Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Ymchwil Polisi Arloesedd

Rydym yn cyd-greu gwybodaeth drwy ymchwil gydweithredol ar arloesi sy'n cyfrannu at ddatblygu polisi ar sail lleoedd ledled Cymru a'r byd.

Rydym ni’n cynnal ymchwil sy'n berthnasol i bolisi ar greadigrwydd, arloesedd a'r economi ochr yn ochr â chydweithredwyr o sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector yn y Deyrnas Unedig (DU) ac yn rhyngwladol.

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio'n benodol ar natur arloesi o ran gofod ac yn seiliedig ar leoedd. Rydym ni’n hyrwyddo cynaliadwyedd ac arloesedd cyfrifol wrth nodi a datblygu canfyddiadau ymchwil sy'n berthnasol i bolisi.

Amcanion

Rydym ni’n datblygu ymchwil unigryw ac effeithiol sy'n adeiladu ar sylfaen arbenigedd rhyngddisgyblaethol ac yn defnyddio sawl dull i ddadansoddi a llywio datblygiad polisi arloesi. Mae ein gweithgareddau'n cynnwys:

  • Datblygu ymchwil o ansawdd uchel
  • Cynhyrchu allbynnau ymchwil
  • Cynhyrchu incwm ymchwil
  • Hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth a chydweithio ar bolisi arloesi
  • Adeiladu rhwydweithiau i annog ymchwil sy'n berthnasol i bolisi ar arloesi
  • Llywio datblygiad polisi yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Rydym ni’n datblygu dealltwriaeth ar sail tystiolaeth o ddatblygiad, darpariaeth a chanlyniadau polisi arloesi, wedi'i lunio'n eang ond gyda ffocws penodol ar weithgarwch seiliedig ar le.

Er enghraifft, mae gennym ni ddiddordeb mewn sut y gall actorion rhanbarthol ailadeiladu eu heconomïau trwy ymagweddau arloesol, seiliedig ar le tuag at ddatblygu economaidd.

Gallai hyn gynnwys dadansoddi dulliau newydd sy'n canolbwyntio ar, er enghraifft, ysgogi caffael cyhoeddus, defnyddio polisïau arloesi i hyrwyddo gweithgarwch economaidd fel bargeinion dinas, gwobrau herio a mentrau ymchwil busnesau bach, a rôl sefydliadau addysg uwch mewn datblygiad economaidd ac arloesi rhanbarthol (gweler Morgan K, Marques P. 2019. The public animateur: Mission-led innovation and the 'smart state' in Europe. Cambridge Journal of Regions, Economy and Society. 12(23): 179-193).

Wrth archwilio dynameg aflinol gymhleth polisi arloesi yn ymarferol, mae ein hymchwil yn adeiladu ar arbenigedd amlddisgyblaethol aelodau CIPR.

Er enghraifft, mae ein hymchwil flaenorol wedi tynnu ar waith sy'n mynd i'r afael â systemau addasol cymhleth a safbwynt ‘sefydliadau byw’ mewn theori trefnu.

Bydd ymchwil y Ganolfan yn y dyfodol hefyd yn tynnu ar ddamcaniaethau sefydliadol o newid sefydliadol i archwilio sut mae arloesed polisi yn arwain at newid mewn ymarfer a sut mae'r rhain yn cael eu hyrwyddo a'u cynnal (gweler Bristow G, Healy A. 2014. Building resilient regions: Complex adaptive systems and the role of the policy intervention. Raumforsch Raumordn, 72: 93-102; Delbridge R, Edwards T. 2013. Inhabiting institutions: Critical realist refinements to understanding institutional complexity and change. Organization Studies, 34(7): 927-947).

Mae gennym ni ddiddordeb hefyd mewn gweithio mewn partneriaeth â llunwyr polisi a chyrff sector cyhoeddus wrth gyflawni polisi arloesi trwy ddulliau ymchwil gweithredu.

Llywodraeth Cymru

Gwahoddwyd Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi (IACW), ddiwedd 2020, i ddechrau proses o adolygu'r dirwedd arloesi yng Nghymru a llywio cynlluniau i ddatblygu polisi arloesi wedi'i adnewyddu ar gyfer Cymru.

