Ewch i’r prif gynnwys

Astudio

Mae ein hystod eang o gyrsiau ac ymchwil sy'n canolbwyntio ar addysgu yn ysbrydoli a herio myfyrwyr i feddwl drostynt eu hunain.

Cynlluniwyd holl gyrsiau'r Coleg i alluogi myfyrwyr i gyflawni eu potensial academaidd a galwedigaethol. Mae graddedigion y Coleg, sy'n cael eu cydnabod am eu gallu, wedi mynd ymlaen i ennill swyddi amlwg ym meysydd newyddiaduraeth, busnes, cynllunio, cyfieithu, y gyfraith a mwy.

Mae'r cyfleusterau addysgu a dysgu yn cynnwys yr ystafell fasnachu yn Ysgol Busnes Caerdydd, stiwdios radio a theledu yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant a mynediad at lyfrgelloedd 24 awr modern ar draws y campws.

Nodwch bod y fideo isod trwy gyfrwng y Saesneg. Gallwch wylio fideos cyfrwng Cymraeg a dysgu mwy am ddarpariaeth Gymraeg y Brifysgol ar wefan Cangen Caerdydd.