Cyrsiau
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni gradd ar lefel israddedig ac ar lefel ôl-raddedig.
Mae ein gwaith ymchwil a’n hymagwedd wedi ei harwain gan heriau at addysgu ac ymchwil yn golygu y byddwch yn dysgu gan academyddion sydd ar flaen y gad yn eu disgyblaethau - yn arloeswyr yn eu meysydd astudio. Rydym hefyd yn dryllio’r seilos academaidd i annog rhagor o waith rhyngddisgyblaethol, gan gydnabod bod problemau busnes a chymdeithasol cyfredol yn gofyn am ffordd newydd o feddwl ac ymdrech ac arbenigedd cyfunol er mwyn eu datrys.
Mae cystadleuaeth frwd am leoedd ac mae’r safonau mynediad yn heriol, gan adlewyrchu safon uchel ein darpariaeth a llwyddiant ein graddedigion. Gan hynny, byddwch yn cael eich croesawu i gymuned amrywiol, fywiog ac ysgogol o fyfyrwyr sy'n annog dysgu rhwng cyfoedion yn ogystal â'r hyfforddiant ffurfiol y byddwch yn ei gael.
Mae llawer o'n cyrsiau wedi'u hachredu a byddant yn eich eithrio rhag gorfod talu i nifer o gyrff aelodaeth yn y diwydiant. Mae hyn yn un ffordd arall o blith nifer rydym yn ei defnyddio er mwyn rhoi’r holl fanteision y byddwch chi eu hangen i ffurfio gyrfa lwyddiannus yn y sector o'ch dewis.
Nodwch, mae'r tudalennau isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae dysgu mewn amgylchedd ymchwil yn golygu bod y myfyrwyr yn rhyngweithio gydag ymchwilwyr sy’n gwthio ffiniau gwybodaeth yn eu disgyblaethau.