Cydweithio
Cewch ragor o wybodaeth am adnoddau ac offer sydd wedi’u datblygu gan staff ac ymchwilwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd.
RemakerSpace
Mae RemakerSpace yn ganolfan nid-er-elw sy’n ymgysylltu â chymunedau a busnesau, sy'n cyfuno arbenigedd ymchwil â'r adnoddau ymarferol sydd eu hangen i gefnogi'r economi gylchol.
Rydym yn cynnig y sgiliau, yr adnoddau a'r wybodaeth i fusnesau a chymunedau i newid y ffordd rydym yn dylunio, defnyddio ac yn cael gwared ar gynhyrchion.
Wedi'i leoli ar Barc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, mae RemakerSpace yn cynnal bron i £600,000 o adnoddau a ariannwyd gan Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru i ymgysylltu, addysgu ac ysbrydoli pawb i greu atebion cylchol sy'n sail i gymdeithas y dyfodol.
Gallwn eich helpu i drwsio offer sydd wedi torri gyda'n pecynnau trwsio trydanol, ymestyn oes dillad gyda'n peiriannau gwnïo diwydiannol, defnyddio systemau rhith-realiti i ddelweddu gweithrediadau atgyweirio, neu hyd yn oed argraffu rhannau sbâr gyda'n hystod blaengar o argraffwyr 3D.
Yn seiliedig ar ein hymchwil sy'n arwain y byd ym maes ail-weithgynhyrchu cadwyni cyflenwi, rydym mewn sefyllfa dda i roi cyngor ac arweiniad i gwmnïau mawr a bach am y ffordd orau o ail-weithgynhyrchu yn eu gweithrediadau, er mwyn sicrhau buddion amgylcheddol ac economaidd.
Agor RemakerSpace
Bydd drysau Canolfan RemakerSpace yn agor yn ystod gwanwyn 2022. Mae’r ganolfan wedi’i lleoli yn adeilad newydd sbarc | spark Prifysgol Caerdydd ar y Campws Arloesedd.
Ar hyn o bryd, rydym yn gorffen ffurfweddu ein hoffer, yn cyflogi staff ac yn paratoi i groesawu cymunedau i'r ganolfan. Unwaith y bydd y ganolfan ar agor, bydd y wefan hon yn cynnig gwybodaeth fanwl am ein hoffer a'n galluoedd ac yn galluogi defnyddwyr i drefnu eu hymweliad â'r cyfleuster.
Yn y cyfamser, mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiynau am ein gweithrediadau drwy ebostio remakerspace@caerdydd.ac.uk.
Pobl
Yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol o academyddion a gweithwyr proffesiynol yn y gadwyn gyflenwi, mae RemakerSpace yn cynnig ystod lawn o wybodaeth a sgiliau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu atebion sy'n cwmpasu cylcholdeb, ail-weithgynhyrchu ac estyniad cylch bywyd cynnyrch.
Cyn bo hir byddwn yn cyflogi staff ychwanegol i reoli gweithrediad y Ganolfan - ewch i Swyddi - Prifysgol Caerdydd i gael manylion cyfleoedd yn ein cyfleuster ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yr Athro Aris A. Syntetos
Professor of Operational Research and Operations Management, DSV Chair of Manufacturing and Logistics
- syntetosa@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6572

Dr Daniel Eyers
Reader in Manufacturing Systems Management
- eyersdr@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4516
