Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd Cymdeithas Addysgwyr ym maes Pensaernïaeth 2023

Productive Disruptive AAE conference

12-15 Gorffennaf 2023, Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, Caerdydd, DU.

‘Productive-Disruptive: spaces of exploration in-between architectural pedagogy and practice’

"Ceisiodd nifer ohonom ateb pam mae cymaint o bellter rhwng y cwrs pensaernïaeth a'r hyn welwn ni yn y byd go iawn. Fodd bynnag, gellid hefyd gofyn y cwestiwn pam mae byd go iawn pensaernïaeth mor bell oddi wrth y dychymyg a chreadigrwydd sydd ynghlwm â’r cwrs pensaernïaeth." (myfyrdod myfyriwr MArch1, 2018)

Bydd Cynhadledd Cymdeithas Addysgwyr ym maes Pensaernïaeth (AAE) 2023 yn dod ag academyddion, myfyrwyr, ac ymarferwyr ym maes pensaernïaeth a rhanddeiliaid yn yr amgylchedd adeiledig ynghyd i gwestiynu a all y 'bylchau' rhwng addysg ac ymarfer ym maes pensaernïaeth, a heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cyfredol, fod yn gynhyrchiol o ran peri newid.

Mae'r berthynas rhwng addysgeg ac ymarfer ym maes pensaernïaeth wedi bod yn cael ei hadolygu ers i’r ddeubeth gael eu ffurfioli. Yn addysgwyr ym maes pensaernïaeth yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, rydym wedi bod yn dystion i newidiadau ymysg myfyrwyr gradd meistr sy’n dychwelyd ar ôl blwyddyn allan yn ymarfer yn y maes. Mae nifer gynyddol o'u prosiectau dylunio ac ymchwil yn cwestiynu digonolrwydd addysg a digonolrwydd ymatebion cwmnïau pensaernïol o ran ymateb i argyfyngau byd-eang yn yr amgylchedd, ac i hil, yr economi, iechyd, cydraddoldeb a chyfiawnder. Mae ymatebion ac adborth y myfyrwyr ynghylch hyn, a'r ymdeimlad o frys sy’n ysgogi’r cyfan, yn estyn y tu hwnt i gwestiynu bylchau rhwng addysgeg ac ymarfer, ac yn fframio rhagofynion ehangach o ran arfer foesegol.

Bellach, felly, mae gofyn a yw myfyrwyr sy'n graddio yn barod i ymarfer, yn gwestiwn sydd wedi’i glymu’n dynnach o hyd i gwestiwn arall, sef a yw byd ymarfer yn barod ar eu cyfer hwy.

  • Sut gallai'r bwlch rhwng addysg ac ymarfer ym maes pensaernïaeth gael ei archwilio i ddatgelu mewn modd cynhyrchiol y ffyrdd o weithio nad ydynt bellach yn addas, a pheri newid?
  • Beth fyddai rôl posib personau fyddai’n gyfryngwyr o ran ysgogi newidiadau mewn modd effeithiol?
  • Sut gall addysg ym maes pensaernïaeth, gan gynnwys dylunio'r cwricwlwm esblygu er mwyn mynd i'r afael yn well â'r materion a'r heriau y mae dinasoedd a chymdeithasau'n eu hwynebu?

Bydd y gynhadledd hon yn gwahodd cyfraniadau sy’n trin a thrafod potensial cynhyrchu / tarfu (productive / disruptive) y bylchau sydd rhwng addysgeg bensaernïol, ymarfer, a’r cyd-destun byd-eang y maent yn ei ffurfio ac yn ymateb iddo, o ran archwilio’r gagendor rhwng disgwyliadau a phrofiadau; ymreolaeth a chydweithio; dysgu a gwireddu; delfrydau a chanlyniadau; ffiniau proffesiynol, cysyniadol a ffisegol; ac o ran cynnig a phrofi diffiniadau o arbenigedd, asiantaeth, pŵer, gwerth a llwyddiant rhwng addysg ac ymarfer pensaernïol.

