Ewch i’r prif gynnwys

Uned Ymchwil i Gyflogaeth

Ein nod yw cydlynu a datblygu cysylltiadau cyflogaeth ac ymchwil i reoli adnoddau dynol.

Nod yr Uned Ymchwil i Gyflogaeth yw cydlynu a datblygu cysylltiadau cyflogaeth a diwydiannol ac ymchwil i reoli adnoddau dynol.

Mae hyn yn cynnwys trefnu seminarau a chynadleddau ymchwil, cynorthwyo myfyrwyr PhD, cynnal prosiectau ymchwil ar y cyd, rheoli Cymrodoriaeth Ymweld Montague Burton a datblygu cynigion ariannu ar y cyd.

Mae’r Uned wedi'i lleoli yn adran Rheoli, Cyflogaeth a Sefydliadau Ysgol Busnes Caerdydd, ond mae hefyd yn cynnwys ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn rheoli adnoddau dynol a chysylltiadau cyflogaeth o feysydd eraill.

Ers 2017, mae’r Uned wedi bod yn aelod o rwydwaith CRIMT (Interuniversity Research Centre on Globalisation and Work). Mae’r Uned hefyd yn cymryd rhan ym mhrosiect 'Experimentation in Better Work' CRIMT.

Astudiaethau PhD

Mae’r Uned yn gartref croesawgar a chefnogol i'n myfyrwyr PhD, sy'n cymryd rhan lawn yn ei gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr PhD ym meysydd eang cysylltiadau cyflogaeth a rheoli adnoddau dynol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • undebau llafur a sefydliadau cyflogwyr
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • anabledd
  • gwaith teilwng
  • hawliau llafur a chaethwasiaeth fodern
  • dyfodol gwaith
  • llywodraethu corfforaethol a chyflogaeth
  • cyflog byw
  • cymrodeddu a datrys anghydfodau
  • partïon cysylltiadau diwydiannol newydd
  • datblygu sgiliau

Prosiectau

Prosiect Gweithredoli Hawliau Llafur ESRC GCRF

Jean Jenkins, Rhys Davies, Helen Blakely, Catriona Dickson

Mae hwn yn brosiect ymchwil rhyngwladol a ariennir gan yr ESRC o dan gylch gwaith y Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang (GCRF). Mae'n gydweithrediad rhwng ymchwilwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd a WISERD a'n partneriaid yn Cividep-India.

Mae'r ymchwil yn unigryw gan ei bod yn astudiaeth hydredol, sy'n canolbwyntio ar y gweithle, o fynediad at ddatrysiad ar lawr gwlad y gadwyn werth llafur-ddwys mewn dillad. Dechreuodd y prosiect yn 2018 a daeth i ben yn 2021.

Gweithredoli Hawliau Llafur: Mynediad i Ddatrysiad yn y Man Gwaith

ES/S000542/1 ESRC GCRF

Apeliadau Brys: Data a Phrosiect Rhannu Dysgu ESRC GCRF

Jean Jenkins, Katy Huxley

Dyma brosiect a ddechreuodd ar 5 Tachwedd 2019. Mae’n cael ei gynnal gan gydweithwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd a WISERD mewn cydweithrediad â'r Ymgyrch Dillad Glân (CCC). Mae’n seiliedig ar ddyfarniad IAA cynharach ESRC a gwblhawyd ym mis Mawrth 2019. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar wella a datblygu'r gronfa ddata a ddefnyddir gan CCC i gofnodi a monitro ei fecanwaith Apeliadau Brys.

Mae CCC yn gorff anllywodraethol rhyngwladol a sefydlwyd ym 1989. Mae’n cydweithio’n agos ag ystod o bartneriaid cymdeithas sifil yn gynghrair fyd-eang. Ei nod yw gwella amodau gwaith a rhoi’r dwylo yng ngrym gweithwyr yn y diwydiannau dillad a dillad chwaraeon byd-eang.

Mae ei system Apeliadau Brys yn fecanwaith annibynnol lle gall amddiffynwyr hawliau dynol (HRDs) ar lawr gwlad apelio am gymorth pan fydd angen eiriolaeth a lobïo rhyngwladol arnynt i gefnogi eu gweithredoedd, neu yn ffynhonnell datrysiad brys ar lefel leol.

