Rhaglen Ysgoloriaeth PhD Gynhwysol
Yn newydd sbon ar gyfer 2024, bydd ein rhaglen ysgoloriaethau cynhwysol yn hyrwyddo buddion gyrfaoedd ymchwilwyr yn y Gwyddorau Cymdeithasol, y Dyniaethau a’r Celfyddydau (SHAPE) i gymunedau mwy amrywiol.
Cydnabyddwn fod angen inni gyflymu cymorth, a gwella cyfleoedd, ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Ceisia’r rhaglen ysgoloriaeth hon ddatblygu cymuned ymchwil sy’n fwy cynhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd a galluogi'r rheiny sy'n derbyn ysgoloriaeth i gyflawni eu llawn botensial ac elwa o gymhwyster a phrofiad ôl-raddedig.
Mae’n anelu hefyd at wneud gwahaniaeth go iawn mewn cymunedau allanol a’r profiadau hynny a geir pobl o grwpiau lleiafrifol neu’r rheiny ar y cyrion drwy brosiectau ymchwil y bydd yn eu hariannu.
Opsiynau
Ceir 2 lwybr y gellir gwneud cais amdanynt.
Prosiectau a bennwyd ymlaen llaw
Yn gyntaf oll, cynigwn gyfle i wneud cais am ysgoloriaeth sy'n gysylltiedig ag un o’r 10 o brosiectau a bennwyd ymlaen llaw ar themâu sy’n amrywio, o anghyfiawnderau diagnostig ym maes iechyd meddwl i ddinasyddiaeth bobl fyddar yng Nghymru ac amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiannau creadigol.
Ymchwiliwch i’r opsiynau prosiect a bennwyd ymlaen llaw sydd ar gael.
Anghyfiawnderau croestorri: Hil, Dosbarth, Rhyw a Throseddu Pobl Ifanc yn Ne Cymru
Mae'r prosiect hwn yn ei hanfod yn mynd i'r afael â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Fe'i cynlluniwyd i wella dealltwriaeth o brofiadau pobl ifanc leiafrifol o droseddu, plismona a'r system cyfiawnder troseddol, a'u barn arnynt.
Colli Diniweidrwydd: Gwrthwynebiad a Gwrthryfel ym Marddoniaeth Amlgyfrwng Caleb Femi a William Blake
Mae'r prosiect hwn yn cynnig cyfle i chi archwilio gwaith amlgyfrwng un o'r beirdd Du Prydeinig cyfoes pwysicaf - ac i ail-ddychmygu canon barddoniaeth Ramantaidd i artistiaid, darllenwyr a myfyrwyr heddiw.
Diagnosis a Thriniaeth Anghyfiawnderau mewn Iechyd Meddwl
Nid yw diagnosisau iechyd meddwl wedi’u dosbarthu’n gyfartal ar draws y boblogaeth, heb sôn am ar draws gwahanol wledydd a diwylliannau.
Mannau cynhwysol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol: Cyd-gynhyrchu mannau trefol a chynlluniau gyda phlant a phobl ifanc o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd
Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle cyffrous i weithio ar y rhyngwyneb rhwng bywydau bob dydd plant a phobl ifanc sydd wedi’u hallgáu, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel y ddinas, ac yn ehangach.
Dinasyddiaeth Fyddar yng Nghymru
Yng Nghymru, mae'r gymuned fyddar yn wynebu heriau niferus mewn cyflogaeth, addysg, iechyd. Mae prinder dehonglwyr a chyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) hefyd, gan waethygu'r problemau y mae unigolion byddar yn eu profi fel dinasyddion Cymru.
Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Diwydiannau Creadigol: Achos Crefftwyr Cymru
Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar brofiad gweithwyr mewn swyddi crefft yn y sectorau sgrin a theatr yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf o’r hyn a wyddom am weithio yn y diwydiannau creadigol yn ymwneud â thalent weledol, ar y sgrin neu brofiad y rhai mewn rolau cynhyrchu amlwg.
