Ewch i’r prif gynnwys

Helpu i Dyfu: Cwrs Rheoli

Mae’r rhaglen hon yn helpu uwch reolwyr mewn busnesau bach a chanolig eu maint i hybu perfformiad, gwydnwch a thwf hirdymor eu busnes.

Ymunwch â 3,000 o arweinwyr busnesau bach yn y DU sydd wedi cofrestru i ddilyn y rhaglen Helpu i Dyfu: Rheoli.

Cofrestrwch nawr

Gall arweinwyr busnesau ddilyn y rhaglen 12-wythnos hon tra byddant yn gweithio a dysgu drwy gymryd rhan mewn cyfuniad o sesiynau ar-lein ac wyneb-yn-wyneb.

Mae Llywodraeth y DU yn ariannu 90% o’r rhaglen, sy’n golygu mai dim ond £750 (neu £65 yr wythnos) yw cost y rhaglen lawn i berchnogion busnes.

Yn Ysgol Busnes Caerdydd, sef Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf y byd, sydd wedi ennill gwobr Siarter y Busnesau Bach, rydym yn falch o gyflwyno'r rhaglen hyfforddiant rheoli ymarferol hon. Mae Siarter y Busnesau Bach yn  wobr sy’n cydnabod yr arweiniad personol o ansawdd uchel a roddir i gefnogi busnesau bach a’u heconomi leol.

Tyfu yn Eich Ffordd eich Hun

I nodi blwyddyn gyntaf y cwrs Help i Dyfu: Rheoli, mae Siarter Busnes Bach wedi cynhyrchu adroddiad, Tyfu yn Eich Ffordd eich Hun: Straeon o flwyddyn o'r cwrs Help i Dyfu: Rheoli.

Y rhaglen

Mae’r rhaglen Helpu i Dyfu: Rheoli wedi'i chynllunio o amgylch cwricwlwm ymarferol sy'n cynnwys:

  • wyth sesiwn 2-awr ar-lein wedi’u hwyluso
  • pedwar gweithdy astudiaeth achos wyneb-yn-wyneb ymarferol
  • cymorth un-i-un gan fentor busnes, a fydd yn rhoi cymorth personol i chi i ddatblygu eich cynllun twf busnes
  • cyfleoedd i rwydweithio gydag arweinwyr busnesau bach eraill, gan gynnwys galwadau grŵp wedi’u trefnu gan hwylusydd y rhaglen – bydd y galwadau’n rhoi’r cyfle i chi rannu profiadau gyda grŵp bach o arweinwyr busnesau bach eraill
  • digwyddiadau gyda siaradwyr ysbrydoledig, clinigau busnes a digwyddiadau rhwydweithio drwy’r rhaglen i gynfyfyrwyr

Bydd y rhaglen yn ymdrin â meysydd arweinyddiaeth allweddol, gan gynnwys:

  • strategaeth ac Arloesedd
  • ennill marchnadoedd newydd
  • arwain ar gyfer perfformiad uchel
  • adeiladu gweledigaeth a brand
  • timau ysgogol ac ysbrydoledig
  • creu gwerth i'r cwsmer
  • trawsnewid digidol
  • mabwysiadu arferion busnes cyfrifol
  • rheolaeth Ariannol

Bod yn gymwys

I ddilyn y rhaglen Helpu i Dyfu: Rheoli, mae’n rhaid i’ch busnes:

  • bod yn fusnes bach neu ganolig ei faint yn y DU
  • bod mewn unrhyw sector busnes ac yn cyflogi rhwng 5 a 249 o bobl
  • bod wedi bod yn rhedeg ers o leiaf flwyddyn
  • peidio â bod yn elusen
  • os ydych yn cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl, gallwch anfon hyd at ddau weithiwr ar y cwrs - i gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y cwestiynau cyffredin

I ddilyn y rhaglen Helpu i Dyfu: Rheoli, mae’n rhaid i’r unigolyn:

  • bod yn benderfynwr ar lefel uwch, fel Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Cyllid, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ac ati (nodwch mai dim ond un person fesul busnes a all ddilyn y rhaglen)
  • ymrwymo i gymryd rhan ym mhob sesiwn

Mae’r rhaglen Helpu i Dyfu: Rheoli’n cael ei chyflwyno gan arbenigwyr o’r diwydiant ym Mhrifysgol Caerdydd. Ymunwch â ni i ddysgu sut i wella eich galluoedd rheolaethol a strategol, datblygu eich datganiad gwerth, sicrhau bod eich ymarfer busnes, eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau’n arloesol, gwella dulliau o ymgysylltu â gweithwyr, ac yn bwysig, ddeall sut i feithrin gwydnwch ar gyfer siociau economaidd yn y dyfodol drwy gymorth masnachol, ariannol a thechnolegol gwell.

Cofrestrwch i gadw lle

Bydd y cwrs nesaf yn cael ei gynnal ar fore dydd Mercher, o 4 Medi ymlaen (bydd sesiwn ymgyfarwyddo’n cael ei chynnal ar 4 Medi).

I gael rhagor o wybodaeth cofrestrwch eich diddordeb.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, ebostiwch help2grow@caerdydd.ac.uk.

Mae ein tîm Helpu i Dyfu: Rheoli’n cael ei arwain gan Jane Lynch, Cyfarwyddwr y Rhaglen ar y cyd â Linda Hellard, Rheolwr Busnes a Thomas Gray, Gweinyddwr.