Apeliadau Brys: Data a Phrosiect Rhannu Dysgu ESRC GCRF

ES/T009918/1

Cynrychioli buddiannau Sefydliadau Cyflogwyr Ewrop

Mona Aranea, Leon Gooberman, Marco Hauptmeier

Mae'r prosiect ymchwil hwn yn canolbwyntio ar gynrychioli buddiannau Sefydliadau Cyflogwyr Ewrop (EEOs) yn yr Undeb Ewropeaidd (UE). Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar y cyrff ar y cyd Ewropeaidd hynny sy'n cynrychioli buddiannau cyflogwyr, gan ystyried ystod eang o faterion ym meysydd cysylltiadau cyflogaeth, llafur a rheoli adnoddau dynol.

Mae'r prosiect yn trafod sut mae EEOs yn hyrwyddo buddiannau cyflogwyr ar lefel Ewropeaidd, gan ddadansoddi'r cyd-reoleiddio a llunio polisïau gydag undebau llafur yn rhan o ddeialogau cymdeithasol Ewrop, cynrychiolaeth wleidyddol a lobïo yn system wleidyddol yr UE, darparu gwasanaethau i aelodau a'u rôl wrth osod safonau.

Yn ogystal, mae'r prosiect yn archwilio sut mae EEOs yn datblygu eu nodau a'u polisïau, gan fesur dylanwad democrataidd gan aelod-ffederasiynau cenedlaethol yn erbyn y penderfyniadau ymreolaethol gan arweinwyr yr EEOs. Yn olaf, nod y prosiect yw nodi poblogaeth EEOs, casglu gwybodaeth am bob sefydliad a llunio eu proffiliau mewn llawlyfr newydd o EEOs.

Ennill manteision cydweithredol: Rôl newidiol sefydliadau cyflogwyr yn economi Prydain

Cynhaliwyd y prosiect hwn rhwng 20 Mehefin 2014 a 19 Mehefin 2017.

Fe'i noddwyd gan yr ESRC ac fe'i harweiniwyd gan Dr Marco Hauptmeier gyda Dr Leon Gooberman a'r Athro Edmund Heery.

Math o ddyfarniad Ymchwil, Cymrodoriaeth Arweinwyr Ymchwil ESRC y Dyfodol

Cyhoeddiadau

Digwyddiadau

Seminarau, cynadleddau a digwyddiadau eraill

Mae’r Uned yn cynnal seminarau, cynadleddau, fforymau trafod a digwyddiadau eraill rheolaidd, gan gynnwys cyflwyniadau gan ei haelodau ac ysgolheigion gwadd.

Adroddiad ERU 2023

Trwy gydol 2023, buodd Dr Luciana Zorzoli yn Gyfarwyddwr dros dro i’r ERU, tra’r oedd Dr Jonathan Preminger ar absenoldeb hybu ymchwil.

Yn 2023, hoffem ni estyn ein llongyfarchiadau i’n cydweithiwr, yr Athro Ed Heery, am dderbyn Cymrodoriaeth BUIRA. Mae'r gydnabyddiaeth hon, mor uchel ei pharch, yn dyst i’w gyfraniadau rhagorol at IR a'r ymroddiad go arbennig a ddangosodd wrth gyhoeddi cyhoeddiadau o ansawdd ac effaith uchel.

Ym mis Mehefin, cawsom y fraint o allu croesawu Dr Jonathan Preminger, a wnaeth gyflwyno ei ymchwil pryfoclyd ar "Cysylltiadau Diwydiannol y Cenedlaetholwyr a'r Ethnig 'Arall': Safbwynt o Astudiaethau’r Gororau Critigol"

Hefyd ym mis Mehefin, gwnaeth aelodau o’r ERU gyflwyno gwaith sydd ar y gweill ac ymchwil diweddar yng Nghynhadledd Ymchwil yr Adran Rheolaeth, Cyflogaeth a Sefydliadau. Cymerwch olwg ar raglen y gynhadledd ar-lein (angen caniatâd).

Ym mis Mai, croesawyd dau gydweithiwr nodedig, Dr David Nash a Dr Deborah Hann, i gyflwyno eu gwaith ar y cyd o’r enw “Strategol, Datgysylltiol, neu Ymatebol?” Tuag at Deipoleg o Ddulliau i Reoli Gwrthdaro yn y DU."

