Ewch i’r prif gynnwys

Pos Cynhyrchiant Prydain Fawr

13 Tachwedd 2018

Man in front of lecturn
"Without productivity growth we will not achieve overall prosperity improvements," warns Professor Andrew Henley.

Mae mynychwyr briffiad brecwast diweddaraf Ysgol Fusnes Caerdydd wedi clywed sut mae cynhyrchiant ar draws y Deyrnas Unedig wedi peidio â thyfu ers dechrau’r argyfwng ariannol yn 2008.

Cyflwynwyd y digwyddiad gan Andrew Henley, Athro Entrepreneuriaeth ac Economeg yn Ysgol Fusnes Caerdydd, ac roedd yn proffilio gwaith y Rhwydwaith Cipolygon Cynhyrchiant a ariannir gan y Cyngor Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd.

Gwaith y Rhwydwaith, sy’n cael ei arwain gan Ysgol Reolaeth Prifysgol Sheffield ar y cyd â phartneriaid craidd ar draws Addysg Uwch, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, yn ogystal ag yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, yw ymchwilio i sut gall busnesau fod yn fwy effeithiol a chael eu pobl i wneud cyfraniad mwy.

“Y broblem allweddol sy'n wynebu economi'r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yw bod twf cynhyrchiant fwy neu lai wedi diflannu ers dechrau'r argyfwng ariannol yn 2008.”

Yr Athro Andrew Henley Professor of Entrepreneurship and Economics, Director of Research Engagement and Impact

“Ac mae hynny'n peri pryder mawr, oherwydd heb dwf cynhyrchiant ni fyddwn yn cyflawni gwelliannau ffyniant cyffredinol.”

Un elfen o’r her yw dod ag elfennau amrywiol at ei gilydd i weithio'n fwy effeithiol ar draws meysydd megis trafnidiaeth, crynhoi addysg a sgiliau, technoleg, iechyd a lles ac ymchwil ac arloesedd.

Amlinellodd yr Athro Henley yr elfennau hyn yn fras ar draws pum categori canolog:

  • Sefydliadol - Mae'r data yn dangos bod llawer o gwmnïau ymhell o ‘ffin cynhyrchiant’ er gwaethaf ffactorau fel cystadleuaeth, gweithrediad marchnadoedd, trylediad technoleg ac arfer gorau.
  • Sectoraidd - Un o'r rhesymau y gallai’r Deyrnas Unedig fod yn wynebu her cynhyrchiant yw bod ganddi gyfuniad sectoraidd o ddiwydiannau sydd o dan anfantais.
  • Ymchwil, datblygu ac arloesedd - Mae gwledydd ar draws yr UE yn rhoi gwahanol lefelau o flaenoriaeth i'r meysydd gweithgaredd hyn, y gellir eu cynnal oddi mewn i fusnesau, ond hefyd fuddsoddiad gan y Llywodraeth mewn ymchwil sylfaenol a chymhwysol drwy'r prifysgolion a sefydliadau eraill a arweinir gan wybodaeth.
  • Bwlch sgiliau, iechyd a lles - Oes gan weithlu’r Deyrnas Unedig y sgiliau y mae ar fusnesau eu hangen? Ac ydy profiad gweithle’r Deyrnas Unedig yn un sy’n hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, sy'n golygu bod diddordeb pobl wedi’i ennyn a’u bod yn gynhyrchiol wrth ddod i’r gwaith?
  • Gofodol - Mae gan y Deyrnas Unedig un o'r lefelau uchaf o anghyfartaledd rhanbarthol ymhlith yr holl wledydd diwydiannol datblygedig.

Rheolaeth a disgwyliadau

Woman presents in front of crowd
The ONS’ Management and Expectations Survey looked at practice within the manufacturing and services industries.

Dilynwyd yr Athro Henley gan Katherine Kent, Pennaeth Cynhyrchiant yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Roedd cyflwyniad Katherine yn sôn am waith yr ONS a sut mae o reidrwydd wedi dod yn fwyfwy cysylltiedig â her cynhyrchiant y Deyrnas Unedig .

Bu’n canolbwyntio ar Arolwg Rheolaeth a Disgwyliadau yr ONS, oedd yn edrych ar ymarfer yn y diwydiannau gweithgynhyrchu a gwasanaethau.

“Arfer rheoli mewn gwirionedd yw'r glud sy'n cydio llafur, cyfalaf, gwasanaethau, ynni a deunyddiau crai wrth ei gilydd.”

Katherine Kent Pennaeth Cynhyrchiant yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol

“Bydd gallu defnyddio’r rhain yn y ffordd fwyaf effeithiol yn arwain at dwf cynhyrchiant.”

Cyn trosglwyddo i’r siaradwr olaf, cyflwynodd Katherine offeryn cymharu a ddatblygwyd gan yr ONS i’r cynhadleddwyr. Enw’r offeryn yw ‘Pa mor gynhyrchiol yw eich busnes?’

Mae'r offeryn yn galluogi busnesau i fewnbynnu eu trosiant a nifer eu gweithwyr er mwyn pennu eu cynhyrchiant, y gellir ei gymharu wedyn ag eraill ar draws y Deyrnas Unedig yn yr un sector diwydiannol ac ymhlith busnesau o’r un maint.

Dwy o'r prif egwyddorion

Man listens to question from audience member
Allan Meek explains how SCS Group has "a strong purpose and the best customer service in the sector because of our engaged workforce.”

Bu’r siaradwr olaf, Allen Meek, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol SCS Group, yn rhannu taith ei yrfa o weithiwr adeiladu i fod yn Brif Swyddog Gweithredol llwyddiannus ac effeithiol.

Esboniodd Allan, sydd hefyd yn Entrepreneur Preswyl ar Werth Cyhoeddus yn Ysgol Fusnes Caerdydd, sut mae wedi defnyddio’r ddwy brif egwyddor i sicrhau cynhyrchiant ar gyfer ei fusnes:

  • Diben cyffredin;
  • Ac ymgysylltu â chyflogeion

“Mae’r rhain yn bethau sylfaenol, ond o’u gwneud nhw’n iawn, ac ymgysylltu â phobl, gallwch chi wneud pethau gwych. Ac rwy'n credu mai dyna sy’n cael yr effaith fwyaf ar gynhyrchiant, yn sicr yn achos busnesau bach.”

Allan Meek Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol SCS Group

“Felly fe weithion ni’n galed ar y ddau beth yna.  Mae gennym ni ddiben cryf a’r gwasanaeth cwsmer gorau yn y sector oherwydd ein bod wedi ymgysylltu â’n gweithlu.”

Daeth y trafodion i ben ar ôl panel holi ac ateb bywiog.

Crowd of people in front of sign
Attendees heard how UK productivity has flat lined since the onset of the financial crisis in 2008.

Rhwydwaith yw’r gyfres Briffiadau Brecwast Addysg Weithredol sy’n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil diweddaraf a datblygiadau allweddol gan bartneriaid diwydiannol.

Os nad oeddech yn gallu dod, edrychwch ar ein ffrwd fyw o’r digwyddiad.

Cofrestrwch nawr ar gyfer y briffiad nesaf, sef ‘Gwedd Newidiol Caerdydd’, a gynhelir ar 13 Rhagfyr 2018 dan arweiniad Dr Brian Webb, Darlithydd mewn Cynllunio Gofodol yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.