Ewch i’r prif gynnwys

Dewch i gwrdd â’n llysgenhadon sy’n fyfyrwyr

Mae'r cydweithio creadigol, adeiladol rhwng y brifysgol a’r gymuned yn helpu ein gwaith yn Grangetown i ffynnu.

Rydym wrth ein bodd o gael cwmni pedwar llysgennad sy’n fyfyriwr, newydd; byddant yn dod ag angerdd a phersbectif unigryw i'n gwaith yn y Porth Cymunedol.

Naomi Wray

Mae'r fyfyrwraig ôl-raddedig Naomi Wray, sydd wedi graddio ym maes mathemateg, eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r ddinas y mae hi wedi dod i’w charu ers symud i Gaerdydd i astudio yn 2019. Yn ogystal â bod yn ddeu-athletwraig brwdfrydig (digwyddiad rhedeg a beicio ar ffurf triathlon), mae’n byw gyda bod wedi colli ei chlyw i raddau helaeth, yn gwisgo mewnblaniadau cochlear ac yn ddefnyddiwr medrus o Iaith Arwyddion Prydain. Mae hi'n angerddol ynghylch cysylltu â'r gymuned fyddar drwy ei gwaith gyda ni.

Sharuha (Shaz) Kumarasamysarma

Mae Sharuha (Shaz) Kumarasamysarma, myfyrwraig yn ei blwyddyn olaf ym maes meddygaeth, yn Damiliad o Sri Lanka ac yn aelod gweithgar o Gymdeithas Diwylliant Hindŵ Shri Kalpaga. Mae hi'n dawnsio (ar lefel gystadleuol), ac yn angerddol ynghylch teithio, cysylltu ag eraill ac ynghylch gwerthfawrogi’r gwahanol ddiwylliannau a chredoau a geir ledled y byd.

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y rôl hon a digwyddiadau fel Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl. Rwyf wrth fy modd â’r syniad y gallwn fod yn fodel rôl i bobl ifanc yn Grangetown. Nid yn unig i bobl ifanc sy'n byw gyda cholled clyw a'u cyfoedion, ond i eraill sy'n byw ag anabledd. Unwaith y byddwch yn meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ar draws cymunedau, mae pobl ifanc yn dechrau gweld beth sy'n bosibl.
Mae Naomi Wray, 22, yn astudio ar gyfer gradd meistr mewn Mathemateg

Aldridge Takura Nyamowa

Graddiodd y myfyriwr ôl-raddedig ym maes cyfrifiadureg, Aldridge Takura Nyamowa, gyda gradd ym maes Peirianneg Bensaernïol yn 2020. Yn ogystal â chefnogi’r Porth Cymunedol, mae Aldridge yn gwirfoddoli gyda Sefydliad Peirianwyr Zimbabwe i hyrwyddo datblygiad proffesiynol graddedigion ym maes peirianneg. Mae wedi bod yn weithgar ym maes profiad myfyrwyr ers ymuno â'r brifysgol ac mae'n angerddol dros greu amgylcheddau sy'n caniatáu i unigolion fod y fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain.

Dilani Thevathas

Astudiodd y fyfyrwraig ôl-raddedig Dilani Thevathas, Bensaernïaeth Fewnol ym Mhrifysgol Westminster yn Llundain cyn symud i Gaerdydd i ymuno â rhaglen radd meistr ym maes Datblygu Trefol a Rhanbarthol. Daw â phrofiad cyfoethog ym maes Datblygu Cymunedol i'n tîm, gan gynnwys dealltwriaeth y bu iddi ei magu wrth weithio yn ardal Pilgwenlli yng Nghasnewydd lle cafodd ei magu ac mae bellach wedi sefydlu cwmni buddiannau cymunedol i fod o gymorth i bobl leol sydd am ddarganfod cyfleoedd a phrofiadau newydd.