Rhoi yn eich ewyllys
Gall rhodd wneud gwahaniaeth parhaol i genedlaethau’r dyfodol, gan ysbrydoli ein myfyrwyr i holi, bod yn arloesol a gwneud newid gwirioneddol i’r byd yr ydym yn byw ynddo.
Mae pob rhodd yn werthfawr a bydd yn cael cryn effaith ar ein gwaith, beth bynnag ei maint. Gallwch fanylu sut yn union yr hoffech chi i ni i'w defnyddio os oes gennych deimladau cryf am agwedd o Brifysgol Caerdydd -adeilad, eich Ysgol astudio, maes pwnc neu brosiect ymchwil. Cysylltwch a byddwn yn hapus i drafod hyn gyda chi.
Os ydych chi wedi enwi Prifysgol Caerdydd yn eich ewyllys, diolch yn fawr i chi. Hoffwn ddangos ein gwerthfawrogiad i chi am eich rhodd garedig. Llenwch ein ffurflen addewid o gymynrodd a'i dychwelyd i ni drwy ddefnyddio'r cyfeiriad a nodir ar y ffurflen.
Geiriad a argymhellir
Dyma rai argymhellion a fydd yn hwyluso ysgrifennu eich ewyllys.
Gofynnwch i'ch cyfreithiwr neu ymgynghorydd proffesiynol arall am gyngor cyn cynnwys unrhyw eiriad enghreifftiol yn eich ewyllys. Rydym yn argymell eich bod yn sicrhau bod unrhyw ewyllys neu godisil yr ymrwymir iddo yn cael ei roi ar waith yn briodol.
Rwyf yn rhoi ____% o weddill fy ystâd (cyn y caiff treth etifeddiant ei thynnu, os o gwbl) i Brifysgol Caerdydd, Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr, 5ed Llawr McKenzie House, 30-36 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0DE (elusen gofrestredig rhif 1136855) fel rhodd heb gyfyngiad yn fy ewyllys.
Fy nymuniad yw ei chyflwyno er budd y Brifysgol a enwyd, a bod rhwydd hynt gan y Brifysgol ei defnyddio ym mha bynnag ffordd sydd orau ym marn y Brifysgol ar adeg ei derbyn. Ar ôl cyflwyno'r gymynrodd, bydd derbynneb gan yr Is-Ganghellor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad digonol i'm Hysgutorion.
Rwyf yn rhoi [the sum of £_____] [neu rhowch fanylion yr eitem benodol] yn ddi-dreth i Brifysgol Caerdydd, Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr, 5ed Llawr McKenzie House, 30-36 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0DE (elusen gofrestredig rhif 1136855) fel rhodd heb gyfyngiad yn fy ewyllys.
Fy nymuniad yw cyflwyno'r rhodd er budd y Brifysgol a enwyd, a bod rhwydd hynt gan y Brifysgol ei defnyddio ym mha bynnag ffordd sydd orau ym marn y Brifysgol ar adeg ei derbyn. Ar ôl cyflwyno'r gymynrodd, bydd derbynneb gan yr Is-Ganghellor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad digonol i'm Hysgutorion.
Yn yr achos hwn, efallai y byddech yn dymuno cynnwys:
Bydd y cymyniad y cyfeirir ati yng nghymal ______ yn fynegrifol fel bod y swm a gyflwynir mewn gwirionedd yn cyfateb i gyfran y swm a nodwyd fel y mynegrif ym Mynegai'r Prisiau Manwerthu (y "Mynegai") ar gyfer mis fy marwolaeth ac yn cyfateb i'r mynegrif yn y Mynegai ar gyfer y mis y caiff yr ewyllys hon ei gweithredu.
Esbonio jargon ysgrifennu ewyllys
Codisil, cymynrodd, ysgutorion? Pan ddaw hi’n amser ysgrifennu ewyllys, fe ddewch ar draws ambell derm anghyfarwydd. Dyma ein hesboniadau o’r geiriau mwyaf cyffredin a ddefnyddir wrth ysgrifennu ewyllys.
Person neu sefydliad, a fydd yn derbyn rhywbeth yn eich ewyllys.
Rhodd y byddwch yn gadael i berson neu sefydliad yn eich ewyllys. Mae sawl math gwahanol o gymynroddion, ond y prif rai yw:
Cymynrodd gweddillol
Rhodd o’r hyn sy’n weddill o’ch ystâd ar ôl talu unrhyw ddyledion a rhoddion eraill. I wneud hyn, gallwch adael naill ai gyfanswm y gweddillion neu ganran ohonynt.
Cymynrodd ariannol
Rhoi swm penodol o arian fel rhodd. Yn anffodus, mae effaith chwyddiant yn golygu y bydd gwerth y cymynrodd ariannol yn gostwng dros amser. Fodd bynnag, mae'n bosibl mynegrifo swm y rhodd, fel bod ei werth yn cadw ar yr un lefel â chwyddiant.
Cymynrodd penodol
Eitem benodol a enwir, sy’n cael ei gadael fel rhodd yn eich ewyllys. Er enghraifft, darn o emwaith, dodrefn neu ddarlun.
Dogfen sy’n cael ei defnyddio i ddiweddaru ewyllys.
Eich ystâd yw cyfanswm eich meddiant personol, eiddo ac arian ar ôl tynnu unrhyw rwymedigaethau.
Y person neu'r bobl a benodwyd gennych i sicrhau bod eich dymuniadau olaf yn cael eu gwireddu. Gall y rhain fod yn weithwyr proffesiynol, ffrindiau, aelodau o'r teulu neu sefydliadau fel banciau a rhai elusennau.
Rhywun sy'n gyfrifol am blant nes eu bod yn 18 oed.
Treth ar y gyfran o'ch ystâd sydd uwchben y trothwy cyfradd dim.
Gair i ddisgrifio rhywun sydd wedi marw ac sydd heb ysgrifennu ewyllys.
Gair arall am gymynrodd neu rodd mewn ewyllys.
Pan fydd yr ymadawedig yn gadael ewyllys, bydd yn rhaid i’r ysgutor(ion) wneud cais am grant profiant. Ar ôl cael y cais hwn, bydd yr ysgutor(ion) yn gallu dosbarthu’r rhoddion sydd wedi’u gadael.
Dyma'r hyn sy'n weddill o'ch ystâd ar ôl unrhyw ddyledion, trethi, a chymynroddion penodol ac ariannol gael eu dosbarthu i fuddiolwyr.
Enw’r sawl sydd wedi gwneud ewyllys.
Un neu fwy o bobl sy'n rheoli ymddiriedolaeth.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â gadael rhodd yn eich ewyllys, neu i drefnu ymweliad i'r Brifysgol cysylltwch â:
Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Os ydych chi'n ystyried ysgrifennu neu ddiweddaru'ch Ewyllys, yn y sesiwn hon cewch gyngor annibynnol gan y cyfreithiwr cyswllt a’r cyn-fyfyriwr Laura Ikin (LLB 2006, PgDip 2007).