Ym mis Ebrill, gwnaethom gyflwyno a thrafod y llyfr: "70 Years of the ILO Committee of Freedom of Association: A Reliable Compass in Any Weather" gyda Karen Curtis, Pennaeth y Gangen dros Ryddid i Ymgysylltu yn yr ILO, yn Adran Safonau Llafur Rhyngwladol, a Dr Kamala Sankaran o Ysgol y Gyfraith Genedlaethol ym Mhrifysgol Bengaluru, India. Mae’r llyfr hwn yn darparu cipolwg gwerthfawr ar waith y Pwyllgor dros Ryddid i Ymgysylltu’r ILO yn ystod y saith degawd diwethaf.

Canslwyd ein gweithgareddau ym mis Mawrth o achos i weithredu diwydiannol UCU.

Ym mis Chwefror, roedd yn fraint i allu croesawu Dr Maayan Niezna o Sefydliad Bonavero Hawliau Dynol ym Mhrifysgol Rhydychen. Dr. Cyflwynodd Dr Niezna ei hymchwil ar yr ecsbloetio gweithwyr Palestina sy’n digwydd yn Israel, gan ganolbwyntio’n benodol ar y ffioedd recriwtio sy’n rhan o hynny.

Ym mis Ionawr, roedd pleser gennym gynnal cyflwyniad llyfrau a drefnwyd ar y cyd rhwng ERU a CORGies. Yn y digwyddiad hwnnw, dathlwyd a thrafodwyd dau lyfr newydd a gafodd eu hysgrifennu gan ein cydweithwyr yn CARBS. Cafodd y llyfr cyntaf, sef “Contemporary Employers’ Organizations: Adaptation and Resilience," ei olygu gan Leon Gooberman a Marco Hauptmeier. Ysgrifennwyd yr ail lyfr, "Developing Public Service Leaders: Elite Orchestration, Change Agence, Leaderism, and Neoliberalization," gan Mike Wallace, Michael Reed, Dermot O'Reilly, Michael Tomlinson, Jonathan Morris, a Rosemary Deem.

Gallwch ddod o hyd i ragor am y llyfrau hyn yn y straeon newyddion canlynol.

Gwnaethom hefyd gynnal y traddodiad sydd gennym bellach o gydweithio â CORGies i drefnu’r mini-gynhadledd PhD ar ddechrau'r flwyddyn. Yn ystod y digwyddiad hwn bu cyflwyniadau gan fyfyrwyr PhD o’n Hadran Rheoli, Cyflogaeth a Sefydliadau (MEO) ac o’r ysgolion eraill ym Mhrifysgol Caerdydd, ac fe’i hymdriniwyd ag amrywiaeth eang o bynciau ymchwil. Cewch ddod o hyd i'r adroddiad llawn ar-lein.

Digwyddiadau’r gorffennol

2022

Ym mis Chwefror, cydweithiodd yr Uned â CORGies a'r Ganolfan Ymchwilio Addysg a Llafur ym Mhrifysgol Witwatersrand ar gyfer symposiwm ar-lein o'r enw Safbwyntiau Beirniadol ar y 4ydd Chwyldro Diwydiannol. Roedd y siaradwyr yn cynnwys Ian Moll (Prifysgol Witwatersrand), Paul Thompson (Prifysgol Stirling) ac Ivor Baatjes (Prifysgol Nelson Mandela), gydag Irena Grugulis (Prifysgol Leeds) a Rick Delbridge (Ysgol Busnes Caerdydd) yn sylwebu ar gyflwyniadau'r siaradwyr.

Ym mis Ionawr, cynhaliodd yr Uned gynhadledd PhD adran Rheoli, Cyflogaeth a Sefydliadau Ysgol Busnes Caerdydd, a drefnwyd ar y cyd â CORGies, lle cyflwynodd myfyrwyr PhD yr adran eu hymchwil.

2021

Ym mis Hydref, trafododd Arianna Marcolin (Ysgol Astudiaethau Uwch Sant'Anna yn Pisa) sut mae digideiddio yn effeithio ar gysylltiadau diwydiannol yn y sector manwerthu, gan ddefnyddio tystiolaeth o'r Eidal a Sbaen.

