Ewch i’r prif gynnwys

Sesiynau Hysbysu dros Frecwast

Mae'r Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Addysg Weithredol yn un o'r ffyrdd yr ydym yn ymgysylltu â'r gymuned fusnes leol a'r gymdeithas ehangach.

Mae'r gyfres yn cynnig cyfle i ymarferwyr busnes, llunwyr polisïau, y cyfryngau a rhanddeiliaid eraill, glywed ein hymchwil ddiweddaraf o amrywiaeth o themâu busnes a rheoli. Mae ein siaradwyr amrywiol ac ysbrydoledig yn cynrychioli'r byd academaidd ac ymarfer busnes. Maent yn dod â mewnwelediadau newydd a safbwyntiau gwreiddiol gyda nhw i herio eich safbwyntiau ac ysgogi trafodaeth.

Sesiynau hysbysu cynhwysol

Newidiodd y pandemig ein sesiynau hysbysu dros Frecwast yn sylweddol, gan wella amrywiaeth ein siaradwyr gwadd a'n cynulleidfa. O fewn chwe wythnos o gyfnod clo Gwanwyn 2020, cynhaliodd Ysgol Busnes Caerdydd ei sesiwn ar-lein cyntaf gan ddefnyddio Zoom, a oedd bryd hynny'n gymharol newydd. Bu'r sesiynau hysbysu hyn o fudd i'n cymuned gan eu helpu i gadw mewn cysylltiad. Dros y flwyddyn ganlynol, cynyddodd cyfranogiad, gan ein galluogi i wahodd cyflwynwyr o bell ac ymgysylltu â chynulleidfa genedlaethol, gan gyrraedd unigolion a sefydliadau ledled Cymru a thu hwnt.

Mae ein sesiynau hysbysu o hyd wedi ceisio hwyluso rhwydweithio o fewn y gymuned fusnes. Pan llaciodd y cyfyngiadau, roeddem yn awyddus i ailddechrau digwyddiadau wyneb yn wyneb. Nawr, mae ein sesiynau yn gwbl hybrid, gan ganiatáu i fynychwyr lleol ymuno yn bersonol wrth gynnwys y rhai sydd o bell neu'n methu â mynychu.

Roedd dechrau'r pandemig a'r cyfnodau clo cysylltiedig yn gorfodi newid, ond rydym wedi gallu troi'r sefyllfa'n gadarnhaol, ac mae ein sesiynau hysbysu dros frecwast yn fwy poblogaidd nag erioed. Os ydych wedi colli unrhyw un o'r sesiynau, neu os hoffech adolygu'r hyn a drafodwyd, edrychwch ar ein hadran 'Sesiynau dros frecwast blaenorol' isod.

Ymunwch â ni ar gyfer yr un nesaf: Mesur Hawliau Cyflogaeth 2024: Rheoleiddio ar gyfer Newid Cadarnhaol ar ddydd Mawrth 17 Rhagfyr 2024.

Ymunwch â ni

Ymunwch â Chymuned Ysgol Busnes Caerdydd i dderbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, sesiynau hysbysu dros frecwast, gwybodaeth am gyrsiau a'n cylchlythyrau misol.

Rydym yn awyddus i glywed awgrymiadau ar gyfer pynciau a themâu newydd ar gyfer sesiynau hysbysu yn y dyfodol.

Addysg Weithredol

Mae pynciau diweddar wedi cynnwys cydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau, adeiladu arloesedd mewn sefydliadau, denu talent i mewn i fusnes, a rheoli gwybodaeth ac atebolrwydd sefydliadol.

Sesiynau hysbysu dros frecwast blaenorol

Globe with lights connecting destinations

Effeithiau economaidd byd-eang COVID-19

19 Tachwedd 2020

Economegydd o Gaerdydd yn dehongli data ar y pandemig

Group of people on virtual call

Ailgodi’n gryfach

8 Hydref 2020

Cyfarfod hysbysu’n amlinellu mentrau ar gyfer adferiad cymdeithasol ac economaidd ar ôl COVID

Person using accessible keyboard control

Amgylcheddau gwaith cynhwysol o ran anabledd

30 Medi 2020

Cyfarfod Hysbysu yn rhannu profiadau gweithwyr ym mhroffesiwn y gyfraith yn ystod y pandemig

Two women in hospital room

Effeithiau economaidd-gymdeithasol COVID-19 ar gymunedau BAME

10 Medi 2020

Sesiwn hysbysu’n rhannu canfyddiadau adroddiad Llywodraeth Cymru

High-street shopfront

Her COVID Timpson

14 Gorffennaf 2020

Un o brif ddarparwyr gwasanaeth manwerthu'r DU yn rhannu golwg ar fusnes

Woman opening shop

O’r cyfyngiadau symud i’r adferiad

16 Mehefin 2020

Cyfarfod hysbysu rhithwir yn canolbwyntio ar fusnesau bach yn y Gymru ôl-Covid

Image of digital display

Gwrthod dychwelyd i’r hyn sy’n arferol

21 Mai 2020

Cyfarfod hysbysu am gamau ar gyfer byd wedi’r pandemig

Female student raises hand in School classroom

Addas ar gyfer y dyfodol

23 Ebrill 2020

Sesiwn hysbysu sy’n edrych ar gwricwlwm newyddion i ysgolion Cymru sy’n lansio yn 2022

Group of people sat in lecture space

Re-energising Wales

27 Chwefror 2020

Sesiwn hysbysu'n edrych ar natur sylfaenol ynni

Group of people sat in lecture space

Recriwtio gyda gweledigaeth 20/20

30 Ionawr 2020

Sesiwn Hysbysu dros Frecwast yn canolbwyntio ar adeiladu gweithlu yfory