Comisiynodd IACW y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd ym Mhrifysgol Caerdydd i ymchwilio i gyflwr arloesi presennol yng Nghymru ac ystyried y materion allweddol wrth ddatblygu polisi yn y dyfodol. Mae'r adroddiad hwn, a gyflwynwyd ar 31 Mawrth 2021, yn fan cychwyn ar gyfer trafodaethau i’w cynnal dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Cynhaliodd tîm CIPR Rick Delbridge, Dylan Henderson a Kevin Morgan drafodaethau gyda dros 50 o randdeiliaid ar draws yr ecosystem arloesi ac fe wnaethant hefyd gynnal adolygiad o ddata eilaidd. Yn yr adroddiad, maent yn darparu trosolwg o gyflwr arloesi presennol yng Nghymru, yn adolygu'r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer ymchwil ac arloesi, yn ystyried yr hyn fydd ei angen i baratoi ar gyfer y dyfodol ac yn cynnig argymhellion i helpu i lywio tirwedd arloesi Cymru yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Cyhoeddiadau dethol

Arloesedd i Bawb – Her prydau ysgol am ddim yng Nghymru

Fideo o’r gweithdy Arloesedd i Bawb

Un o'r pethau mwyaf uchelgeisiol a ddeilliodd o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Llafur Cymru a Phlaid Cymru oedd yr ymrwymiad i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl mewn ysgolion cynradd yng Nghymru. Er bod yr ymrwymiad hwn i bolisi newydd yn hynod ganmoladwy, mae hefyd yn heriol iawn pan fo awdurdodau lleol eisoes yn ei chael hi'n anodd parhau i ddarparu gwasanaethau presennol o ganlyniad i bwysau deuol – cyllidebau tynn, a chostau sy’n cynyddu’n gyflym o ran bwyd a thanwydd.

Roedd y gweithdy Arloesedd i Bawb, a hwyluswyd gan yr Athro Kevin Morgan, yn ymdrin â gwahanol ddimensiynau’r her ac yn canolbwyntio’n arbennig ar y tair problem fwyaf cyffredin:

  • yr isadeiledd (ceginau ac ystafelloedd bwyta) ar gyfer cynnig prydau ysgol am ddim i nifer uwch o blant
  • y broblem o ran sicrhau bod digon o staff arlwyo ar gael i helpu neu gynnig oriau ychwanegol i’r staff presennol
  • caffael bwyd maethlon

Mae Kevin Morgan yn annog cynaliadwyedd bwyd, ac mae wedi cyfrannu at adroddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar wneud cynaliadwyedd yn rhan o’r broses caffael bwyd – Prynu Bwyd Addas i’r Dyfodol.

Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae CIPR yn gweithio mewn partneriaeth â’r Lab a Rhanbarth Prifddinas Caerdydd i ddatblygu a darparu Cronfa Her. Pwrpas rhaglen Cronfa Her CCR yw creu cyfleoedd masnachol i gwmnïau, a wahoddir i gynnig atebion i heriau cymdeithasol mawr a nodir trwy broses gystadleuol gan gyrff cyhoeddus. Bydd rhaglen £10 miliwn y Gronfa Her yn cael ei chynnal dros dair blynedd a hanner ac mae'n cynnwys darpariaeth o £2 miliwn ar gyfer gweithgareddau ymchwil, rheoli a gweithredol y fydd yn cael eu cynnal gan CIPR a’r Lab mewn partneriaeth â'r CCR.

Mae rhaglen y Gronfa Her yn cynnig cyfle i ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd lunio a datblygu menter cronfa her, gan ymgymryd ag ymchwil sylfaenol sy'n llywio datblygiad polisi ac arfer newydd wrth weithredu a chyflawni'r gronfa, wrth fewnbynnu i gymhwyso ymchwil yn ymarferol sy'n cyfrannu at arloesedd gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn adeiladu ar waith blaenorol cyd-gynllunwyr CIPR a’r Lab ac yn rhagweld cyfleoedd yn y dyfodol gan fod cronfeydd her yn dod yn rhan gynyddol o ddulliau polisi o ddatblygu economaidd ac arloesi.

Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus y Dyfodol (Infuse)

Rhaglen arloesi ac ymchwil yw Infuse sydd wedi'i chynllunio i feithrin sgiliau a gallu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ar draws Rhanbarth Prifddinas Caerdydd.

Wedi'i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru, mae Infuse yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd, Y Lab, Nesta, Swyddfa Bargen Rhanbarth Prifddinas Caerdydd a'r deg awdurdod lleol sy'n rhan o'r rhanbarth.

Caiff y rhaglen ei hadeiladu o amgylch cyfleoedd i fynd i'r afael â chwestiynau yn y byd real, wedi'u sbarduno gan yr heriau mwyaf sy'n wynebu'r rhanbarth.

