Ewch i’r prif gynnwys

Sioe Ysgol Pensaernïaeth Cymru 2024

Cafodd Sioe Haf Ysgol Pensaernïaeth Cymru 2024 ei lansio ar 21 Mehefin 2024.

Sioe dan arweiniad myfyrwyr yw hon. Mae'n ymdrech ar y cyd gan bob blwyddyn, cwrs a stiwdio dylunio yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Bydd yr arddangosfa’n cynnwys detholiad wedi’i guradu o ddarluniau, delweddiadau, modelau, siartiau, diagramau, mapiau, posteri, ffilmiau, arteffactau, a gwaith arall o’r holl gyrsiau a gynhelir yn yr ysgol yn y flwyddyn academaidd 2023-24.

Teitl y sioe yw ‘Transition’. Drwy guradu'r sioe, mae'r myfyrwyr yn dangos rhai o'r ffyrdd y mae newidiadau mawr sy'n effeithio ar gymdeithas heddiw - megis heriau i hawliau dynol a newid yn yr hinsawdd - yn effeithio ar eu prosiectau ac yn llunio eu syniadau dylunio, eu cynigion a'u delfrydau.