Bydd Cynhyrchu-Tarfu: mannau o archwilio rhwng addysgeg ac ymarfer pensaernïol yn cael ei gynnal yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, rhwng 12-15 Gorffennaf 2023 a bydd opsiynau o ran sesiynau ar-lein pwrpasol ar gael. Rydym yn annog cydweithio rhwng addysgwyr, ymarferwyr, myfyrwyr, a rhanddeiliaid yn yr amgylchedd adeiledig.

Dyddiadau allweddol

DyddiadDigwyddiad
29 Medi 2022 Galw am gynigion ar gyfer papurau a gweithdai
16 Tachwedd 2022 Dyddiad cau ar gyfer crynodebau o bapurau a gweithdai
14 Rhagfyr 2022 Hysbysiad derbyn / Cofrestru'n agor
31 Ionawr 2023 Dyddiad cau ar gyfer cofrestru’n gynnar:
1 Mawrth 2023 Dyddiad cau ar gyfer drafft o bapurau ar gyfer eu hadolygu gan gyd-ymchwilwyr
3 Mai 2023 Dyddiad cau ar gyfer papurau llawn ar gyfer y gynhadledd
14 Mehefin 2023 Dyddiad cau ar gyfer cofrestru
12 Gorffennaf 2023 Digwyddiad min nos i lansio’r gynhadledd
13-14 Gorffennaf 2023 Sesiynau cyflwyno papurau a gweithdai'r gynhadledd
15 Gorffennaf 2023 Teithiau maes y gynhadledd

Galwad am gyflwyniadau

Rydym yn gwahodd cyfraniadau sy’n dathlu gallu’r bylchau rhwng addysgeg bensaernïol ac ymarfer i gynhyrchu / tarfu gan ehangu dealltwriaeth, herio rhagdybiaethau, meithrin dyheadau, ehangu ffiniau, gwahodd cydweithrediadau, a phrofi syniadau newydd a’u rhoi ar waith.

Gallai themâu papurau a gweithdai gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

Addysgeg yn tarfu, ar frys, mewn ffordd gynhyrchiol ar ymarfer ac i'r gwrthwyneb: a yw graddedigion yn barod i ymarfer neu a yw ymarfer yn barod ar gyfer graddedigion; bylchau o ran cynhwysiant mewn addysg ac ymarfer; sgiliau, ymddygiadau a chodau ymddygiad; ymreolaeth unigol neu ymarfer cydweithredol; asesu a metrigau llwyddiant; cysyniadau o ran methiant a risg; canlyniadau anfwriadol; nwyddháu addysg; llwybrau i mewn i a thrwy bensaernïaeth; addysgeg ar waith; delfrydau a chanlyniadau prosiectau byw; addysgeg ac ymarfer mewn argyfwng hinsawdd.

Cynyrchu/tarfu moesegol a gwleidyddol: dyletswyddau o ran gofal moesol ac athronyddol; gwirfoddoli a syndrom gwaredwr (saviour syndrome); gweithredaeth ar ffurf pensaernïaeth mewn addysgeg ac ymarfer; safbwyntiau ffeministaidd; safbwyntiau ôl-drefedigaethol a dad-drefedigaethol; beirniadaethau o ddulliau cynhyrchu; cysyniadau o werth; cyfalaf dynol a chynhyrchu'r amgylchedd adeiledig; cymhlethdod a chyfrifoldeb; bylchau rhwng delfrydau penseiri a buddiannau rhanddeiliaid.

Dulliau cynhyrchu a tharfu rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol: ffiniau arbenigedd; cydweithio, cyd-gynhyrchu, pŵer ac asiantaeth; addysgeg ac ymarfer amlddisgyblaethol; trosi o'r cysyniad i'r gweithredu; cyfathrebu a gweithredu ar draws disgyblaethau a rhyngddynt; dulliau cynhyrchu digidol a chorfforol; methodolegau amlddisgyblaethol.

