Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio tuag at ysgol wrth-hiliol

Does dim lle i hiliaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae hyn yn golygu bod gennym bolisi sy’n gwahardd hiliaeth.

Rydym ar daith tuag at ddod yn ysgol wrth-hiliaeth. Mae mabwysiadu ymagwedd wrth-hiliol yn golygu mynd ati'n rhagweithiol i greu amgylchedd lle nad yw myfyrwyr a staff yn wynebu rhwystrau yn eu haddysg a'u gwaith oherwydd rhagfarn hiliol, gwahaniaethu ac anghydraddoldeb.

Rydym yn deall y gellir profi anghydraddoldebau a gwahaniaethu ar sail hil ac anghydraddoldebau hiliol yn unigol a thrwy systemau sefydliadol. Rydym hefyd yn ymwybodol bod rhai mathau o hiliaeth yn amlwg, ac weithiau gall hiliaeth fod ar ffurf micro-ymosodeddau cynnil ac anuniongyrchol. Ein nod yw gweithio tuag at amgylchedd ysgol sy'n rhydd o unrhyw fath o hiliaeth neu anghydraddoldeb hiliol.

Yn Ysgol Busnes Caerdydd, rydym yn cydnabod bod gennym lawer o ddysgu i'w wneud, er mwyn deall a datblygu dull gwrth-hiliol a fydd yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i brofiadau ein holl fyfyrwyr a staff.

Dan arweiniad Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i’r nod o sicrhau bod pawb yn Ysgol Busnes Caerdydd yn gallu astudio a gweithio gydag urddas, a gyda chyfle cyfartal. Rydym yn disgwyl i holl aelodau cymuned ein hysgol ymgysylltu â chyfleoedd a mentrau sy'n ymwneud â chydraddoldeb hiliol, er mwyn i ni allu, gyda'n gilydd, gyrraedd y nod angenrheidiol o greu diwylliant gwrth-hiliol yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Pwyllgor Cydraddoldeb Hiliol

Mae ein Pwyllgor Cydraddoldeb Hiliol yn cynnal nifer o fentrau i helpu i godi proffil cydraddoldeb hiliol, ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol. Mae'r Pwyllgor wedi bod yn gweithio gyda Busnes yn y Gymuned (BITC), a thrwy hynny, mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi ymrwymo i Siarter Race at Work. Trwy'r bartneriaeth hon, mae BITC wedi helpu i hwyluso nifer o weithdai llwyddiannus, gyda mwy ar y gweill yn y dyfodol.

Mae'r pwyllgor hefyd yn gweithio yn unol â Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru. Mae'r Cynllun Gweithredu yn cynghori y dylai prifysgolion weithio tuag at hyrwyddo diwylliant gwrth-hiliol, er mwyn i bob myfyriwr ac aelod o staff allu disgwyl cael profiad cadarnhaol o addysg uwch, beth bynnag fo'u cefndir hiliol ac ethnig.

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb Hiliol yn cael ei gadeirio gan yr Athro Emmanuel Ogbonna, sydd hefyd yn gyd-gadeirydd y Grŵp Atebolrwydd Allanol ar gyfer rhoi Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru ar waith.

Ein gwaith hyd yn hyn

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb Hiliol wedi cyflawni nifer o brosiectau, gan gynnwys:

Mae'r cyfeiriad ebost carbs-raceequality@caerdydd.ac.uk ar gael i unrhyw fyfyriwr, staff neu ymwelydd roi gwybod am achosion o hiliaeth, anghydraddoldebau hiliol neu ficro-ymosodeddau a brofir yn yr ysgol.

Mae’r cyfrif ebost hwn yn cael ei adolygu gan ein Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a fydd yn delio ag unrhyw adroddiad mewn modd sensitif, cefnogol a chyfrinachol, a bydd yn cyfathrebu â’r unigolyn sy’n adrodd cyn symud ymlaen ag unrhyw gamau.

Bydd adroddiadau a ddarperir drwy'r ebost hwn hefyd yn galluogi'r swyddog i asesu unrhyw faterion cyffredin neu sy'n codi dro ar ôl tro a hysbysu'r Pwyllgor am hyn. Bydd hyn yn galluogi'r Pwyllgor i sicrhau bod mentrau, hyfforddiant neu ymgyrchoedd yn y dyfodol yn berthnasol.

Pan fydd unigolion yn dewis aros yn ddienw, neu nad ydynt yn dymuno enwi unigolion sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad, mae croeso iddynt wneud adroddiad drwy’r ebost hwn er mwyn i faterion sy’n codi dro ar ôl tro gael eu nodi, ac y gellir ystyried sut y gellir mynd i’r afael â digwyddiadau pellach a’u hatal.

Cynhelir y gweithdai hyn i greu mannau diogel i gael trafodaeth agored a dysgu am ras ac maent yn agored i bob aelod o staff. Wedi'u hwyluso gan BITC, eu bwriad yw datblygu dealltwriaeth o sut mae pobl yn cael eu heffeithio gan faterion hil a chydraddoldeb hiliol.

Mae’r sesiynau hyd yn hyn wedi bod yn fuddiol i chwalu rhwystrau wrth siarad am y pwnc hwn yn sensitif a chaniatáu lle i bobl ddysgu mewn amgylchedd anfeirniadol.

Gall hyn hefyd helpu cydweithwyr i ddod yn gynghreiriaid mwy effeithiol yn y gweithle. Bwriedir cynnal rhagor o weithdai tebyg, yn ogystal â gweithdai mwy manwl ar bwnc cynghreiriad.

Dan arweiniad BITC, mae'r gweithdai hyn yn ofod i unigolion o gefndiroedd hiliol a lleiafrifoedd ethnig i siarad am eu profiadau bywyd ac yn gyfle i rannu materion y maent yn eu hwynebu.

Mae'r Pwyllgor yn gobeithio mynd i'r afael â themâu sy'n dod i'r amlwg, i helpu i lywio mentrau yn y dyfodol a chaniatáu ymateb mwy penodol tuag at fynd i'r afael ag anghenion myfyrwyr a staff. Cynhelir sesiynau ar wahân ar gyfer myfyrwyr a staff.

Cynhaliwyd gweithdy a oedd yn agored i staff ymchwil a myfyrwyr i hwyluso trafodaeth ynghylch rhwystrau wrth ddad-goloneiddio ymchwil a datblygu syniadau am ffyrdd posibl o fynd i'r afael â'r rhain.

Cafwyd cyflwyniadau gan staff, cynhaliwyd sawl grŵp trafod lle siaradodd pobl am eu profiadau mewn ymchwil yn ymwneud â materion hil. Gwnaeth aelodau o staff a oedd yn gweithio mewn adrannau amrywiol ar ymchwil fynd i’r afael â chamau gweithredu a awgrymwyd, ac roedd llawer o gyfranogwyr yn awyddus i gymryd rhan mewn digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Mae digwyddiad mwy wedi'i gynllunio ar draws y coleg yn cynnwys ysgolion o Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Clwb llyfrau rheolaidd i aelodau staff gymryd rhan mewn sgyrsiau am hil, gan helpu i godi proffil cydraddoldeb hiliol o fewn yr ysgol, datblygu gwybodaeth ac ymgysylltiad ynghylch materion cydraddoldeb hiliol.

Roedd y llyfrau o dan sylw yn cynnwys:Empireland gan Sathnam Sanghera a Making It gan Jay Blade. Ochr yn ochr â phob llyfr, yn aml mae erthyglau cysylltiedig, podlediadau, a rhaglenni dogfen sy'n cael eu hargymell hefyd, i alluogi cymaint o bobl â phosibl i ymgysylltu â'r testun trafod.

Bwriedir i sesiynau yn y dyfodol gynnwys trafod ffilmiau neu raglenni dogfen sy'n ymwneud â materion hil a chydraddoldeb hiliol.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb Hiliol yn parhau i wneud gwaith ymchwil i helpu i ddatblygu a sefydlu prosiectau a mentrau pellach. Mae hyn yn cynnwys coladu ac adolygu data cyrhaeddiad, a chynnig cyfleoedd pellach i staff a myfyrwyr roi adborth am eu profiadau o faterion cydraddoldeb hiliol.

Bydd hyn yn galluogi’r Pwyllgor i ganolbwyntio ei waith ar anghenion cymuned yr ysgol, a gwneud cynnydd tuag at wella’r profiad addysg uwch i bobl o bob cefndir.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ar gyfer y Pwyllgor Cydraddoldeb Hiliol, gallwch gysylltu â:

Swyddog Prosiect Cydraddoldeb Hiliol

Shaheda Khatun

Cydraddoldeb hiliol ym Mhrifysgol Caerdydd

Trwy ein hymdrechion i ddatblygu gwaith cydraddoldeb hiliol, mae Ysgol Busnes Caerdydd, sy’n rhan o Brifysgol Caerdydd, yn cefnogi ac yn atgyfnerthu ymrwymiad y Brifysgol i ddod yn sefydliad gwrth-hiliol.