Arloesedd i Bawb

Mae arloesedd sy'n canolbwyntio ar heriau ac arloesedd sy’n canolbwyntio ar genhadaeth a datblygiad economaidd yn dod yn feysydd pwysig ym maes polisi arloesedd, ond mae profiad ymarferol o’r rhain yn dal i fod yn brin.

Mae cyllid wedi’i roi i’r Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd er mwyn lansio cyfres o weithdai Arloesedd i Bawb at ddibenion meithrin capasiti a gallu ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd o ran arloesedd sy’n canolbwyntio ar heriau, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth o sut y gall gwasanaethau cyhoeddus/elusennau/y trydydd sector elwa o wneud hyn.

MariNH3

Mae’r Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd a'r Ysgol Beirianneg yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Nottingham ar brosiect newydd i ymchwilio i botensial amonia i gyflenwi a datgarboneiddio'r diwydiant llongau pellter hir a rhoi hwb i sector trenau pŵer y DU.

Nod prosiect MariNH3, sy’n werth £5.5 miliwn ac yn cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, yw datblygu technoleg peiriannau newydd a tharfol a fydd, un diwrnod, yn lleihau’r llygredd sy’n cael ei allyrru gan longau diesel heddiw.

Bydd y prosiect pum-mlynedd yn archwilio atebion sy’n seiliedig ar dechnoleg ôl-osod a all fynd i’r afael â phroblemau sy’n ymwneud ag effeithlonrwydd peiriannau, lleihau defnydd o ynni a lleihau llygredd.

Mae consortiwm MariNH3 yn credu'n gryf y bydd angen defnyddio cymysgedd o dechnolegau i ddatgarboneiddio llongau’n effeithiol, gan nad fydd yr un tanwydd neu dechnoleg yn ein helpu i gyflawni sero net. Fodd bynnag, mae disgwyl i amonia gwyrdd chwarae rhan allweddol yn yr ymdrechion i ddatgarboneiddio llongau.

Staff academaidd

Yr Athro Rick Delbridge

Yr Athro Rick Delbridge

Professor of Organizational Analysis

Email
delbridger@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6644
Yr Athro Gillian Bristow

Yr Athro Gillian Bristow

Deon Ymchwil yn y Coleg Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Athro Daearyddiaeth Economaidd

Email
bristowg1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5388
Yr Athro Kevin Morgan

Yr Athro Kevin Morgan

Athro Llywodraethu a Datblygu

Email
morgankj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6090

Staff cysylltiedig

Yr Athro Phillip Brown

Yr Athro Phillip Brown

Distinguised Research Professor

Email
brownp1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4157
Yr Athro Luigi M. De Luca

Yr Athro Luigi M. De Luca

Professor of Marketing and Innovation

Email
delucal@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0) 29 2087 6886
Dr Shane Doheny

Dr Shane Doheny

Research Associate, Cardiff Capital Region Challenge Fund

Email
dohenys1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 1869
Yr Athro Tim Edwards

Yr Athro Tim Edwards

Pro-Dean for Research, Impact and Innovation
Professor of Organisation and Innovation Analysis

Email
edwardstj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6385
Yr Athro Arman Eshraghi

Yr Athro Arman Eshraghi

Professor of Finance and Investment, Deputy Head of Section for Research, Impact and Innovation

Email
eshraghia@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0880
Dr Anna Galazka

Dr Anna Galazka

Lecturer in Management, Employment and Organisation

Email
galazkaa@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6736
Yr Athro Jonathan Gosling

Yr Athro Jonathan Gosling

Reader in Supply Chain Management, Deputy Head of Section for Innovation and Research

Email
goslingj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6081
Dr Dylan Henderson

Dr Dylan Henderson

Lecturer in Management, Employment and Organisation

Email
hendersond3@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6928
Yr Athro Robert Huggins

Yr Athro Robert Huggins

Professor of Economic Geography

Email
hugginsr@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6006
Dr Zoe Lee

Dr Zoe Lee

Senior Lecturer in Marketing and Strategy

Email
leesh4@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2081 0885
Yr Athro James Lewis

Yr Athro James Lewis

Director of Y Lab

Email
lewisj78@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9874
Yr Athro Jane Lynch

Yr Athro Jane Lynch

Professor of Procurement

Email
lynchj2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6144
Dr Daniel Prokop

Dr Daniel Prokop

Senior Lecturer in Economic Geography

Email
prokopd@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9422
Dr Laura Reynolds

