Ewch i’r prif gynnwys

Mae Magda Meissner yn ymchwilydd a chlinigwraig, ond mae ei stori hi am ganser, fel i gynifer o bobl, yn llawer mwy personol.

“Ni wnaeth fy chwaer Ivona sôn wrtha i am y lwmp yn ei choes am amser hir. Dim ond pan oedd hi mewn poen yr oedd hi’n mynd at y meddyg - a daeth rhywbeth amheus i’r amlwg yn y sgan.

Fel cofrestrydd oncolegol (meddyg sydd wedi arbenigo mewn trin canser), roedd Magda yn ymwybodol o sarcoma, ac yn gwybod pa mor ddifrifol y gallai diagnosis fod.

“Unwaith imi gael cadarnhad mai sarcoma oedd e, fe gysylltais â fy ffrindiau o’r ysgol meddygaeth i gael gwybod ble oedd y lle gorau i Ivona gael ei thrin (roedd hi’n byw yng Ngwlad Pwyl). Fe gafodd hi sgan o’i brest yn Warsaw a daethpwyd o hyd i mets (tiwmorau metastatig) ar y frest. Cafodd hi ddiagnosis o ganser datblygedig.

“Roedd yn rhaid iddi dderbyn sawl rownd o gemotherapi. Fe weithiodd hynny i ddechrau. Fe ddiflannodd y tiwmorau ac yna roedd yn rhaid iddi gael llawdriniaeth i gael gwared ar unrhyw gancr oedd ar ôl. Roedd hi’n glir ac yn hapus ond yna fe ddangosodd sgan fod tiwmorau newydd.

“Doedd y rownd nesaf o gemotherapi ddim yn rheoli’r cancr. Roedd yn tyfu a thyfu. Roeddwn i ar absenoldeb mamolaeth felly roeddwn i’n gallu bod yno gymaint â phosib. Roeddwn i’n helpu gymaint ag y gallwn, ond doedd y cemotherapi ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth bellach.

“Fel arfer, os oes diagnosis yn cael ei wneud ar y cam yna, dim ond rhwng 12 a 18 mis yw’r disgwyliad i fyw ac efallai mai 18 mis oedd gan Ivona ar ôl i fyw.

“Roedd cemotherapi yn effeithiol i ddechrau, ond pharodd hynny ddim yn hir. Roedd hynny’n teimlo fel gobaith wag.”

Mae gan Magda brofiad uniongyrchol o beth sy’n digwydd pan nad oes digon o sylw’n cael ei roi i glefyd. Mae Sarcoma yn fath prin o ganser sy’n effeithio ar feinwe fel y cyhyrau, yr esgyrn a’r cymalau. Byddai natur prin y clefyd yn ddigon o her yn ei hun, ond mae ganddo rhwng pum deg ac wyth deg is-deip, sy’n cymhlethu’r darlun ymhellach.

“Mae’r ffaith fod y clefyd mor brin yn golygu bod pobl sydd â lympiau yn gallu anwybyddu’r peth, gan fod y rhan fwyaf o lympiau yn ddiniwed. Gall diagnosis o sarcoma fod yn heriol, ac weithiau nid yw meddygon teulu na llawfeddygon yn gwybod sut i drin y clefyd. Gall trin sarcoma yn anghywir arwain at ledaenu’r clefyd.”

Yn ogystal â thrin canserau prin fel sarcoma, mae eu hastudio a’u deall yn heriol iawn hefyd. Mae proses gystadleuol o geisio cael arian ar gyfer ymchwil, ac mae’r ffaith bod treialon clinigol yn gallu bod yn anoddach i’w cydlynu yn gymhlethdod ychwanegol, ac mae’r sefyllfa yn aml yn un rhwystredig.

