Ewch i’r prif gynnwys

Hawliau cyllidwyr

Ym mis Gorffennaf 2017, fe gymeradwyodd Cyngor Prifysgol Caerdydd gynnig i fabwysiadu’r Hawliau Arianwyr canlynol. Mae’r rhain yn amlinellu ymrwymiadau’r brifysgol i bawb sy’n ein hariannu, yn ogystal ag ymrwymiadau ychwanegol i’r rhai sy’n rhoi rhoddion dyngarol i’r brifysgol.

Bydd y brifysgol yn

  • Darparu’r cyfrifon ariannol mwyaf diweddar sydd wedi’u cyhoeddi a gwybodaeth ariannol arall berthnasol mewn fformat hwylus
  • Rhoi cydnabyddiaeth a chyhoeddusrwydd priodol i gefnogaeth yr arianwyr drwy ymgynghori â nhw ac yn unol â Pholisi Enwi’r Brifysgol, gan barchu hawl y rhoddwyr ddyngarol i barhau’n ddienw os dyna yw eu dymuniad
  • Cydymffurfio'n llawn â Deddf Diogelu Data 2018 wrth gadw gwybodaeth am arianwyr gan roi copi o'r wybodaeth bersonol a gedwir am arianwyr ar gais, a diweddaru neu gywiro unrhyw ddata personol anghywir ar gais;
  • Darparu adroddiadau am gynnydd a’r newyddion diweddaraf i arianwyr am weithgareddau a gefnogwyd
  • Cydymffurfio'n llawn â Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 lle bo angen yn unol â’n statws fel corff cyhoeddus. Gall hyn gynnwys datgelu gwybodaeth y gofynnwyd amdani, oni bai bod unrhyw eithriad sy’n cael ei roi ar waith i atal hynny fesul achos.

Yn ogystal â Hawliau’r Arianwyr uchod, bydd Prifysgol Caerdydd yn parchu’r hawliau ychwanegol canlynol i roddwyr:

Gellir dod o hyd i weithdrefn gwyno Prifysgol Caerdydd mewn perthynas â rhoddion dyngarol yma.

Mae canllawiau Prifysgol Caerdydd ar gyfer ymdrin â phobl mewn amgylchiadau bregus mewn perthynas â rhoddion dyngarol ar gael ar gais gan y Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr. Gallwch ebostio donate@caerdydd.ac.uk neu ffonio +44(0)29 2087 6473.

Fundraising Regulator logo small