Ym mis Mehefin, cyflwynodd Luciana Zorzoli (Ysgol Busnes Caerdydd) ei hymchwil ar gysylltiadau cyflogaeth a disgwyliadau, diddordebau a phrofiadau gweithwyr yn yr economi gig, gan ganolbwyntio ar Buenos Aires (Yr Ariannin), São Paulo (Brasil) a Santiago de Chile (Chile).

Ym mis Mawrth, cyflwynodd Bradon Ellem (Ysgol Busnes Prifysgol Sydney) ei ymchwil i gynhyrchiant a pholisi cysylltiadau diwydiannol ym mhrosiectau anferth (megaprojects) Awstralia.

Ym mis Chwefror, trafododd Sarah Pickard (Université Sorbonne Nouvelle) y rhesymau dros gyfraddau isel o aelodaeth undebau llafur a gweithredu ymhlith y precariat ifanc ym Mhrydain.

Ym mis Ionawr, cynhaliodd yr Uned gynhadledd PhD adran Rheoli, Cyflogaeth a Sefydliadau Ysgol Busnes Caerdydd, a drefnwyd ar y cyd â CORGies, lle cyflwynodd myfyrwyr PhD yr adran eu hymchwil.

Ym mis Ionawr, cyflwynodd Dr Søren Kaj Andersen (Prifysgol Copenhagen), yr Athro Russell Lansbury (Prifysgol Sydney) a Dr Chris F. Wright (Prifysgol Sydney) eu gwaith ar safbwyntiau partïon ar dwf isel yn Awstralia a Denmarc (digwyddiad a gynhaliwyd ar-lein oherwydd COVID-19).

Ym mis Ionawr, siaradodd Dr Johannes Kiess (Prifysgol Siegen a Phrifysgol Leipzig) am gymryd rhan, undod a chydnabyddiaeth yn y gweithle, a'r posibilrwydd o gryfhau agweddau democrataidd trwy ddinasyddiaeth ddiwydiannol (digwyddiad a gynhaliwyd ar-lein oherwydd COVID19)

2020

Ym mis Tachwedd, siaradodd yr Athro Alan Felstead o Brifysgol Caerdydd am ei ymchwil i weithio gartref yn ystod pandemig COVID-19, a siaradodd yr Athro Emmanuel Ogbonna o Ysgol Busnes Caerdydd am effaith y pandemig ar gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (digwyddiad a gynhaliwyd ar-lein oherwydd COVID-19)

Ym mis Tachwedd, siaradodd Dr Paolo Tomassetti (Prifysgol Bergamo) am brif ganfyddiadau prosiect 'Agreenment: A Green Mentality for Collective Bargaining', sy'n ymchwilio i rôl deialog gymdeithasol a bargeinio ar y cyd wrth hyrwyddo datblygu cynaliadwy a phontio cyfiawn (digwyddiad a gynhaliwyd ar-lein oherwydd COVID-19)

Ym mis Gorffennaf, siaradodd yr Athro Guy Mundlak (Prifysgol Tel Aviv) am ei lyfr newydd, Organising Matters: Two Logics of Trade Union Representation (ILO ac Edward Elgar, 2020) (digwyddiad a gynhaliwyd ar-lein oherwydd COVID-19)

Ym mis Mehefin, cyflwynodd Dr Stefano Gasparri (Prifysgol Gorllewin Lloegr) ei bapur “Workers of the world, unite and then divide! Ideological variation in trade union strategies towards zero-hours contracts in Italy” (digwyddiad a gynhaliwyd ar-lein oherwydd COVID-19)

Ym mis Mai, siaradodd Dr Mona Aranea (Prifysgol Caerdydd) am gyflogwyr a philer cymdeithasol Ewrop, sy'n rhan o brosiect ymchwil Cynrychioli Buddiannau Sefydliadau Cyflogwyr Ewrop (digwyddiad a gynhaliwyd ar-lein oherwydd COVID-19)

Ym mis Mawrth, cyflwynodd Daniel Nicholson (Prifysgol Caerdydd) ei bapur, "Which side are you on? Technological change, worker involvement and shopfloor patterns of class compromise in the aerospace sector” (digwyddiad a gynhaliwyd ar-lein oherwydd COVID-19)