Dr Laura Reynolds

Lecturer in Marketing and Strategy

Email
reynoldsl4@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5704
Dr Maki Umemura

Dr Maki Umemura

Reader in International Business

Email
umemuram@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)2920 875 484
Yr Athro Maggie Chen

Yr Athro Maggie Chen

Senior Lecturer in Financial Mathematics

Email
chenj60@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5523
Dr Abid Mehmood

Dr Abid Mehmood

Lecturer

Email
mehmooda1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6232

Cyfres Ecosystemau Enrepreneuraidd Gweithdy 1 - 18 March 2021

Sesiwn 1 - Yr Athro Andrew Johnston

Gweithdy 1- Sesiwn 1| Yr Athro Andrew Johnston

Sesiwn 2 - Dr Daniel Prokop 

Gweithdy 1- Sesiwn 2 | Dr Daniel Prokop

Sesiwn 3 - Yr Athro Michael Fritsch a'r tîm

Gweithdy 1- Sesiwn 3 | Yr Athro Michael Fritsch and team

Sesiwn 4 - Dr Katharina Scheidgen a Ms Michaela Hruskova

Gweithdy 1- Sesiwn 4 | Dr Katharina Scheidgen, Ms Michaela Hruskova

Cyfres Ecosystemau Enrepreneuraidd Gweithdy 2 - 25 March 2021

Sesiwn 1 - Dr Rhiannon Pugh

Gweithdy 2 Sesiwn 1| Dr Rhiannon Pugh

Sesiwn 2 - Dr Ben Spigel

Gweithdy 2 - Sesiwn 2 | Dr Ben Spigel

Sesiwn 3 - Yr Athro Shiri Breznitz

Gweithdy 2 - Sesiwn 3 | Prof Shiri Breznitz

Sesiwn 4 - Yr Athro Robert Huggins Yr Athro Piers Thompson

Gweithdy 2 - Sesiwn 4 | Prof Robert H

Dyfodol sgiliau yn rhan o’r pedwerydd chwyldro diwydiannol (Ysgol Haf Rithwir 2022)

Credir yn gyffredinol fod tarfu digidol yn trawsnewid pob agwedd ar yr economi a chymdeithas. Mae’r tarfu hwn i’w weld yn cael ei yrru gan ddatblygiadau ar draws meysydd rhyngddisgyblaethol, sy'n arwain at ddatblygiadau technolegol allweddol ym meysydd deallusrwydd artiffisial, roboteg, gweithgynhyrchu ychwanegion, bioleg synthetig, deunyddiau clyfar ac ati.

Diben y sesiwn hon yw archwilio gwahanol ddehongliadau o'r pedwerydd chwyldro diwydiannol a rôl technolegau digidol yn y gwaith o (ail-)lywio dyfodol gwaith, addysg a marchnadoedd llafur. Mae'r Athro Brown yn cyflwyno syniad o ‘brinder swyddi’ yn hytrach na ‘phrinder llafur’, nad yw'n dynodi diwedd gwaith ond yn hytrach yr angen i ailasesu polisïau cyhoeddus presennol yn drylwyr.

The future of skills in the fourth industrial revolution video

Arloesi ym maes caffael a rheoli'r gadwyn gyflenwi (Ysgol Haf Rithwir 2022)

'Arloesi yw'r safon newydd’ – mae sôn am arloesi ym mron pob dogfen strategaeth neu ddatganiad o werthoedd, fel petai. Os ydych yn weithiwr caffael proffesiynol neu’n gyflenwr, beth mae arloesi’n ei olygu i chi?

Yn ystod y sesiwn hon, bydd Jane ac Oishee yn amlinellu rhai o’r pethau sy’n galluogi neu’n rhwystro arloesi yng Nghymru.

Innovation in procurement and supply chain management video

Arwain meddyliau

Mewn cyfweliad â Business News Wales, trafododd yr Athro Rick Delbridge y ffocws wedi'i ailfywiogi ar arloesi yng Nghymru ac yn rhan o fentrau Ymchwil a Datblygu'r DU.

Er mwyn cyfrannu at y dadleuon hyn, aeth y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd ati’n ddiweddar i adolygu'r polisi arloesedd cyfredol yng Nghymru. Gwnaeth hyn ddatgelu awydd am agenda arloesi mwy uchelgeisiol a chynhwysol. Beth mae'r datblygiadau hyn yn ei olygu i Gymru a sut mae Prifysgol Caerdydd yn ymateb i'r rhain?

Gwrandewch ar yr Athro Delbridge ar bodlediad Business News Wales