Treth Tir Gwag
18 Hydref 2018
Mae cynulleidfa o wneuthurwyr polisi, ymarferwyr busnes a rhanddeiliaid eraill wedi clywed sut mae tryloywder yn allweddol ar gyfer datblygu polisi treth Cymru yn y diweddaraf yng Nghyfres Briffio Brecwast Ysgol Busnes Caerdydd.
Rhoddodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford ddiweddariad i arweinwyr busnes ar gynlluniau i Gymru geisio pwerau newydd i gyflwyno treth tir gwag yn y digwyddiad gorlawn ar 18 Hydref 2018 yn yr Ystafell Addysg Weithredol.
Amlinellodd Mr Drakeford y broses o brofi Deddf Cymru 2014, sy'n galluogi Llywodraeth Cymru i gynnig syniadau newydd o ran treth mewn meysydd o gyfrifoldebau datganoledig.
Trafodaeth gyhoeddus
Dewiswyd treth tir o restr fer o bedwar syniad treth i brofi Deddf Cymru, yn dilyn trafodaeth gyhoeddus ar syniadau treth newydd y llynedd.
Gellid defnyddio'r mesurau i atal pobl rhag bancio tir ac annog datblygu mwy amserol ar safleoedd gwag i fodloni'r gofynion tai cynyddol yng Nghymru.
Meddai Mr Drakeford: “Rydym ni ar hyn o bryd yn gweithio ar broses o drosglwyddo pwerau o lywodraeth y DU i Gymru.
“Rydym ni'n gobeithio dechrau trafod gyda Thrysorlys EM dros y misoedd nesaf, gyda golwg ar sicrhau'r pwerau yn y Flwyddyn Newydd. Ar ôl y cyfnod hwn, gallwn ddechrau datblygu polisi'n fwy ffurfiol.”
Datblygu ac adfywio
Nid syniad newydd yw treth ar dir gwag. Mae trethi eiddo wedi'u defnyddio i annog datblygu ac adfywio ar draws y byd.
Mae ardoll safleoedd gwag Gweriniaeth Iwerddon yn cynnig pwynt cyfeiriol defnyddiol ar gyfer gweld sut y gallai treth tir gwag weithio yng Nghymru.
Ychwanegodd Mr Drakeford: “Rwyf i'n ymrwymo i sicrhau bod ein polisi treth yn cael ei ddatblygu mewn modd agored a thryloyw a dyna pam rydym ni wedi cael - ac yn parhau i gael - trafodaethau adeiladol gyda rhanddeiliaid...”
Rhwydwaith yw’r gyfres Briffio Brecwast Addysg Weithredol sy’n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil diweddaraf a datblygiadau allweddol gan bartneriaid diwydiannol.
Os nad oeddech yn gallu dod, edrychwch ar ein ffrwd fyw o’r digwyddiad.
Cynhelir y briffio nesaf, y Pos Cynhyrchedd Prydeinig Mawr, ar 13 Tachwedd 2018 dan arweiniad yr Athro Andrew Henley.