Ewch i’r prif gynnwys

Economïau teg a chynaliadwy

Rydym yn cyd-greu gwybodaeth i gefnogi datblygiad economïau sy'n sicrhau ffyniant a rennir a chynaliadwyedd amgylcheddol, ac yn gweithio gyda llywodraethau a phartneriaid i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a hyrwyddo cyfranogiad a chynhwysiant economaidd llawn.

Mae ein harbenigedd ymchwil rhyngddisgyblaethol ar y cyd yn ein galluogi i ganolbwyntio ar y canlynol:

  • archwilio’r ‘pos cynhyrchiant’
  • nodi’r galluogwyr macro-economaidd
  • mynd i’r afael â bylchau o ran swyddi a chyflog
  • creu modelau o gynhwysiant ariannol
  • datblygu prosesau ynni gwyrdd, technolegau a systemau
  • hyrwyddo amrywiaeth mewn menter gymdeithasol ac entrepreneuriaeth.

Cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol

Mae ein gwaith ar gynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol yn cael ei arwain gan Uned Ymchwil Economi Cymru, ffynhonnell awdurdodol ar ddadansoddi effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol rhanbarthol gydag arbenigedd penodol ar Gymru.

Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn ymchwil ar logisteg wyrdd a chynaliadwy, gweithrediadau busnes cynaliadwy ar economïau sy'n dod i'r amlwg a brandiau dinasoedd cynaliadwy, yn ogystal â gweithio o fewn Canolfannau a Sefydliadau rhyngddisgyblaethol ledled y Brifysgol i ymchwilio i agweddau ar yr economi gynaliadwy a chyflymu effaith. Mae’r rhain yn cynnwys:

Cyfranogiad a chynhwysiant economaidd

Mae ein hymchwilwyr yn penderfynu pam mae menywod, pobl anabl a chymunedau BAME yn parhau i gael eu heithrio rhag cyfranogiad economaidd.

Wedi'i ariannu gan y Swyddfa Economeg Gweithlu, mae Dr Ezgi Kaya a'r Athro Melanie Jones wedi gwerthuso maint y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn sector cyhoeddus y DU ac wedi llywio gwaith cyrff adolygu cyflogau annibynnol y sector cyhoeddus.

Yn 2018, derbyniodd y Cymrawd Anrhydeddus Dr Alison Parken OBE am ei rôl yn datblygu sylfaen dystiolaeth ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb economaidd-gymdeithasol trwy lunio polisïau mewn arferion sefydliadol.

Mae llawer o sefydliadau heddiw yn dilyn ac yn gweithredu deddfwriaeth cydraddoldeb y bydd y llywodraeth yn ei gorfodi. Ond mae yna gwmnïau hefyd sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac sy’n cymryd camau cadarnhaol sy'n cael eu hysgogi gan arferion busnes da ac nid gan ddeddfwriaeth. Drwy adolygu eu harferion diwylliant a recriwtio yn gyson, mae'r sefydliadau hyn yn peri mai’r drefn arferol yw sefydlu egwyddorion amrywiaeth a chynhwysiant. Maen nhw’n gorfodi polisïau dim goddefgarwch o ran bwlio ac aflonyddu. Maen nhw hefyd yn mynd ati’n rhagweithiol i gynnig amodau gwaith hyblyg a chyfleusterau gofal plant, ac mae hyn yn golygu bod mamau a thadau sy'n gweithio yn gallu elwa ar y rhain. A rydyn ni’n gweld bod mwy byth o sefydliadau'n gosod targedau cydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn mesur cynnydd yn unol â’r rhain.

Dr Ezgi Kaya Senior Lecturer in Economics

Yng nghyd-destun ehangach cyfranogiad economaidd menywod, mae Dr Shumaila Yousafzai a'r Athro Tim Edwards wedi arwain gwaith ymchwil ac ymgysylltu ar brofiadau menywod sy'n entrepreneuriaid, gan gydweithio â chymunedau BAME yng Nghaerdydd a gydag Yaina Samuels – entrepreneur cymdeithasol ac un o'n Hentrepreneuriaid Gwerth Cyhoeddus Preswyl.

Yn ogystal â'u hallbynnau ymchwil, mae eu gwaith wedi arwain at gyfleoedd ymgysylltu, dysgu ac addysgu gwerthfawr i staff, myfyrwyr a'n cymuned leol yng Nghaerdydd.

Gwneud gwahaniaeth drwy ein gwaith ymchwil

Mae ein gwaith ymchwil yn effeithio ar bobl a pholisi, gan wneud gwahaniaeth i’n heconomi, i’n cymdeithas a’n hamgylchedd.

Y pos cynhyrchiant

Yr Athro Andrew Henley, arbenigwr blaenllaw mewn cynhyrchiant a busnes bach, yw arweinydd Cymru ar gyfer Sefydliad Cynhyrchedd newydd gwerth £32m a ariennir gan yr ESRC, sy'n anelu at osod sylfeini ar gyfer oes newydd o dwf economaidd parhaus a chynhwysol.

Cyfranogiad menywod yn yr economi

Mae ymchwil gan Dr Alison Parken a'r Athro Rachel Ashworth yn dangos bod prif ffrydio rhywedd yn siapio camau gweithredu ar wahanu rhywedd ac yn lleihau bylchau cyflog, gyda llwyddiant arbennig mewn cyflogaeth â chyflog isel menywod.

Asesu effaith economaidd ac amgylcheddol

Gweithiodd yr Athro Max Munday a Dr Andrea Collins ar y cyd ag UK Sport i archwilio effaith economaidd ac amgylcheddol digwyddiadau chwaraeon mawr.

Pobl gysylltiedig

Yr Athro Rachel Ashworth

Yr Athro Rachel Ashworth

Deon Ysgol Busnes Caerdydd

Email
ashworthre@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5842
Dr Alison Parken

Dr Alison Parken

Senior Research Fellow, Wales Centre for Public Policy

Email
parkena@caerdydd.ac.uk
Yr Athro Max Munday

Yr Athro Max Munday

Director of Welsh Economy Research Unit

Email
mundaymc@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5089
Dr Andrea Collins

Dr Andrea Collins

Senior Lecturer

Email
collinsa@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0279
Yr Athro Andrew Henley

Yr Athro Andrew Henley

Professor of Entrepreneurship and Economics, Director of Research Engagement and Impact

Email
henleya@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5392
Dr Ezgi Kaya

Dr Ezgi Kaya

Senior Lecturer in Economics

Email
kayae@caerdydd.ac.uk
Telephone
029 2087 0757
Yr Athro Melanie Jones

Yr Athro Melanie Jones

Professor of Economics, Deputy Section Head - Research, Innovation and Engagement

Email
jonesm116@caerdydd.ac.uk
Telephone
029 2087 5079
Yr Athro Tim Edwards

Yr Athro Tim Edwards

Pro-Dean for Research, Impact and Innovation
Professor of Organisation and Innovation Analysis

Email
edwardstj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6385
Dr Shumaila Yousafzai

Dr Shumaila Yousafzai

Reader (Associate Professor) in Entrepreneurship

Email
yousafzais@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 208 75843