Ewch i’r prif gynnwys

Sesiynau Hysbysu dros Frecwast

Mae'r Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Addysg Weithredol yn un o'r ffyrdd yr ydym yn ymgysylltu â'r gymuned fusnes leol a'r gymdeithas ehangach.

Mae'r gyfres yn cynnig cyfle i ymarferwyr busnes, llunwyr polisïau, y cyfryngau a rhanddeiliaid eraill, glywed ein hymchwil ddiweddaraf o amrywiaeth o themâu busnes a rheoli. Mae ein siaradwyr amrywiol ac ysbrydoledig yn cynrychioli'r byd academaidd ac ymarfer busnes. Maent yn dod â mewnwelediadau newydd a safbwyntiau gwreiddiol gyda nhw i herio eich safbwyntiau ac ysgogi trafodaeth.

Sesiynau hysbysu cynhwysol

Newidiodd y pandemig ein sesiynau hysbysu dros Frecwast yn sylweddol, gan wella amrywiaeth ein siaradwyr gwadd a'n cynulleidfa. O fewn chwe wythnos o gyfnod clo Gwanwyn 2020, cynhaliodd Ysgol Busnes Caerdydd ei sesiwn ar-lein cyntaf gan ddefnyddio Zoom, a oedd bryd hynny'n gymharol newydd. Bu'r sesiynau hysbysu hyn o fudd i'n cymuned gan eu helpu i gadw mewn cysylltiad. Dros y flwyddyn ganlynol, cynyddodd cyfranogiad, gan ein galluogi i wahodd cyflwynwyr o bell ac ymgysylltu â chynulleidfa genedlaethol, gan gyrraedd unigolion a sefydliadau ledled Cymru a thu hwnt.

Mae ein sesiynau hysbysu o hyd wedi ceisio hwyluso rhwydweithio o fewn y gymuned fusnes. Pan llaciodd y cyfyngiadau, roeddem yn awyddus i ailddechrau digwyddiadau wyneb yn wyneb. Nawr, mae ein sesiynau yn gwbl hybrid, gan ganiatáu i fynychwyr lleol ymuno yn bersonol wrth gynnwys y rhai sydd o bell neu'n methu â mynychu.

Roedd dechrau'r pandemig a'r cyfnodau clo cysylltiedig yn gorfodi newid, ond rydym wedi gallu troi'r sefyllfa'n gadarnhaol, ac mae ein sesiynau hysbysu dros frecwast yn fwy poblogaidd nag erioed. Os ydych wedi colli unrhyw un o'r sesiynau, neu os hoffech adolygu'r hyn a drafodwyd, edrychwch ar ein hadran 'Sesiynau dros frecwast blaenorol' isod.

Ymunwch â ni ar gyfer yr un nesaf: Mesur Hawliau Cyflogaeth 2024: Rheoleiddio ar gyfer Newid Cadarnhaol ar ddydd Mawrth 17 Rhagfyr 2024.

Ymunwch â ni

Ymunwch â Chymuned Ysgol Busnes Caerdydd i dderbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, sesiynau hysbysu dros frecwast, gwybodaeth am gyrsiau a'n cylchlythyrau misol.

Rydym yn awyddus i glywed awgrymiadau ar gyfer pynciau a themâu newydd ar gyfer sesiynau hysbysu yn y dyfodol.

Addysg Weithredol

Mae pynciau diweddar wedi cynnwys cydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau, adeiladu arloesedd mewn sefydliadau, denu talent i mewn i fusnes, a rheoli gwybodaeth ac atebolrwydd sefydliadol.

Sesiynau hysbysu dros frecwast blaenorol

Man in front of lecturn

Pos Cynhyrchiant Prydain Fawr

13 Tachwedd 2018

Briffiad brecwast yn ystyried yr her allweddol i economi’r Deyrnas Unedig

Mark Drakeford delivering Breakfast Briefing

Treth Tir Gwag

18 Hydref 2018

Diweddariad ar bolisi treth Cymru gan yr Ysgrifennydd Cyllid

Man delivering lecture

Technoleg ariannol yw’r dyfodol

12 Medi 2018

Digwyddiad yn amlinellu’r byd gwasanaethau ariannol sy’n datblygu

Stephen Killeen

Beth yw pwrpas pwrpas?

26 Ebrill 2018

Digwyddiad gwerth cyhoeddus yn nodi Wythnos Busnes Cyfrifol

Carla Edgley and Dr Nina Sharma

Llawer o siarad, ond faint o weithredu?

22 Mawrth 2018

Brecwast Briffio yn nodi cynnydd o ran amrywiaeth yn y proffesiwn cyfrifyddu

Prof. Richard Moorhead

Digitally legal

8 Chwefror 2018

Law and Professional Ethics expert outlines tech advances in legal services

People stood in a row

Everyone deserves a chance to work

12 Rhagfyr 2017

Research, practitioner and employer perspectives on learning disability employment

Audience in Executive Education Suite

Business benefits of the living wage

9 Tachwedd 2017

Breakfast briefing celebrates #livingwageweek

Shaping a new economic strategy for Wales

14 Medi 2017

Caerphilly AM Dr Hefin David leads Executive Education Breakfast Briefing

Businesses must prepare for new data protection rules

27 Gorffennaf 2017

Breakfast Briefing focuses on GDPR and potential impact on businesses