Sut y gallwch chi helpu
Gallwch ein helpu i achub, newid a chyfoethogi bywydau drwy gefnogi un o’r meysydd hyn, lle rydym yn gwybod y gall eich rhodd wneud gwir wahaniaeth.
Helpwch ni i gynnig gwasanaethau cymorth rhagorol i fyfyrwyr, meithrin ymchwil blaenllaw, a choleddu partneriaethau busnes ac arloesi.
Os hoffech chi siarad â ni am yr hyn y mae eich rhodd yn ei gefnogi, gan gynnwys meysydd gwaith eraill Prifysgol Caerdydd, cysylltwch â ni:
Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cefnogi myfyrwyr
Gallwch helpu i gefnogi myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn un o’r tri maes a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i brofiad y myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd: addysg i bawb, cyflogadwyedd, neu iechyd a lles.
Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch helpu i gefnogi myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd
Ymchwil canser
Trwy gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, byddwch yn helpu i gyflymu datblygiad triniaethau a diagnosis newydd, mwy effeithiol ac rhwystro canserau.
Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch helpu i gefnogi ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd
Ymchwil am imiwnedd a llid
Gallwch helpu i ddatblygu therapïau newydd ar gyfer clefydau sy’n effeithio ar y system imiwnedd, fel sepsis. Bydd eich cefnogaeth ar gyfer ymchwil i fecanweithiau sylfaenol sy’n rheoli ein system imiwnedd, yn paratoi’r ffordd at imiwneiddio ataliol, diagnosteg newydd ac ymyriadau arloesol.
Niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl
Gallwch ddatblygu ffyrdd newydd o roi diagnosis a thriniaethau newydd, mwy effeithiol ar gyfer anhwylderau fel awtistiaeth, anhwylder deubegynol, a chlefydau Alzheimer, Huntington a Parkinson. Bydd eich rhodd yn cefnogi ymchwil newydd i niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.
Darganfyddiadau ymchwil
Gallwch helpu Prifysgol Caerdydd i ehangu ei chymuned o academyddion ac ymchwilwyr, gan ddenu a chadw talent, i wneud yn siŵr ein bod yn aros ar flaen y gad o ran arloesedd byd-eang. Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu ni i feithrin talent drwy’r Academi Ddoeuthurol trwy fuddsoddi mewn ysgoloriaethau PhD.
Diolch ichi am ddewis cefnogi Prifysgol Caerdydd.