“Mae’n anodd iawn cynnal treialon gyda chanserau prin - efallai na fydd cwmnïau ffarmacoleg eisiau buddsoddi gan nad ydynt yn gweld bod hynny’n broffidiol. Felly, mae’n bwysig gweithio gydag elusennau a noddwyr, a gwneud pobl yn ymwybodol, i gael cefnogaeth meddygon (sy’n anodd oherwydd weithiau dim ond 1 claf sy’n dioddef â sarcoma maen nhw’n ei weld mewn sawl mlynedd o waith!).”

“Mae angen mwy o ganolfannau treialu ar gyfer ymchwilio i sarcoma - ledled y DU ac yn rhyngwladol. Dwi’n credu y dylai pob claf gael yr hawl i dreial lle bynnag y maen nhw’n byw. Ar hyn o bryd, mae’n dibynnu ar p’un a yw’r ganolfan sydd agosaf atynt yn cymryd rhan yn y treial penodol - ac oherwydd hynny efallai na fydd gan y claf y cyfle i fod yn rhan o’r treial. Nid pawb sy’n gallu teithio i Lundain, a dyw pobl ddim eisiau teithio am 3 i 5 awr bob wythnos.

“Mae profiad Ivona yn fy atgoffa yn gyson o safbwynt y claf, a brys y sefyllfa. Rydw i eisiau cyflymu’r treialon yma a gweld cynnydd yn gyflym.”

Magda yn yr labordy.

Mae’n amlwg fod Magda yn canolbwyntio ar helpu cleifion yn uniongyrchol, ond mae gweledigaeth eang ganddi ar sut i gyflawni hynny.

“Fel clinigwraig sy’n agos at fod yn gynghorydd oncoleg, dwi eisiau gwneud profiad y claf gyda chancr gymaint gwell - o sgrinio i’r diagnosis i’r driniaeth.”

“Fy nod yw parhau i fod yn academydd clinigol, gweithio mewn clinigau ac mewn ymchwil, sefydlu treialon, casglu samplau, datblygu biofanciau a dysgu mwy am fioleg canser drwy’r treialon.”

Edrychodd PhD Magda ar ymwrthedd triniaeth yng nghyd-destun canser y fron. Mae hi nawr yn aros i ddechrau treial clinigol gyda chleifion sy’n dioddef o sarcoma, i arbrofi rhoi triniaeth imiwnotherapi.

Does dim llawer o fuddsoddiad wedi bod mewn trin sarcoma. Ar hyn o bryd, cemotherapi yw’r brif driniaeth ar gyfer sarcoma. Mae’n effeithio ar yr holl gelloedd sy’n rhannu yn eich corff - eich celloedd normal a’r celloedd cancr - sy’n gallu achosi llawer o sgîl-effeithiau.

“Mae imiwnotherapi yn ysgogi eich system imiwnedd i ymladd yn erbyn canser. Byddai’r treial hwn yn gam mawr i ymchwil sarcoma. Nid oes imiwnotherapi ar gyfer cleifion sarcoma yn y DU, ac mae’r gyfradd ymateb i gemotherapi yn isel.”

“Mae imiwnotherapi wedi cael ei ymchwilio ar gyfer sawl math o ganser, felly pam ddim ar gyfer sarcoma?”

alt text
Y fideo greodd Magda yn rhan o raglen Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol

Mae Magda yn cymhwyso ei gwybodaeth am un cancr i un arall, ac mae’r gymuned ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd yn gydweithredol tu hwnt, wrth weithio gyda mathau gwahanol o ganser a mathau gwahanol o wyddoniaeth - o’r microsgop i erchwyn y gwely.

Bydd 1 o bob 2 berson yn y DU yn dioddef o ganser yn ystod eu bywydau, ond mae dros 200 math o ganser. Mae’n hanfodol bod gennym ddiwylliant sy’n datblygu arbenigedd cyffredinol, gan rannu syniadau a chyfleusterau er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl.

Er mwyn ffynnu yn y gymuned hon a’r amgylchedd ymchwil gystadleuol yn ehangach, mae sgiliau “di-fainc”, fel sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu ceisiadau grantiau yn hanfodol.