Rydym yn Bydd cyfraniadau’r gynhadledd yn cynnwys:

  • papurau 3000-6000 (caiff y rhain a chyflwyniad 20 munud eu cynnwys yn y gynhadledd)
  • Cynigion ar gyfer gweithdai (gellir eu cynnig fel gweithdai hyd at 1-1.5 awr)
  • Cynigion ar gyfer posteri A1 yn ymdrîn ag Astudiaethau Achos (gall gynnwys modelau os cânt eu cludo gan awdur)
  • Ffilmiau (nodwch hyd - 10 munud ar y mwyaf)

Bydd y crynodebau yn cael eu hadolygu gan gymheiriaid ar sail ddwbl-ddall sy’n aelodau o bwyllgor trefnu 2023 yr aae. Bydd holl bapurau’r gynhadledd yn cael eu cynnwys yn nhrafodion ar-lein llawn y gynhadledd a byddant hefyd yn cael eu gwahodd i gyflwyno cynigion ar gyfer papurau mewn rhifyn arbennig o Charrette, cyfnodolyn yr aae.

Cyflwyniadau haniaethol ar gau - cysylltwch â ni i holi am bresenoldeb mewn cynadleddau

Aelodau Pwyllgor Cymdeithas yr Addysgwyr Pensaernïol (aae)

  • Yr Athro Jane Anderson (Yr Ysgol Pensaernïaeth, Prifysgol Oxford Brookes)
  • Dan Jary (Yr Ysgol Pensaernïaeth, Prifysgol Sheffield)
  • Yr Athro Hannah Vowles (Ysgol Pensaernïaeth a Dylunio Dinas Birmingham)
  • Julian Williams (Yr Ysgol Pensaernïaeth a Dinasoedd, Prifysgol Westminster)

Golygyddion Charrette

  • Dr Annie Bellamy (Pensaernïaeth a'r Amgylchedd Adeiledig, UWE Bryste)
  • Dr Davide Landi (Pensaernïaeth a'r Amgylchedd Adeiledig, Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste)

Cadwch eich lle

Cofrestrwch am le o 14 Rhagfyr 2022.

Cofrestrwch nawr

Cysylltu â ni

Cadeirir ‘Productive-Disruptive: spaces of exploration in-between architectural pedagogy and practice’ gan

  • Caroline Almond
  • Dr Steve Coombs
  • yr Athro a Phennaeth yr Ysgol Juliet Davis
  • Dr Ed Green
  • Dr Julie Gwilliam
  • Dr Shan Shan Hou
  • yr Athro Mhairi McVicar (AAE 2023 cadeirydd y gynhadledd)
  • Sarah O'Dwyer
  • Professor Andrew Roberts
  • Professor Magda Sibley

yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, y DU, ac mae'n gynhadledd Cymdeithas Addysgwyr Pensaernïaeth (AAE).

I gysylltu â threfnwyr y gynhadledd, cysylltwch â aae2023@caerdydd.ac.uk

Prif Areithiau

Ymhlith prif areithiau cynhyrchiol-anghonfensiynol yr aee yn 2023 y mae:

Immy Kaur, Civic Square

Drwy gydol ei gyrfa degawd o hyd, mae Immy wedi ffocysu ar greu a meithrin cymuned, rôl dinasyddion wrth greu newidiadau systemig a radical, a sut rydyn ni’n creu seilwaith cymdeithasol a sifig ar y cyd sy’n fwy democrataidd a chytbwys yn unol ag egwyddorion ffynonellau agored. Drwy wneud y gwaith hwn, mae hi wedi darganfod llawer am gyfiawnder economaidd a mathau ehangach o anghyfiawnder, rôl ganolog tir a seilwaith cymdeithasol/sifig mewn cymdogaethau, yn ogystal â'r gwerth a ysgubir ymaith oddi wrth gymunedau drwy ein modelau buddsoddi sydd wedi methu. Dyma daith barhaus o ddarganfod, codi o’r newydd a dysgu gyda'n gilydd.

Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr CIVIC SQUARE yw Immy. Sgwâr cyhoeddus yw CIVIC SQUARE. Dyma labordy creadigol er budd pawb yn y gymuned sy'n canolbwyntio ar seilwaith sifig a chymdeithasol er mwyn adfywio cymdogaethau. Mae Immy yn rhan o dîm arwain creadigol a deinamig sy'n gweithio ar y cyd â'r gymdogaeth leol, a hynny er mwyn cynnig dull beiddgar o greu gweledigaeth, meithrin seilwaith sifig cymdogaethau'r dyfodol a buddsoddi yn y rhain.

Charlie Edmonds, Civic Square a Future Architects Front

Charlie yw Dylunydd Mater Tywyll CIVIC SQUARE ac mae'n awdur llawrydd ar faterion pensaernïaeth a'r amgylchedd adeiledig o ran llafur a'r hinsawdd. Mae ei erthyglau wedi ymddangos yn yr Architectural Review, Building Design Magazine, a The Architects' Journal. Mae gan Charlie radd Meistr Pensaernïaeth a Dylunio Trefol o Brifysgol Caergrawnt lle cyd-sefydlodd sefydliad Future Architects Front gyda Priti Mohandas. Sefydliad llawr gwlad yw FAF sy'n trefnu gweithredu gwleidyddol ym maes pensaernïaeth, a hynny gyda golwg ar ddyfodol sy’n llawn cyfiawnder cymdeithasol ac ecolegol. Craidd gwaith Charlie yn CIVIC SQUARE yw her ôl-osod: sut i ddatgarboneiddio ein cymdogaethau ar y raddfa briodol a sut y gellir trefnu hyn drwy fudiadau cymdeithasol a llywodraethu sy’n digwydd yn lleol iawn.

Andrew Freear, o Swydd Efrog, Lloegr, yw Cyfarwyddwr Rural Studio Prifysgol Auburn.

Mae Freear wedi byw am fwy na ddau ddegawd yng nghefn gwlad Newbern, Alabama, tref â phoblogaeth o 187, lle mae'n cynnal rhaglen sy'n cwestiynu addysg gonfensiynol a rôl penseiri. Mae ei fyfyrwyr wedi dylunio ac adeiladu mwy na 220 o adeiladau, cartrefi a pharciau cymunedol yn eu cymdogaeth sydd heb ddigon o adnoddau. Athro, dylunydd, adeiladwr ac eiriolwr yw Freear, ac ef yw’r man cyswllt rhwng awdurdodau lleol, partneriaid cymunedol a myfyrwyr.

Cyhoeddwyd gwaith Freear yn helaeth, ac mae'n darlithio ledled y byd yn rheolaidd. Mae wedi dylunio a chreu eitemau arddangos yn Amgueddfa Victoria & Albert Llundain, Biennial Whitney, yr Amgueddfa Celf Fodern yn Efrog Newydd, yn ogystal â Triennale Milan a Biennale Fenis.

Ymhlith yr anrhydeddau y mae wedi’u hennill y mae Gwobr Ralph Erskine, y Wobr Fyd-eang am Bensaernïaeth Gynaliadwy, a Gwobr Pensaernïaeth Academi Celfyddydau a Llên yr Unol Daleithiau. Yn 2018, roedd Freear yn un o Gymrodyr Loeb ym Mhrifysgol Harvard ac yn 2020 enillodd Fedal yr Arlywydd gan Gynghrair Bensaernïol Efrog Newydd, sef anrhydedd uchaf y Gynghrair. Yn 2021, daeth yn Academydd Cenedlaethol yr Academi Ddylunio Genedlaethol a'r hydref hwn, enillodd Rural Studio y Wobr Ddylunio Genedlaethol ym maes Pensaernïaeth / Dylunio Mewnol gan Cooper Hewitt, Amgueddfa Ddylunio Smithsonian.