Ewch i’r prif gynnwys

P’un a ydych wedi:

  • gwneud rhodd i gefnogi myfyrwyr, ymchwil feddygol neu unrhyw brosiect arall gan Brifysgol Caerdydd
  • ymuno â Chylch Caerdydd
  • penderfynu gadael rhodd i Brifysgol Caerdydd yn eich ewyllys
  • ymuno â #TeamCardiff i godi arian
  • cefnogi myfyrwyr yn eu gyrfaoedd
  • rhoi o’ch amser i wirfoddoli fel Llysgennad Cynfyfyrwyr

… rydych chi wedi helpu i ysgrifennu’r straeon yr ydych ar fin eu darllen a llawer mwy. Diolch am wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dyma Bryony Danks (Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth 2019-), a gymerodd ran yn y Cynllun Mentora Gyrfaol, a chafodd ei pharu â'r cynfyfyriwr Andy Button-Stephens (BScEcon 2009).

"Roeddwn i'n ffodus i gael fy mharu ag Andy. Rhoddodd ei gefnogaeth lawer o hyder i mi. Cawsom sgyrsiau ystyrlon a dangosodd dosturi a gofal.

"Roedd y ddau ohonom eisiau manteisio i’r eithaf o'r profiad ac roedd yn hynod werthfawr.

"Yn dilyn arweiniad Andy, ymgeisiais am swydd y Swyddog Menywod yn etholiad Undeb y Myfyrwyr a defnyddiais y sgiliau a gefais drwy fentora yn ystod fy nghyfnod yn y swydd.

"Gyda fy hyder newydd, a chyngor Andy ar gyfer cyfweliadau, llwyddais i gael lle ar Lwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil ar ôl i mi raddio.

"Byddaf yn parhau i ofyn i Andy am arweiniad a byddaf yn defnyddio’r sgiliau a’r gwersi a ddysgais trwy gydol fy lleoliad.

"Mae llawer o fyfyrwyr yn poeni am y dyfodol, ond fe wnaeth fy mentor helpu trwy roi sicrwydd i mi y dylai’r dyfodol fod yn gyffrous, nid yn frawychus.

"Rydw i nawr yn teimlo'n barod ar gyfer y cam nesaf ar ôl y brifysgol."

Bryony Danks (Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth 2019-)

Meet Kenneth Mubanga (Law and Criminology 2020-), who received the Santander Universities Cardiff Firsts Scholarship which provides financial support, funding to take part in the global opportunities programme, and internships.

"Initially I didn’t think of applying for this scholarship because people where I’m from don’t get these chances.

"When I found out I’d been awarded I couldn’t believe it – it’s beyond my dreams. I’ve struggled so much with money as my mum isn’t able to support me, so the financial aid is so helpful that words don’t do it justice.

"I still haven’t wrapped my head around the fact I’m actually going to study abroad this summer!

"I’m going to use this opportunity to prove to myself, my mum, the teacher who encouraged me to come to university, the donors, and the world, that you can come from nothing and hit rock bottom, and still go on to become someone.

"I will remember this special chance of a lifetime in the future, and one day I hope to return the favour to someone else in a similar position."

Dyma Kenneth Mubanga (Y Gyfraith a Throseddeg 2020-), a dderbyniodd Ysgoloriaeth Gyntaf Prifysgolion Santander Caerdydd sy'n cynnig cymorth ariannol i gymryd rhan yn y rhaglen cyfleoedd byd-eang, ac interniaethau.

"I ddechrau, ni wnes i feddwl am wneud cais am yr ysgoloriaeth hon gan nad yw pobl o'm cefndir i’n cael y cyfleoedd hyn fel arfer.

"Pan wnes i ddarganfod fy mod wedi cael gwobr, ni allwn ei gredu - mae y tu hwnt i'm breuddwydion.

"Rydw i wedi cael trafferthion ariannol gan nad yw mam yn gallu fy nghefnogi, felly mae’r cymorth hwn yn hynod ddefnyddiol. Ni allaf ei fynegi mewn geiriau.

"Dwi’n methu credu fy mod yn mynd i astudio dramor yr haf hwn!

"Rydw i'n mynd i ddefnyddio'r cyfle hwn i brofi i mi fy hun, fy mam, yr athrawes a'm hanogodd i ddod i'r brifysgol, y rhoddwyr, a'r byd, y gallwch chi ddeillio o ddim byd a theimlo’n isel iawn, a llwyddo yn y pen draw.

"Byddaf yn cofio'r cyfle euraidd hwn am byth, ac rwy'n gobeithio helpu rhywun arall mewn sefyllfa debyg yn y dyfodol."

Kenneth Mubanga (Y Gyfraith a Throseddeg 2020-)

Dyma Hannah Hendry (Niwroimiwnoleg 2019-), Myfyriwr PhD Sefydliad Hodge, sy’n astudio yng Nghanolfan Imiwnoleg Niwroseiciatrig Hodge.

"Clefyd Parkinson yw'r cyflwr niwroddirywiol mwyaf cyffredin ond un yn y byd. Mae’n anhwylder echddygol, sy'n effeithio ar allu cleifion i reoli eu symudiadau.

"Fodd bynnag, gall symptomau Clefyd Parkinson nad ydynt yn rhai echddygol, gan gynnwys poen ac iselder fod yn rhai o'r agweddau gwaethaf i'r rhai sy'n byw gyda'r clefyd.

"Mae rhan o fy ymchwil PhD yn edrych ar achosion y symptomau hyn nad ydynt yn rhai echddygol er mwyn helpu i ddeall sut y gallem eu trin yn well.

"Rwy'n gobeithio y bydd fy ymchwil yn ein helpu i ddeall mwy am ba gleifion Parkinson sydd mewn perygl o ddioddef fwy o symptomau penodol nad ydynt yn rhai echddygol, er mwyn i ni allu cynnig yr ymyriadau a'r gofal cywir iddynt.

"Gan fod mwy o bobl yn byw i oedran hŷn, mae nifer y bobl sy'n byw gyda'r clefydau hyn yn cynyddu.

"Mae ymchwil o'r fath yn hanfodol i'n helpu i ddeall a gwella bywydau'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan Glefyd Parkinson yn well."

Hannah Hendry (Niwroimiwnoleg 2019-)

Dyma Naledi Formosa, Gwyddonydd Ymchwil, Is-adran Canser a Geneteg, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

"Canser y fron yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod, ac er bod gwybodaeth a thriniaethau yn gwella, nid ydym yn deall o hyd sut mae celloedd canser y fron yn gallu lledaenu o amgylch y corff.

"Os bydd y canser yn lledaenu i'r ysgyfaint, gall fod yn hynod o anodd ei drin ac yn anffodus i lawer o fenywod, mae'n angheuol.

"Nod fy ymchwil yw creu model 3D o ysgyfaint gan ddefnyddio'r System Efelychu Dynol.

"Bydd hyn yn ein galluogi i ail-greu ochrau mecanyddol a biolegol metastasis yn realistig, gan fynd â ni gam yn nes at well dealltwriaeth o sut mae'r clefyd hwn yn gweithio, a sut i'w atal.

"Drwy ddatblygu model canser mwy realistig, byddwn yn dysgu mwy am pam mae canser y fron yn lledaenu i'r ysgyfaint a rhannau eraill o'r corff.

"Gallai hyn helpu i gyflymu'r broses o ddatblygu cyffuriau newydd a helpu meddygon i baratoi cynlluniau gofal personol ar gyfer cleifion â chanser eilaidd y fron."

Naledi Formosa, Gwyddonydd Ymchwil, Is-adran Canser a Geneteg

Dyma Jonathan Davis (Niwroimiwnoleg 2019-), Myfyriwr PhD Sefydliad Hodge, sy’n astudio yng Nghanolfan Imiwnoleg Niwroseiciatrig Hodge.

"Rwy'n angerddol dros ddysgu sut rydyn ni'n dod yn pwy ydyn ni, ac mae rhan fawr o hynny'n ymwneud â deall sut mae'r ymennydd yn ffurfio.

"Mae prif gamau ffurfio’r ymennydd yn digwydd yn y groth ac yn gosod y sylfaen ar gyfer gweithrediad yr ymennydd yn ddiweddarach mewn bywyd.

"Mae fy ymchwil yn astudio'r berthynas rhwng ffactorau amgylcheddol, megis gordewdra mamau, a datblygiad anhwylderau niwroddatblygiadol.

"Fy nod yw gwella ein dealltwriaeth o sut mae celloedd imiwnedd yn cefnogi datblygiad embryonig yr ymennydd a sut y gall gordewdra neu haint amharu ar y broses hon yn ystod beichiogrwydd.

"Gall datblygiad ymenyddol amharedig arwain at anhwylderau niwroddatblygiadol megis anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth.

"Drwy wella ein dealltwriaeth o’r prosesau sy’n gysylltiedig â datblygu’r anhwylderau hyn, rwy’n obeithiol y bydd yr ymchwil hon yn helpu i nodi’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf ac yn helpu i greu triniaethau ataliol."

Jonathan Davis (Niwroimiwnoleg 2019-)

Dyma Tegan Oldfield (BA 2021, Ysgrifennu Creadigol 2022-), a dderbyniodd Wobr Syr Julian Hodge am Lenyddiaeth Saesneg.

"Mae ysgrifennu creadigol wedi bod yn rhan ganolog o fy mywyd ers pan oeddwn yn blentyn, gan gyflawni llu o swyddogaethau seicolegol a chymdeithasol i mi, gan gynnwys chwarae, therapi a symbyliad creadigol.

"Mae llwyth gwaith MA wedi bod yn heriol, fodd bynnag, pan fyddwch chi'n teimlo'n angerddol am y gwaith, mae'r her yn rhoi boddhad.

"Rydw i wedi bod yn ofalus gyda fy nghyllid i gefnogi fy ngradd ac wedi blaenoriaethu fy astudiaethau.

"Fe wnaeth derbyn y wobr hon roi hwb i fy hunanhyder a gwneud imi ymfalchïo yn fy ngwaith.

"Ar ben hynny, fe wnaeth fy ngalluogi i brynu adnoddau a llyfrau i gyfoethogi fy astudiaethau - rhywbeth na fyddwn wedi gallu ei wneud fel arall.

"Rwy’n ddiolchgar tu hwnt. Rwy’n falch iawn o gael yr anrhydedd hwn, ac mae'r gefnogaeth gan roddwyr wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'm hastudiaethau."

Tegan Oldfield (BA 2021, Ysgrifennu Creadigol 2022-)