’r fath yn cael eu defnyddio yn rheolaidd mewn ymarfer cyffredinol er mwyn rhagweld problemau iechyd corfforol megis clefyd cardiofasgwlaidd ond nid yw’r rhain ar gael ar hyn o bryd at ddibenion monitro iechyd meddwl.

“Gan ddibynnu ar y claf, bydd y gwaith o atal yn debygol o gynnwys ymagweddau seicolegol (megis ymarfer adnabod a herio ffyrdd negyddol o feddwl) yn ogystal â ffactorau eraill sy’n gysylltiedig â ffyrdd o fyw megis cysylltu â phobl a chael digon o gwsg.”

Mae rhoddwyr sy’n cefnogi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl yn rhan o’r ymchwil hon. Yn achos Fran, mae’r rhoddion yn golygu ei bod wedi gallu edrych yn fanwl ar rôl y system imiwnedd ym maes iselder.

“Mae’r dystiolaeth yn awgrymu ei bod yn bosibl bod ymatebion imiwnedd yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd meddwl. Rydyn ni eisiau edrych yn fanylach ar hyn i wybod beth yw’r cysylltiad rhwng y system imiwnedd a straen ac iechyd meddwl.

“Heb gefnogaeth y rhoddwyr. fydden ni ddim yn gallu cynnwys yr elfen hanfodol hon sy’n deillio o’r astudiaeth ddiweddaraf.”

Mae'r ymchwilwyr eisoes wedi cwrdd â'r bobl yn eu harddegau a'u rhieni deirgwaith ac maen nhw bellach yn gwneud astudiaeth ddilynol, ddeg mlynedd ar ôl yr un gyntaf, i weld beth sy'n digwydd yng nghanol eu 20au.

Mae’r dyfyniadau hyn yn dangos yn glir y ffaith bod y weithred o gymryd rhan yn yr astudiaeth, a hynny’n unig, wedi cael effaith arwyddocaol. Yn hytrach na gadael i iselder gyfyngu ar fywyd o dipyn i beth a gwneud y byd yn llai, mae’r astudiaeth wedi cynnig posibiliadau a ffyrdd newydd o drafod y pwnc.

Ac er y byddai'n rhwydd inni edrych ar y llwyddiant hwn a llongyfarch ein hunain ar ein gwaith, y gwir amdani yw bod yr astudiaeth ar waith o hyd. Gan fod y deilliannau mor arwyddocaol i’r rheini sy’n cymryd rhan erbyn hyn, mae’n awgrymu y gallai ymchwil Frances, os caiff gefnogaeth barhaus, amlygu'r rheini sydd mewn perygl mewn ffyrdd gyflymach a gwell, rhoi triniaeth fwy effeithiol a gwella bywydau pobl yn y pen draw.

Yr astudiaeth hon oedd y gwaith arweiniol a sbardunodd pobl i gymryd iechyd meddwl o ddifrif gan ei fod wedi ymchwilio iddo drwy gydol holl gyfnodau’r symptomau yn ogystal â’i effaith ar y teuluoedd. Wrth i weddill y gymdeithas ddechrau ymgyfarwyddo â hyrwyddo lles a theimlo’n dda, rydw i’n falch fy mod wedi cymryd rhan o’r cychwyn cyntaf.” - Rhiant

"Oherwydd eich gwaith, rydyn ni'n dechrau gweld y darlun cyfan ar iselder yn well."