Paradocs pryderon elusennol a hiliol: archwiliad beirniadol
Mae sefydliadau elusennol yn fannau ar gyfer gweithredu moesol lle mae gweithredoedd anhunanol o garedigrwydd a haelioni cymwynaswyr yn cydblethu ag ymddygiad cymdeithasol gweithwyr a rheolwyr er budd cymdeithasol.
Welsh Woollens a Radicaliaeth Gwrth-gaethwasiaeth Trawswladol ar ôl Diddymu
Mae'r prosiect hwn yn archwilio'r cysylltiadau rhwng dirywiad y diwydiant gwlân yng Nghymru ar ôl diddymu caethwasiaeth (1833-38), symudiadau gweithwyr gwledig yng Nghymru (e.e., Terfysgoedd Swing y 1830au, Siartiaeth yn y 1840au) a symudiadau diddymwr a gwrth-gaethwasiaeth ehangach yn y DU a'r Caribî.
Cyfieithu Hil a Chwyldro: Ysgrifau Frantz Fanon yn Japan
Yn y prosiect hwn, byddwch yn edrych ar gyfieithiad a derbyniad Japaneaidd ysgrifeniadau'r seiciatrydd a'r deallusyn Frantz Fanon a anwyd ym Martinique, yr oedd ei destunau yn hanfodol wrth lunio dealltwriaeth deallusion Japan o hil a gwladychiaeth.
Dad-drefedigaethu Prifysgol Caerdydd? Dadansoddi daearyddiaethau, cysylltiadau, arferion a chymynroddion sefydliadol trefedigaethol ac ôl-drefedigaethol
Mae dad-drefedigaethu wedi cipio, a dominyddu, sylw'r cyfryngau cenedlaethol ond mae ymdrechion mewn sefydliadau fel prifysgolion yn aml yn methu â mynd i'r afael â'r heriau y mae'n eu cyflwyno.
Cystadleuaeth agored
Cystadleuaeth agored yw’r ail opsiwn, lle cewch chi gynnig prosiect ymchwil eich hun.
Cyllid
Bydd yr ysgoloriaeth yn talu’r ffioedd dysgu ac yn darparu ariantal am hyd at 4 blynedd yn unol â chyfraddau Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI). Byddwch chi hefyd yn gymwys i gael grant hyfforddiant a chymorth ymchwil yn unol â'r grant cymedrig a ddarperir ar draws Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (£1300).
Fe’ch cefnogir hefyd i wneud cais am interniaeth er mwyn ennill sgiliau cyflogadwyedd amhrisiadwy, gyda £2000 ychwanegol ar gael i gefnogi unrhyw interniaeth di-dâl/cyflog cymedrol a wnaed.
Bod yn gymwys
Mae'r rhaglen ysgoloriaethau yn agored i fyfyrwyr sy'n nodi eu bod o dras Ddu, Asiaidd neu leiafrifol ethnig, gan gynnwys pobl o hil gymysg/cefndir ethnig sy'n ddinasyddion Prydeinig ac sy'n hanu o'r DU. Mae hyn yn cynnwys y rhai y rhoddwyd statws ffoadur iddynt. Ni chaniateir i ymgeiswyr a fynychodd ysgolion sy'n codi ffioedd wneud cais amdani, oni bai eu bônt yn ymgeisio am ysgoloriaeth lawn neu fwrsariaeth ar sail teilyngdod a phrawf modd.
Y broses ymgeisio
Er mwyn gwneud cais, cwblhewch un o'r ffurflenni canlynol:
Dyddiad cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau (i’r ddau lwybr) yw dydd Iau 28 Mawrth 2024.
Cysylltwch â ni
Dr Elizabeth Wren-Owens
Deon Addysg Ôl-raddedig Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Darllenydd mewn Astudiaethau Eidaleg a Chyfieithu
Ymunwch â'n sesiwn wybodaeth ar-lein ddydd Mercher 28 Chwefror 2024 am gyflwyniad a sesiwn holi ac ateb ar ein rhaglen ysgoloriaethau PhD cynhwysol.