2019

Ym mis Tachwedd, cyflwynodd Huw Thomas (Prifysgol Bryste) ei bapur “From a ‘moral commentator’ to a ‘determined actor’? How the International Labour Organization is orchestrating a reframing of the international industrial relations field,” a chyflwynodd Dr Fernando Ramalho Martins (Universidade Estadual Paulista) ei bapur, “The reconfiguration of automotive industry: The Iracemápolis’ (Brazil) Mercedes-Benz case”

Mis Hydref: Günter Hinken (VHS Essen) a Tracy Corley (Prifysgol Northeastern)

Ym mis Mehefin, cyflwynodd yr Athro Edward Webster (Prifysgol Wits) “The South African inequality paradox”

Mis Mai: Yr Athro John Budd a'r Athro Sarosh Kuruvilla

Ym mis Mai, cynhaliodd yr Uned lansiad ar gyfer llyfr Thomas Prosser European Labour Movements in Crisis: from Indecision to Indifference (Gwasg Prifysgol Manceinion, 2019), gyda'r Athro Guglielmo Meardi (Prifysgol Warwick).

Ym mis Mawrth, cynhaliodd yr Uned weithdy hanner diwrnod ar y cyd â rhwydwaith CRIMT.

Mis Chwefror: Dr Wil Chivers a Katy Huxley (WISERD, Prifysgol Caerdydd), a Dr David Nash a Dr Deborah Hann (Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd)

Ym mis Ionawr, cyflwynodd Dr Jonathan Preminger (Prifysgol Caerdydd) ei bapur, "Union revitalization through social partnership: potential and limitations,," a chyflwynodd Dr Jean Jenkins (Prifysgol Caerdydd) ei gwaith ar gydnabod undebau llafur yn niwydiant dillad India.

2018

Mis Ionawr: Cyntia Vilasboas Calixto Casnici (Fundação Getulio Vargas, EAESP) a Carolyn Graham (Canolfan Ymchwil Ryngwladol Morwyr, Prifysgol Caerdydd)

Mis Chwefror: Mark Bergfeld (Prifysgol y Frenhines Mary, Llundain)

Mis Mai: Yr Athro Lidia Greco (Università di Bari)

Ym mis Tachwedd, cyflwynodd Helen Blakely a Rhys Davies (WISERD, Prifysgol Caerdydd) eu papur, “Family, community and the inter-generational transmission of union membership”

Ym mis Mai, cynhaliodd yr Uned gynhadledd a rhifyn arbennig ‘Cadwyni Gwerth Byd-eang a'u Canlyniadau Cysylltiadau o ran Cyflogaeth’

Ym mis Mai, cynhaliodd yr Uned lansiad llyfr Jonathan Preminger Labor in Israel: Beyond Nationalism and Neoliberalism (Gwasg Prifysgol Cornell, 2018), gyda’r Athro Marco Hauptmeier (Ysgol Busnes Caerdydd)

2017

Ym mis Chwefror, cynhaliodd yr Uned lansiad llyfr Leon Gooberman Depression to Devolution, Economy and Government in Wales, 1934-2006 (Gwasg Prifysgol Cymru, 2017).

Ym mis Ebrill, cynhaliodd yr Uned gylch trafod arbennig mewn perthynas ag etholiad arlywyddol Ffrainc

2016

Ar 15-16 Medi, cynhaliodd yr Uned Gynhadledd Gweithredu ar y Cyd Sefydliadau Cyflogwyr a Chyflogwyr

Cyllid a dyfarniadau

Cronfa Montague Burton

Mae’r Undeb Ymchwil i Gyflogaeth (ERU) yn falch dros ben o allu croesawu ysgolheigion allanol drwy’r Gronfa Montague Burton. Mae’r gronfa yn talu costau ar gyfer ymweliadau, gan gynnwys llety, cynhaliaeth a theithio, hyd at gyfanswm o £5,000 (yn amodol ar argaeledd).

Fel arfer, llywyddir pob ysgolhaig gwadd a ariennir gan Gronfa Montague Burton gan ysgolhaig yn Ysgol Busnes Caerdydd, a fyddai’n gwneud cais ar eu rhan ac yn trefnu'r ymweliad ar eu cyfer. Bydd gofyn i ysgolheigion gwadd gyflwyno eu hymchwil mewn seminar ERU, ac efallai y gofynnir iddynt draddodi darlith gwadd i fyfyrwyr lle y bo hynny'n briodol.

