Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi busnesau bach ac entrepreneuriaid

Mae ein cenhadaeth gwerth cyhoeddus yn rhoi gwelliant cymdeithasol ac economaidd wrth wraidd ein gweithgarwch addysgu, ymchwil ac ymgysylltu.

Rydym yn cydnabod bod gan fusnes a rheoli ran bwysig wrth fynd i'r afael â’r heriau mawr mae cymdeithas yn eu hwynebu. Yn hanfodol, mae gwerth cymdeithasol yn llywio ac yn sail i’n hymgysylltiad â sectorau busnesau bach a mentrau cymdeithasol, a hefyd y ffordd rydyn ni’n hyrwyddo diwylliant o fentergarwch ymhlith ein myfyrwyr.

“Mae’r strategaeth hon mor arbennig, mor unigryw. Mae'n hynod ysgogol. Bydd y gymuned fusnes leol a rhyngwladol yn cymeradwyo ac yn cydnabod Caerdydd oherwydd mae cael elfen foesol mor bwysig mewn busnes.”

Roger Lewis, Cadeirydd, Maes Awyr Caerdydd

Mae rhedeg busnes bach neu ddatblygu menter fasnachol neu gymdeithasol newydd yn ymrwymiad sylweddol ac yn cyflwyno cyfres unigryw o heriau a gofynion. Rydym yn darparu cymorth wedi'i dargedu a chyfleoedd datblygu, trwy ein gweithgareddau addysgu, ymchwil ac ymgysylltu, sydd ar gael i’r gymuned busnesau bach.

Mae gennym hefyd enw da am gefnogi cyrff y diwydiant a llunwyr polisïau i ddeall yr heriau y mae’r gymuned busnesau bach yn eu hwynebu yn well. Mae ein gwaith gyda nhw yn helpu i hwyluso datblygu polisïau ac yn cefnogi mecanweithiau a fydd yn gwella twf busnesau bach ac yn hyrwyddo diwylliant o fenter.

Rydyn ni’n darparu ymchwil a datblygu wedi’i deilwra, cyfnewid gwybodaeth, hyfforddiant a chymorth addysgol ar gyfer busnesau bach a chanolig drwy ystod o fecanweithiau, gan gynnwys:

Helpu i Dyfu

Mae’r cwrs arweinyddiaeth 12 wythnos hwn, sydd wedi’i ddylunio a’i ddarparu gan entrepreneuriaid ac arbenigwyr diwydiant, wedi’i deilwra’n arbennig i helpu arweinwyr busnesau bach i hybu perfformiad a gwytnwch eu mentrau. Mae’r rhaglen, sy’n cael 90% o gymhorthdal gan lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn cael ei darparu’n llwyr gan ysgolion busnes achrededig Siarter Busnes Bach CABS. Dim ond dwy o’r rhain sydd yng Nghymru, ac mae Ysgol Busnes Caerdydd yn un ohonynt.

Gallwch ddysgu mwy am Helpu i Dyfu ym Mhrifysgol Caerdydd yma, gan gynnwys sut i wneud cais.

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth

Mae ein portffolio gynyddol o Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, sef mecanwaith lle mae ganddon ni hanes da a sefydledig o lwyddiant yn cefnogi busnesau bach a chanolig, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, ledled Cymru a Phrydain yn ehangach, i wella eu galluoedd mewnol.

Un enghraifft ddiweddar yw ein Partneriaeth newydd gyda Tower Cold Chain (CT2 Ltd), darparwr blaenllaw gwasanaethau rhent i sefydliadau y mae arnynt angen cynwysyddion â thymheredd wedi’i reoli, gan wasanaethu diwydiannau fferyllol a gwyddorau bywyd ledled y byd.

Nod y Bartneriaeth yw dylunio system gefnogi penderfyniadau ar gyfer rhwydwaith dosbarthu cadwyn oer, er mwyn galluogi llif effeithiol ac effeithlon o gynwysyddion ailddefnyddiadwy â thymheredd wedi’i reoli sy’n cludo nwyddau fferyllol, fel ffiolau brechu, i gwsmeriaid o ddarparwyr iechyd cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, er budd eu cleifion.

Meddwl Systemau Darbodus

Gan adeiladu ar ein henw da fel arloeswr mewn ymchwil a chyfnewid gwybodaeth yn ymwneud â meddwl systemau darbodus, yn ddiweddar fe gyflwynon ni’r System Cymhwysedd Darbodus (LCS) fel menter fasnachol. Fframwaith cymwysterau darbodus yw’r LCS, a ddatblygwyd gan y Brifysgol ac sy'n cael ei gydnabod gan fyd diwydiant, ar gyfer datblygu syniadau ynghylch gweithredu darbodus a sgiliau ymarferol yn y gweithle.

Mae’r LCS yn gweithio gyda chwmnïau o bob maint ac unigolion, ond mae wedi datblygu rhaglen achredu benodol ar gyfer busnesau bach a chanolig, wedi’i dylunio ar gyfer anghenion ac amodau gweithredu busnesau newydd neu gwmnïau llai.

Strategaeth Busnes ac Entrepreneuriaeth

Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd datblygu arbenigol ar gyfer y rhai sydd â llawer o ddiddordeb entrepreneuraidd a photensial i sefydlu eu busnes eu hunain, neu i weithio mewn capasiti datblygu mentrau newydd mewn sefydliad sefydledig drwy ein rhaglen Strategaeth Busnes ac Entrepreneuriaeth (MSc) lwyddiannus.

Lleoliadau Gwaith

Rydyn ni wrthi’n gweithio i sicrhau bod ein portffolio amrywiol a chynyddol o gyfleoedd graddedig a lleoliadau yn cefnogi’r gymuned busnesau bach ac yn arlwyo ar ei chyfer, drwy hwyluso mynediad at ddoniau disglair a brwdfrydig mewn ffordd sy’n gweithio i’ch busnes.

Rydyn ni hefyd wedi partneru yn ddiweddar gyda Sefydliad Hodge i ddarparu cyfle lleoliad haf arbenigol wedi’i deilwra ar gyfer myfyrwyr israddedig sy’n dymuno dysgu mwy am fenter gymdeithasol.

Mae Rhaglen Menter Gymdeithasol Gyfrifol Sefydliad Hodge yn darparu mecanwaith i fyfyrwyr allu gweithio gyda mentrau cymdeithasol lleol i helpu i fynd i’r afael â heriau busnes allweddol, gan helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn ar gyfer y gymuned leol.

Mae croeso i fentrau cymdeithasol sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y cyfle i weithio gyda’n myfyrwyr gysylltu â ni drwy carbs-enterprise@caerdydd.ac.uk.

Cysylltu â ni

Mae’r staff a’r myfyrwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd yn falch o gefnogi busnesau bach, mentrau cymdeithasol ac entrepreneuriaid er budd i’r ddwy ochr. Os hoffech archwilio’ch syniadau gyda ni, cysylltwch â:

Business School enterprise