Ewch i’r prif gynnwys

Llawer o siarad, ond faint o weithredu?

22 Mawrth 2018

Carla Edgley and Dr Nina Sharma

Yn y diweddaraf o Gyfres Brecwast Briffio Ysgol Busnes Caerdydd, mae ymarferwyr o’r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector wedi clywed, er bod cwmnïau cyfrifyddu yn gwneud cynnydd wrth weithredu ar yr agenda amrywiaeth, mae canlyniadau mentrau yn anghyson, yn arbennig ar lefelau uwch.

Daeth y canfyddiadau hyn o adroddiad a luniwyd gan Carla Edgley MA FCA FHEA a Dr Nina Sharma o Ysgol Busnes Caerdydd ochr yn ochr â chyd-awduron, Dr Fiona Anderson Gough o Ysgol Busnes Warwick a’r Athro Keith Robson o HEC Paris. Ariannwyd y prosiect yn rhannol gan Ymddiriedolaethau Elusennol Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (gellir gweld yr adroddiad llawn drwy ddilyn y ddolen hon Adroddiad Ymddiriedolaethau Elusennol Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW)).

Meddai Dr Nina Sharma: “Un o'r prif resymau dros eisiau cynnal yr ymchwil hwn oedd gan ein bod ni’n teimlo, er bod mentrau amrywiaeth wedi bod yn dylanwadu ar y proffesiwn ers peth amser, nid yw eu heffaith wedi’i hasesu eto.”

“Rydym ni’n teimlo bod cynnydd yn digwydd ond mae cyflymder y newid yn araf ac yn anghyson, yn arbennig ar lefelau uwch.”

Cynhaliodd y tîm 50 o gyfweliadau ac Arolwg ledled y DU gan gasglu ymatebion 230 o aelodau’r holl gyrff cyfrifo proffesiynol.

Ychwanegodd Dr Sharma: “Ar hyn o bryd, rydym ni dal yn cael sgyrsiau am y bylchau cyflog rhwng y rhywiau ac am amrywiaeth o ran y rhywiau ar lefel uwch-arweinwyr.”

“Felly yn ein gwaith ymchwil roeddem ni eisiau deall sut mae pobl yn profi amrywiaeth yn eu bywydau proffesiynol a sut y caiff amrywiaeth ei gweithredu yn ymarferol.”

Dr Nina Sharma Lecturer in Accounting

Daeth pum prif thema i'r amlwg o'r cyfweliadau a data’r arolwg, a ddefnyddiwyd gan y tîm ymchwil i helpu i ddeall y canfyddiadau a sut maent yn berthnasol i brofiadau o amrywiaeth. Y pum prif thema oedd:

  • Hyfforddiant
  • Recriwtio
  • Dilyniant gyrfa (Mentora ac Arfarniadau)
  • Rhwydweithiau
  • Addasiadau yn y gweithle

Er bod cydnabyddiaeth bod mentrau amrywiaeth yn rhan o fywyd proffesiynol ar draws y meysydd hyn, un canfyddiad allweddol oedd bod cynnydd tuag at newid ystyrlon yn araf iawn.

Fel y mae Dr Sharma yn ei adlewyrchu: “Dywedodd un o'r bobl a gyfwelwyd, 'rydym ni’n clywed llawer am amrywiaeth, ond dydyn ni ddim yn gweld llawer o weithredu.”

Soniodd Carla Edgley am y themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg yn y prosiect. Mae rhwystrau o hyd sy'n gwrthsefyll newid ac mae materion systemig yn cyfyngu neu’n arafu unrhyw gynnydd ar amrywiaeth. Dywedodd “Mae dal dryswch o ran beth mae amrywiaeth yn ei olygu hyd yn oed. Mae'n derm hydrin iawn gyda llawer o wahanol syniadau a dealltwriaethau. Ac, efallai yn ganolog i’r adroddiad a'r canfyddiadau mae tensiwn a nodwyd gennym ni rhwng y syniadau o amrywiaeth a chredoau ynghylch teilyngdod...”

“Mae unigolion dan effaith rhagfarn anymwybodol o ran beth yw ystyr teilyngdod. Felly, os caiff teilyngdod ei ddiffinio’n gul, ac efallai yn gwobrwyo grŵp o unigolion elit, gall hyn ddod yn arfer dros amser. Yn ein barn ni, mae hyn yn rhwystr allweddol i newid.”

Yr Athro Carla Edgley Professor in Accounting and Finance

Daeth pethau i ben gyda gwahoddiad i'r rhai a oedd yn bresennol i gymryd rhan mewn trafodaeth ynghylch amrywiaeth a theilyngdod, lle’r oedd Dr Sharma a Ms Edgley yn ateb cwestiynau ar ddynoliaeth, cymdeithas, hyfforddiant ac addysg, busnes a dyfodol amrywiaeth yn y DU .

Mae'r gyfres o Frecwastau Briffio Addysg Weithredol yn rhwydwaith sy'n galluogi cysylltiadau busnes i ddarganfod mwy am y datblygiadau diweddaraf o ran ymchwil gan ein partneriaid diwydiannol.

Os nad oeddech yn gallu bod yn bresennol, gallwch ddal i fyny ar ein llif byw o'r digwyddiad.

A chofrestrwch nawr ar gyfer ein sesiwn friffio nesaf dan y teitl 'Pwrpas/Purpose' sy’n digwydd ar 26 Ebrill 2018.

Rhannu’r stori hon

Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.