Ewch i’r prif gynnwys

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol seibr-ddiogelwch

12 Awst 2020

CyberFirst logo

Mae’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn cynnal digwyddiad pwysig sy’n annog disgyblion ysgol i ddilyn gyrfa ym maes seibr-ddiogelwch.

Mae’n bleser gan yr Ysgol gynnal digwyddiad CyberFirst Adventurers am yr eildro ar ôl profiad llwyddiannus tu hwnt ddwy flynedd yn ôl, ac mae’n gyffrous i gael y cyfle i gyrraedd hyd yn oed fwy o ddisgyblion drwy wneud y digwyddiad yn un rhithiol yn sgil y cyfyngiadau Covid-19 presennol

Yn ystod y cwrs undydd ar 26ain Awst - a ddatblygwyd gan Ganolfan Seibr-Ddiogelwch Genedlaethol (NSCS)GCHQ - bydd pobl ifanc 11 i 14 oed yn dysgu am ddatrys codau, datblygu appiau gwe a fforensig digidol.

Mae CyberFirst yn rhaglen o gyfleoedd gan NCSC i helpu pobl ifanc 11 - 17 oed i ymchwilio i’w brwdfrydedd dros dechnoleg drwy eu cyflwyno i fyd chwim seibr-ddiogelwch, ac mae Prifysgol Caerdydd yn falch o gefnogi’r rhaglen.

Engagement activity at the School of Computer Science and Informatics

Dywedodd Chris Ensor, Dirprwy Gyfarwyddwr Twf Seibr NCSC: “Mae CyberFirst Adventurers yn cynnig cyfle i bobl ifanc a’u teuluoedd weld sut mae astudio cyfrifiadureg a diddordeb mewn technoleg yn gwella eu rhagolygon gyrfa - yn enwedig gyda seibr-ddiogelwch.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc wedi defnyddio dyfeisiau sy’n gysylltiedig â’r we o oedran ifanc iawn ac mae’r NCSC yn ymrwymedig i’w helpu nhw i feddwl am fynd â’r wybodaeth honno sy’n bodoli eisoes i’r lefel nesaf.

“Mae’n wych gweld Prifysgol Caerdydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seibr-ddiogelwch yng Nghymru.”

Dywedodd Dr Yulia Cherdantseva, Darlithydd ac Arweinydd Thema Seibr-ddiogelwch yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: “O weld bod diffyg cyson yn y gweithlu seibr-ddiogelwch, mae’n bwysig sefydlu a chynnal llif cyson o weithwyr proffesiynol seibr-ddiogelwch cymwys a brwd. Dylai pobl ifanc gael amryw gyfleoedd i ddysgu mwy am seibr-ddiogelwch ac am yrfaoedd posibl yn y maes hwn ar yr adeg gywir, wrth iddyn nhw baratoi at wneud eu dewisiadau TGAU.

“Mae’n bleser gennym ni ym Mhrifysgol Caerdydd gynnal y rhaglen CyberFirst a rhoi cyfle arall i bobl ifanc ddysgu mwy am gyfrifiadureg a seibr-ddiogelwch, a’u galluogi i wneud dewis mwy gwybodus am eu llwybr  gyrfa yn y dyfodol.

“Cawsom adborth cadarnhaol iawn gan y sawl a ddaeth i’n digwyddiad diwethaf ac roedd yn bleser gweld y wên ar eu hwynebau a’u hysbrydoliaeth ar ddiwedd y dydd. Mae fformat y digwyddiad wedi newid o un wyneb yn wyneb i un rhithiol eleni; bydd hyn yn galluogi mwy o bobl ifanc i ymuno â’r digwyddiad o ymhellach i ffwrddwrth i ni sicrhau ei fod yn rhyngweithiol, yn ddifyr ac yn ddiddorol!”

Mae’r Brifysgol hefyd wedi’i chydnabod gan Lywodraeth y DU fel y Ganolfan Ragoriaeth mewn Ymchwil seibr-ddiogelwch gyntaf yng Nghymru.

Mae’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn addysgu ac yn gwneud gwaith ymchwil ym maes seibr-ddiogelwch, gan gynnig rhaglenni megis BSc mewn Cyfrifiadureg gyda Diogelwch a Fforensig, ac MSc mewn Seibr-ddiogelwch.

Gallwch gofrestru i fynd i’r digwyddiad CyberFirst Adventurers yma.

Rhannu’r stori hon