Mae rhaglen Arweinwyr Ymchwil y Dyfodol (FLiCR) yn rhoi sgiliau i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd. Beth yw gwerth ymchwil arloesol os nad yw’n cael ei rannu, beth yw pwrpas darganfyddiadau sy’n symud gwyddoniaeth yn ei flaen os nad ydynt yn cael eu datblygu?

Mae’r datblygiad gyrfaol sydd wedi’i dargedu’n ofalus yn galluogi gwyddonwyr dawnus ymchwil canser i wella, rhannu ac adeiladu ar eu syniadau. Mae eich cymorth chi yn eu galluogi i ddatblygu gwyddoniaeth theoretig yn ddatblygiad cyffuriau, newid polisïau a hyd yn oed treialon clinigol newydd. Efallai na fyddwch yn darparu tiwbiau profi a dysglau petri, ond mae rhoddion i FLiCR yn rhoi cyfle i’n hymchwilwyr ehangu eu hymchwil i fod yn fyd-eang, yn fwy trosglwyddadwy a dylanwadol.

Mae Magda yn un o raddedigion rhaglen Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol. A nawr, o ganlyniad i’ch cefnogaeth chi, mae hi wedi gwneud cais llwyddiannus am gymrodoriaeth i wneud treial clinigol mewn imiwnotherapi fel triniaeth sarcoma.

“Rydym ni’n mynd i gyflawni dau beth. Rydym ni’n mynd i roi cyffur imiwnotherapi i gleifion sy’n dioddef o sarcoma i weld a allwn helpu’r corff i drechu canser. Hefyd, rydym ni’n mynd i roi rhywbeth i gleifion sy’n atal protein yn y corff rhag masgio’r canser - felly dylai’r canser fod yn weledol ac yn adnabyddadwy i’r system imiwnedd sydd wedi’i gryfhau.

“Oherwydd bod sarcoma yn ganser prin bydd yn rhaid i’r ymchwil hon gynnwys canolfannau a rhwydweithiau ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Ac oherwydd ei fod yn brin, mae’n rhaid i unrhyw gais am arian fod yn argyhoeddiadol.

“Oherwydd FLiCR, fe gefais arweiniad gan academyddion uwch ac fe ddes i i adnabod ymchwilwyr eraill ar draws Prifysgol Caerdydd fel Martin Scurr, a oedd hefydd yn buddio o FLiCR, ac sy’n gweithio mewn imiwnotherapi a byddaf yn cydweithio ag ef. Ar ben hynny, rydw i wedi datblygu rhwydwaith rhyngwladol o bobl sy’n gweithio gyda chanserau prin a threialon clinigol drwy gwrs cystadleuol ar ddylunio treialon clinigol, a’r rhoddion i FLiCR a wnaeth hi’n bosib i fi gymryd rhan. Roedd y cais am gymrodoriaeth ei hun yn gryf oherwydd hyfforddiant FLiCR.”

Yn hanfodol, oherwydd bod Magda yn cynnal treial clinigol, bydd cleifion sy’n dioddef o sarcoma yn cael eu heffeithio gan ei hymchwil yn syth. Dyna rym eich cefnogaeth chi. Mae’n galluogi pobl ddawnus a phenderfynol i weithio i gyrraedd eu targedau yn gyflym, sy’n golygu gobaith ar gyfer cleifion a’u teuluoedd nawr ac yn y dyfodol.

Dwi’n gweithio tuag at sefyllfa pan fydd rhywun sy’n dioddef o ganser yn gallu cael prawf gwaed i ddangos pa fwtaniadau sydd ganddyn nhw ac i ba driniaeth bydd eu corff yn ymateb.” Dyw’r gobeithion hynny ddim yn rhy uchelgeisiol. Mae’r dyfodol o fewn ein cyrraedd. Ac rydw i eisiau gweithio'n galed i gyrraedd yno'n gyflym.''