Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Mae ymchwil yr Adran Rheolaeth, Cyflogaeth a Sefydliad (MEO) yn cyfrannu at genhadaeth gwerth cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd.

Ein nod yw gwella amodau cymdeithasol ac economaidd drwy fynd i’r afael â heriau o bwys gan ddefnyddio ymchwil newydd a rhyngddisgyblaethol.

Rydym yn cynnal ymchwil mewn tri maes eang: Cysylltiadau Cyflogaeth, Astudiaethau Trefniadaeth a Rheolaeth, a bydd yr olaf o’r rhain yn canolbwyntio’n benodol ar reoli'r sector cyhoeddus, rheoli iechyd a pholisïau cyhoeddus.

Grwpiau, unedau a chanolfannau ymchwil

Mae ein hymchwil yn rhyngddisgyblaethol ac yn adeiladu ar y gwahanol ddisgyblaethau a ymgorfforir yn ein hadran, ond mae’n gwneud hynny hefyd trwy ddatblygu perthnasoedd cydweithredol ac ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid mewnol ac allanol.

Ar yr un pryd, mae gan ein hymchwil sylfaen ddisgyblaethol gref, ac mae'r Adran MEO yn cynnal nifer o Grwpiau a Chanolfannau Ymchwil, sy'n arwain yn eu maes astudio.

  • Arloesedd a gwelliannau i wasanaethau
  • Ansawdd a diogelwch
  • Rheoli pobl
  • Mapio a rheoli prosesau
  • Rheoli prynu, caffael a chadwyni cyflenwi
  • Sefydliadau cynaliadwy
  • Arloesedd sefydliadol
  • Entrepreneuriaeth
  • Arbenigwyr a phroffesiynau
  • Arweinyddiaeth gyhoeddus a llywodraethiant cyfrifol
  • Cryfder
  • Disgwrs
  • Dyfodol gwaith
  • Gwaith gweddus
  • Cyflog byw
  • Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Undebau llafur a sefydliadau cyflogwyr
  • Cyflafareddu
  • Anabledd
  • Economi a sgiliau
  • Anghydraddoldebau
  • Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Yr amgylchedd
  • Plant dan ofal
  • Unigrwydd ac ynysu cymdeithasol

Ymchwil gydweithredol

Mae academyddion yr Adran MEO yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ar draws y Brifysgol a thu hwnt, gan gymryd rhan mewn nifer o fentrau a sefydliadau ymchwil rhyngddisgyblaethol:

  • Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
  • Canolfan Ymchwil Polisi Arloesedd
  • Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol
  • Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy
  • Y-Lab
  • Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD)