Ewch i’r prif gynnwys

Cystadleuaeth Prosiectau a bennwyd ymlaen llaw - Nodiadau canllaw

Cwestiwn 3 (500 gair)

Yn yr adran hon, dylech roi naratif clir o'ch profiadau yn y gorffennol ym maes addysg a'r tu allan iddo, gan gynnwys unrhyw wybodaeth berthnasol a allai helpu i lywio penderfyniad y panel adolygu. Dylech anelu at gynnwys:

  • Manylion ynghylch unrhyw gymwysterau perthnasol (canlyniadau graddau israddedig a/neu ôl-raddedig a addysgir, er enghraifft) ac ym mha gyd-destun y bu i chi ymgymryd â hwy
  • Manylion ynghylch unrhyw gymwysterau proffesiynol
  • Manylion ynghylch unrhyw waith sylweddol a/neu brofiad o wirfoddoli mewn meysydd perthnasol
  • Manylion ynghylch unrhyw ddyfarniadau a dderbyniwyd

Mae'n bwysig dweud yma sut mae eich profiadau yn y gorffennol wedi eich paratoi i ymgymryd â phrosiect ymchwil uwch. Gallai'r rhain gynnwys sgiliau trefnu a chyfathrebu, y gallu i gwrdd â therfyn amser, y gallu i ddadansoddi a syntheseiddio gwybodaeth. Mae’n bosibl yr hoffech roi sylw i brofiadau sydd wedi eich helpu i ddatblygu'r sgiliau hyn yn ogystal â sgiliau eraill. Mae’n bosibl y byddwch am nodi sut y bydd eich profiad(au) blaenorol yn cael eu defnyddio'n academaidd felly yng nghyd-destun y prosiect penodol hwn.

Cwestiwn 4 (1000 gair)

Yn yr adran hon, mae angen i chi amlinellu eich dull o ymdrin â'r pwnc ymchwil arfaethedig, gan amlinellu'r agweddau canlynol:

  • Eich dealltwriaeth o nodau, arwyddocâd, gwreiddioldeb a pherthnasedd y prosiect
  • Y methodolegau ar gyfer eich gwaith ac unrhyw ddulliau damcaniaethol perthnasol y byddwch yn eu defnyddio
  • Y prif ddeunyddiau rydych chi'n gweithio â nhw neu arnynt
  • Unrhyw ganlyniadau rydych chi'n eu rhagweld y tu hwnt i'r traethawd ymchwil PhD ei hun (e.e. allbynnau creadigol, allgymorth, ymgysylltu â'r cyhoedd, effaith)

Dylai'r cynnig hefyd esbonio pam mai chi yw'r ymgeisydd mwyaf addas i ymgymryd â'r prosiect hwn, yr hyn y byddwch yn ei gynnig, a'r sgiliau pellach y byddwch yn eu datblygu trwy ymgymryd â'r prosiect.

Er nad oes un ffordd gywir o ysgrifennu cynnig ymchwil, gallai eich cynnig ymchwil gynnwys y canlynol:

  • Y broblem/problemau ymchwil / cwestiwn/cwestiynau neu ddamcaniaeth(au) rydych yn bwriadu mynd i'r afael â hwy yn y prosiect ehangach fel yr amlinellwyd gan y goruchwylwyr, ac esboniad o bwysigrwydd ac amseroldeb y prosiect
  • Cyd-destun eich astudiaeth arfaethedig:
    • Dylech esbonio beth sydd wedi cael ei ddweud neu ei wneud ynghylch hyn o'r blaen
    • Gallwch gynnwys adolygiad dethol a beirniadol o'r llenyddiaeth ysgolheigaidd berthnasol, gan asesu ei chryfderau a'i gwendidau, i ddangos eich dealltwriaeth o'r prif ddadleuon a materion yn eich maes ymchwil.
    • Dylech nodi sut y bydd eich ymchwil arfaethedig yn ychwanegu at, neu'n ailystyried, yr hyn sydd wedi’i ddweud / wneud eisoes o ran y pwnc
  • Y dulliau ymchwil y byddwch yn debygol o'u defnyddio (pam mai'r rhain yw'r rhai mwyaf priodol?)
  • Canlyniadau sy'n deillio o'r ymchwil y tu hwnt i'r PhD ei hun (gall y rhain fod yn allbynnau creadigol, deunyddiau allgymorth, gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd, canllawiau effaith polisi, ac ati)
  • Os ydych yn gwybod y bydd angen hyfforddiant arbenigol arnoch er mwyn ymgymryd â'r cynnig prosiect (e.e. ieithoedd; offer neu ddefnyddio meddalwedd; hyfforddiant ar dechnegau dadansoddi), neu os oes gennych unrhyw gynlluniau o ran lleoliad a fydd yn eich cefnogi i ddatblygu’r sgiliau hyn, esboniwch hynny yma. Nid yw ymwybyddiaeth y bydd angen hyfforddiant ychwanegol arnoch i gwblhau eich ymchwil arfaethedig yn adlewyrchiad negyddol o lle rydych chi arni o ran bod wedi paratoi i ymgymryd â'ch prosiect.
  • Llinell amser dros dro ar gyfer cwblhau eich prosiect ymchwil PhD

Cwestiwn 5 (300 gair)

Yn yr adran hon, dylech ddweud sut y bydd y fwrsariaeth yn eich helpu i ddatblygu eich dyheadau ymhellach. Sut mae'r prosiect ymchwil hwn yn cyd-fynd â'ch nodau proffesiynol? Pa sgiliau rydych chi'n disgwyl eu caffael trwy’r prosiect a fydd yn helpu i ddatblygu eich gyrfa broffesiynol? Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn nodi yma sut mae'r prosiect yn datblygu cyflawniadau blaenorol ymhellach.