Ewch i’r prif gynnwys

Cylch Caerdydd

Gallwch ymuno â Chylch Caerdydd drwy roi rhodd o £1,000 o leiaf bob blwyddyn i Brifysgol Caerdydd.

Cylch Caerdydd pin

Byddwn yn cydnabod aelodau sy’n cyfrannu’r symiau yn fwy na £1,000 y flwyddyn.

Pan mae rhywle fel Caerdydd wedi bod mor arbennig ym mywyd rhywun, yn naturiol bydd yr awydd i roi yn ôl yn dod yn rhwydd iawn. Yn sgil ymuno â Chylch Caerdydd des i’n rhan o gymuned o gefnogwyr o’r un anian â mi, a bydd eu rhoddion yn sicrhau bod myfyrwyr cyfredol o bob cefndir yn gallu manteisio ar yr un cyfleoedd a’r un addysg o safon fyd-eang - dyna oedd y peth mwyaf naturiol i'w wneud.

Sitpah Selvaratnam (LLB 1988), cynfyfyriwr ac aelod o Gylch Caerdydd

Mae Cylch Caerdydd yn cydnabod pwysigrwydd rhoddion yn fwy na £1,000. Mae rhoddwyr Cylch Caerdydd yn chwarae rôl hanfodol i Gaerdydd, trwy effaith ariannol eu cefnogaeth, ar waith y Brifysgol ac ysbrydoli cefnogwyr arall i’w dilyn. Mae rhoddwyr Cylch Caerdydd yn cynrychioli llysgenhadon codi arian blaenllaw Caerdydd, ac mae’u heffaith – yn unigol a gyda’u gilydd – o arwyddocâd cynyddol i Gaerdydd.

O fewn y flwyddyn academaidd, mae rhoddwyr yn cael eu cydnabod ar y lefelau rhodd canlynol:

  • £1,000 - £4,999
  • £5,000 - £24,999
  • £25,000+

Cydnabyddiaeth

Bydd yr Is-ganghellor yn ysgrifennu i'n holl roddwyr Cylch Caerdydd.Byddwch hefyd yn derbyn bathodyn pin arbennig, diweddariadau am y Brifysgol, a heblaw eich bod yn dewis i aros yn ddienw, bydd yn cael eich nodi yn rhestr flynyddol y Brifysgol o Roddwyr. Yn ychwanegol, mae derbyniad blynyddol arbennig Cylch Caerdydd yn rhoi cyfle i chi siarad yn bersonol ag aelodau o'n tîm Uwch-arweinyddiaeth a chlywed gan ein siaradwyr gwadd arbennig. Hefyd, bydd ein rhoddwyr mwyaf hael yn cael eu gwahodd i gwrdd â phobl allweddol yn y Brifysgol, a chadw mewn cysylltiad â thimoedd prosiect yn bersonol.

Cysylltu â ni

Os hoffech ymuno â’r grŵp hwn o bobl eithriadol drwy roi rhodd o £1,000 neu fwy yn ystod y flwyddyn academaidd hon, cysylltwch â’r:

Genna Vizard

Genna Vizard

Rheolwr Datblygu

Email
vizardg2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6727