Gwobr Ysgoloriaeth Richard E. Benedict

Diolch i haelioni’r teulu Benedict, rydym yn gallu dyfarnu Gwobr Ysgoloriaeth Richard E. Benedict (a elwir gynt yn Wobr Benedict) bob blwyddyn i annog myfyrwyr ôl-raddedig (gan gynnwys myfyrwyr MSc) i fentro i faes ymchwil cysylltiadau cyflogaeth. Bwriad y dyfarniadau hyn, gwerth hyd at £2,000 yr un (yn amodol ar argaeledd), yw galluogi'r rhai sy’n eu hennill i ymgymryd â phrosiect astudiaethau ôl-raddedig ar bwnc ym maes cyflogaeth a gwaith, a’i diffinnir yn fras.

Er mwyn gwneud cais am Wobr Ysgoloriaeth Richard E. Benedict neu i gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Chyfarwyddwr ERU. Bydd ceisiadau'n cael eu dyfarnu ar sail gystadleuol: Bydd aelodau’r ERU yn dewis prosiect o'r ansawdd orau sydd â gwir botensial. Ar ôl cwblhau'r prosiect, bydd yn ofynnol i dderbynwyr y wobr ysgrifennu adroddiad nad yw’n fwy na 500 gair a chyflwyno canfyddiadau eu prosiectau mewn seminar ERU.

Ysgolheigion gwadd

Cymrodoriaeth Ymweld Montague Burton

Ers 1990, mae'r Uned wedi trefnu rhaglen reolaidd ar gyfer ysgolheigion sy'n ymweld, yn seiliedig ar Gronfa Montague Burton.

Mae'r Uned yn defnyddio'r cronfeydd hyn i feithrin cysylltiadau ag ymchwilwyr rhyngwladol, i hwyluso cydweithio ymchwil rhwng aelodau ac ysgolheigion o fri rhyngwladol ac i wella enw da'r Uned ac Ysgol Busnes Caerdydd.

Ysgolheigion gwadd y gorffennol

2019
  • Yr Athro John Budd (Prifysgol Minnesota)
  • Dr Todd Dickey (Prifysgol Syracuse)
  • Yr Athro Edward Webster (Prifysgol Wits)
  • Dr Tracy Corley (Prifysgol Northeastern)
2018
  • Yr Athro Lidia Greco (Università di Bari)
2017
  • Yr Athro Peter Gahan (Prifysgol Melbourne)
  • Yr Athro Assaf Bondy (Prifysgol Tel Aviv)
2016
  • Mona Aranea Guillen (Prifysgol Oviedo)
  • Howard Gospel (Coleg y Brenin)
  • David Yeandle (cyn-gynrychiolwr y cyflogwr, EEF)
2014
  • Rebecca Givan (Prifysgol Rutgers, UDA)
  • Lise Lotte Hansen (Roskilde Universitet, Denmarc)
  • Cathie Jo Martin (Prifysgol Boston, UDA)
2013
  • Kerstin Harmann (Prifysgol Central Florida, UDA)
  • Greg Bamber (Prifysgol Monash, UDA)
  • Lowell Turner (Prifysgol Cornell, UDA).
2012
  • Charles Heckscher (Prifysgol Rutgers, UDA)
  • Sanford Jacoby (UCLA, UDA)
  • Christian Levesque (Prifysgol Montreal, Canada)
2011
  • Ed Carberry (Prifysgol Boston, UDA)
  • Morris Kleiner (Prifysgol Minnesota, UDA)
  • Sarosh Kuruvilla (Prifysgol Cornell, UDA)
2010
  • Janice Fine (Prifysgol Rutgers, UDA)
  • Martin Behrens (Hans Böckler Foundation, Yr Almaen)
  • Marian Baird (Prifysgol Sydney, Awstralia)
2009
  • Luis Ortiz (Pompeiu Fabra)
  • Nikola Smit (Prifysgol Gogledd Orllewin Lloegr, De Affrica)
2008
  • Michael Burawoy (Prifysgol California, Berkeley, USA)
  • Ruth Milkman (CUNY, UDA)
  • Bradon Ellem (Prifysgol Sydney, Awstralia)

Y camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.