Ewch i’r prif gynnwys

Consortiwm Prifysgol Caerdydd

Wedi'i drefnu gan Dr Dimitra Ntzani, Dr Amalia Banteli a Dr Edmund Green o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, mae Addysgeg Empathetig yn adleisio ethos yr Ysgol o ddod â dylunio dan arweiniad y gymuned i flaen y gad o ran addysg yn y maes dylunio, gan wella profiad pawb o fod yn yr amgylchedd adeiledig.

Mae prosiect ac arddangosfa Addysgeg Empathetig yn rhannu'r wybodaeth a gasglwyd gan fyfyrwyr pensaernïaeth yn eu hail flwyddyn ac aelodau o Odyssey Hijinx yn ystod cyfres o gyfarfodydd creadigol i greu dyluniadau hygyrch ar gyfer y llwyfan i’w defnyddio yn Humbug!,  Cynhyrchiad Theatr Cynhwysol. Mae allbynnau'r prosiect bellach yn cael eu harddangos yng nghyntedd Adeilad Bute a hynny tan 31 Ionawr.

Roedd y prosiect unigryw hwn yn adlewyrchu egwyddorion hygyrchedd ac ystyriaethau ymarferol. Anogwyd myfyrwyr i fod yn rhan o weithdai cynhyrchiol, cydweithredol gydag aelodau o Odyssey Hijinx, er mwyn creu dyluniadau hygyrch ar gyfer y llwyfan. Drwy gyfrwng y gweithdai hyn, archwiliodd y myfyrwyr sut y gall strategaethau ‘dysgu trwy wneud’ ym maes addysg ddylunio eu helpu i ddod i ddeall perfformwyr sydd ag anableddau dysgu a/neu gorfforol, gan greu meddylfryd cynhwysol yn y pen draw.

Dywedodd Dr Amalia Banteli fod y Cynhyrchiad Theatr Cynhwysol hwn, 'Humbug! wedi digwydd cyn y Nadolig yn 2023 yn Theatr Weston Canolfan Mileniwm Cymru. Yn rhan o allbwn y prosiect Addysgeg Empathetig hefyd cafwyd arddangosfa cyn y cynhyrchiad o'r dyluniadau cynhyrchu. Roedd yr arddangosfa ar agor i'r cyhoedd cyn ac yn ystod cyfnod Humbug! yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fis Tachwedd 2023. Roedd yn gyffrous iawn gweld y myfyrwyr yn rhyngweithio â'r actorion a gweld sut yr esblygodd y rhyngweithio hyn yn gysylltiadau empathetig gan ddyfnhau dealltwriaeth y myfyrwyr o gynwysoldeb a sut mae'r cysylltiadau hyn yn ysgogi datblygiad meddylfryd cynhwysol.'

Wedi’i berfformio gan gast o actorion anabl ac actorion nad ydynt yn anabl, yn eu plith Dr Amalia Banteli Ysgol Pensaernïaeth Cymru ei hun, roedd Humbug! yn ddilyniant hwyliog a myfyriol o stori glasurol Charles Dickens, A Christmas Carol.

Mae Odyssey Hijinx, yn grŵp theatr cymunedol cynhwysol ar gyfer oedolion sydd ag anabledd dysgu a’r rheiny sydd ddim, sy'n rhannu angerdd ynghylch perfformio. Mae'n rhan o sefydliad ehangach Theatr Hijinx, cwmni cynhyrchu proffesiynol sy'n gweithio i arloesi, cynhyrchu a hyrwyddo cyfleoedd i actorion sydd ag anableddau dysgu a/neu sydd ag awtistiaeth.

Cafodd y prosiect ei ariannu a'i wneud yn bosibl gan Gronfa Arloesi Addysg Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd.