Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnodau i Ddeiliaid Cynigion

Offer holder day
Students at the 2020 offer holder day

Mae ein Diwrnodau i Ddeiliaid Cynigion yn gyfle i chi brofi diwrnod fel myfyriwr pensaernïaeth yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Ar ôl i chi dderbyn cynnig i astudio BSc/MArch Pensaernïaeth, byddwn yn anfon ebost yn eich gwahodd chi i un o'n Diwrnodau i Ddeiliaid Cynigion. Fel arfer, mae'r rhain yn cael eu cynnal rhwng mis Chwefror a mis Mawrth, a gallwch ddewis dyddiad sy'n addas i chi.

Mae derbyn cynnig gan Brifysgol yn ddewis mawr, a bydd angen yr holl wybodaeth arnoch er mwyn eich helpu i benderfynu. Mae Diwrnodau i Ddeiliaid Cynigion wedi’u dylunio er mwyn rhoi’r cyfle i chi gael gwybod rhagor am astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cewch gyfle i siarad â'n staff a’n myfyrwyr presennol a chael eich tywys o gwmpas Ysgol Pensaernïaeth Cymru a'i chyfleusterau.

Beth i'w ddisgwyl

Bydd cyflwyniadau'n rhoi gwybodaeth i chi am y cwrs a'r hyn y bydd yr Ysgol yn ei gynnig. Bydd ein myfyrwyr yn cynnal teithiau o amgylch ein hadeilad sy'n cynnwys ein gofod a chyfleusterau stiwdio.

Byddwch yn ymgymryd â thasg Pensaernïaeth mewn grŵp, gyda chefnogaeth un o'n myfyrwyr.  Mae hyn yn rhoi cyfle gwych i chi ddod i adnabod y myfyrwyr, a chael cipolwg go iawn ar eu bywyd fel myfyriwr Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Fel grŵp, byddwch hefyd yn creu model ac yn cyflwyno eich syniadau.

Bydd cyfle i rieni/gwesteion holi'r Tiwtor Derbyn a myfyrwyr presennol am unrhyw agwedd ar fywyd prifysgol.

Rydym wedi trefnu diwrnod sy'n rhoi llawer o gyfleoedd i chi ofyn cwestiynau anffurfiol a sgwrsio â staff a myfyrwyr.

Diwrnodau i Ddeiliaid Cynigion 2023

Yn 2023, rydym yn cynnal tri ddigwyddiad yn union yr un peth â'i gilydd i ddeiliaid cynigion. Cynhelir y digwyddiadau ddydd Dydd Sadwrn 11 Mawrth 10:00-14:00, dydd Mercher 29 Mawrth 10:00-15:00 a dydd Mercher 19 Ebrill 10:00-15:00.

Bydd cyfle i ddeiliaid cynigion a'u gwesteion gwrdd â myfyrwyr a staff Ysgol Pensaernïaeth Cymru (WSA), gan gynnwys aelodau o dîm derbyn myfyrwyr yr Ysgol. Bydd deiliaid cynigion hefyd yn cael blas ar brofiad myfyrwyr yr Ysgol drwy gymryd rhan mewn gweithdy dylunio yn y stiwdios dylunio. Bydd y gweithdy yn cynnwys gweithgareddau datrys problemau mewn ffyrdd creadigol a gwneud modelau mewn grwpiau bach. Myfyrwyr israddedig a staff addysgu fydd yn hwyluso’r grwpiau hyn.

I gael mynediad i'r digwyddiad, mae'n rhaid i chi fod â chynnig ar gyfer BSc Astudiaethau Pensaernïol ym Mhrifysgol Caerdydd.  Bydd pob deiliad cynnig yn derbyn gwahoddiad i gofrestru dros ebost cyn y digwyddiad.

Os na allwch ddod ar y diwrnod, rydym bob amser yn fodlon ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Cysylltwch â ni a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl.

Gweinyddwr Derbyn Myfyrwyr Pensaernïaeth